Home > Bywyd Coleg > WorldSkills a Rhaglen Potensial Uwch
Cystadleuaeth Sgiliau a Rhaglen Potensial Uwch
Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
WorldSkills
- Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru i herio, meincnodi a chynyddu eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau a chynrychioli’r coleg.
- Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.
- Mae’r cystadlaethau yn rhad ac am ddim ac fel arfer yn cael eu cynnal rhwng Ionawr a Mawrth bob blwyddyn.
AIDEN WILLIAMS
“Mae ennill gwobr yn werthfawr iawn i mi ac yn gyflawniad enfawr.
Fy hoff ran oedd cystadlu yn y dasg ymarferol.
Byddaf yn cystadlu yn World Skills UK.”
JOSHUA MITCHELL
“Mae ennill gwobr aur yn golygu mod i‘n gallu dangos fy sgiliau.
Fy hoff ran o’r gystadleuaeth oedd yr her. Dwi’n bwriadu cystadlu yn WorldSkills UK.”
PARIS POVEY
“Mae ennill gwobr yn golygu mod i wedi gwneud yn dda ac wedi adolygu’n dda.
Fy hoff ran o’r gystadleuaeth oedd y sgiliau wnes i eu dysgu.”
KATIE JONES
AIDEN WILLIAMS
“Gwnaeth ennill gwobr yn y gystadleuaeth yma wneud i mi deimlo’n falch o’r cynnydd dwi wedi’i wneud yn fy hyfforddiant presennol. Dwi wedi mwynhau wynebu heriau amrywiol. Dwi 100% eisiau parhau i herio fy hun yn rhagor.”
Beth yw WorldSkills?
Mae WorldSkills UK yn grŵp o gystadlaethau cenedlaethol a ddyluniwyd gan arbenigwyr yn y diwydiant i brofi eich gwybodaeth, sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd mewn amgylchedd cystadleuol wedi’i amseru.
Rydym yn falch o ddweud ein bod yn Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK ac yn aelod o’u rhwydwaith Arloesi. Mae Cambria wedi bod yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yn WorldSkills UK ac hefyd wedi bod yn enillwyr Medal Aur rheolaidd.
Darganfyddwch ragor am ein henillwyr medalau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ein rhestr o enwogion isod.
Yna bydd yr enillwyr yn cael y cyfle i gystadlu yn Worldskills, lle bydd y person ifanc yn cystadlu ar lefel ryngwladol i fod y gorau yn y byd.
Beth yw WorldSkills?
Cyfres o gystadlaethau rhyngwladol yw WorldSkills, ac fel arfer maent yn cael eu cynnal mewn un wlad benodol. Ar hyn o bryd mae 85 o wledydd sy’n aelodau sy’n helpu i gysylltu bron i ddwy ran o dair o’r byd.
Mae cystadleuaeth WorldSkills yn eich galluogi i brofi eich sgiliau, uwchsgilio trwy ddysgu gan arbenigwyr a chwrdd â phobl o bob rhan o’r byd.
Yn Cambria rydym yn hapus i gael nifer o fyfyrwyr yn ymuno â WorldSkills bob blwyddyn, gallwch ddarllen rhai o’u profiadau yn ein rhestr o enwogion.
Pam cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau?
- Cyfle i brofi eich sgiliau a’ch gwybodaeth
- Cystadlu yn erbyn rhai o oreuon y byd
- Cyfle i herio eich hun a dysgu gan arbenigwyr y diwydiant
- Cwrdd â chyfoedion o bob rhan o’r byd
Eisiau Cymryd Rhan?
ein Rhestr o Enwogion
Gadewch i gystadleuwyr WorldSkills Coleg Cambria eich ysbrydoli, rhai’r gorffennol a’r presennol. Darllenwch eu straeon llwyddiant anhygoel a gadewch iddynt ddweud wrthych chi pam y dylech ymuno yn y gystadleuaeth nesaf.
George sears
‘Diddorol iawn oedd cystadlu yn WorldSkills UK ac roedd yn brofiad gwych. Mae wedi agor llawer o lwybrau i mi ar gyfer y dyfodol ac rwy’n hapus iawn fy mod wedi gwthio fy ffiniau i gymryd rhan a dod adref wedi ennill gwobr!”
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Mae cymryd rhan yn fuddiol dros ben, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n nerfus am ei wneud. Byddwch yn cyfarfod pobl anhygoel ac yn cael y cymorth angenrheidiol gan y coleg. Mae’n gyfle gwych i roi hwb i’ch gyrfa ac i ennill profiad sydd ei angen yn y gweithle.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Roedd y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth derfynol genedlaethol yn brofiad gwych, ond roedd darganfod fy mod i wedi cael cyntaf yn deimlad anhygoel!’
Sian Plant
‘Ers dilyn cwrs Lefel 1 mewn Gwasanaethau ewinedd, mae fy nhiwtor wedi ceisio fy annog i gymryd rhan yn WorldSkills UK bob amser. Ar y cwrs Lefel 3, cefais yr hyder i gymryd rhan a chystadlu. Mae’r holl hyfforddiant a gefais hyd at y gystadleuaeth wedi fy helpu i wella fy sgiliau. Roedd cymryd rhan yn WorldSkills UK yn brofiad gwych.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yw mynd amdani ond i beidio â rhoi pwysau arnoch chi eich hun a chaniatáu amser i chi hyfforddi. Mae’n brofiad anhygoel i greu atgofion hefyd.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Gweld holl waith y cystadleuwyr eraill, yr holl bethau sy’n mynd ymlaen, gwella fy sgiliau a chreu’r gwaith a wnes i. A chael fy medal hefyd!’
tomas davies
‘Fe wnes i fwynhau fy mhrofiad yn WorldSkills UK eleni; fe wnaethon ni weithio’n dda fel tîm yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu, a wnaeth arwain at ennill y fedal arian. Fe wnaeth y gwaith caled dalu ei ffordd.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Mae cymryd rhan yn WorldSkills UK yn agor amrywiaeth o gyfleoedd i wella ein sgiliau a’u defnyddio yn ei gweithleoedd.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Ennill ein medal arian yn y seremoni!’
thomas williamson
‘Fe wnes i fwynhau fy mhrofiad yn WorldSkills UK yn fawr iawn ac rydw i wedi ennill nifer o sgiliau, sydd wedi gwella fy set o sgiliau.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Dwi’n awgrymu eu bod yn paratoi gymaint â phosib; mae hynny’n hollbwysig.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Mae’n ddifyr iawn. Rydych chi’n gwneud ffrindiau da, yn dysgu sgiliau newydd gwych ac yn cael profiad bywyd anhygoel.’
Oscar Jackson
‘Mae WorldSkills UK yn gyfle gwych ac yn sicr yn werth ei wneud.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Peidiwch â gorfeddwl, ewch amdani! Cofiwch baratoi yn dda.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Y dasg boresgop oedd fy ffefryn.’
Alfie Beeson
‘Mae WorldSkills UK yn gyfle gwych ac yn sicr yn werth ei wneud.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Peidiwch â gorfeddwl, ewch amdani! Cofiwch baratoi yn dda.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Y dasg boresgop oedd fy ffefryn.’
Cameron Pemberton
‘Fe wnes i fwynhau’r profiad o wneud yr Her Tîm Gweithgynhyrchu gyda gweddill y tîm yn fawr iawn.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Gweithiwch mor galed â phosib ar y dasg a bydd y gystadleuaeth yn dod yn haws.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Y seremoni wobrwyo.’
David Duncan
‘Roedd cystadlu yn WorldSkills UK yn un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed. Dwi wedi ennill llawer o brofiad a fydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Ceisiwch ymarfer gymaint â phosib. Mae canolbwyntio ac agwedd benderfynol yn allweddol.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Cyfarfod unigolion o’r un anian.’
Ieuan Evans
‘Roedd fy mhrofiad yn Worldskills UK yn llawn adegau a oedd yn newid byd; fe ddysgais i sut i weithio mewn tîm a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatrys problemau. Hefyd fe wnes i ddysgu sut i gymryd fy amser, a sut i ail-werthuso sefyllfa.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Cynllunio ar gyfer bob cam fesul wythnos. Adeiladu llawer o brototeipiau. Deall y bydd pethau’n mynd o’i le. Meddwl am gynllun B.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Cyfarfod pobl newydd o wahanol dimau a chystadlaethau gwahanol a chael cyfle i gystadlu o flaen cynulleidfa fawr. ‘
Kim McKee
‘Dwi wedi mwynhau fy mhrofiad yn fawr a dwi’n credu y bydd y sgiliau dwi wedi’u dysgu o fudd i mi yn fy mywyd personol a’m gyrfa broffesiynol.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Byddwn yn argymell cymryd rhan yn WorldSkills UK gan ei fod yn gyfle gwych i arddangos eich sgiliau a dysgu rhai newydd.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Cyfarfod pobl newydd a dysgu o brofiadau newydd.’
Lewis Rock
‘Roedd WorldSkills UK yn heriol ond yn brofiad gwerth chweil, mae wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn yn eu cael. Mae cystadlu yn WorldSkills UK wedi fy ngwneud yn gryfach ac yn fwy penderfynol i lwyddo, yn ogystal â rhoi hwb i fy hyder.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Bwyta’n iach. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi; os oes rhywbeth yn mynd o’i le cofiwch gymryd digon o seibiannau. Gwnewch ffrindiau newydd a gwobrwyo chi eich hunain.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Cyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau gwahanol.’
Laura Green
‘Cefais brofiad anhygoel yn rownd derfynol WorldSkills UK, gan ddysgu pethau newydd a chyfarfod pobl newydd. Mae’n brofiad bythgofiadwy a dwi’n ei argymell i unrhyw un sy’n cael y cyfle i gystadlu.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Dwi’n ei argymell i unrhyw un sy’n barod am her yn eu maes priodol gan ei fod yn brofiad gwych a chyfle anhygoel. Mae cystadlu yn rhoi’r cyfle i chi brofi a gwthio eich hunain.’
Y peth gorau am WorldSkills UK
‘Cyfarfod pobl newydd. Rhoi cynnig ar offer newydd. Gwthio fy ffiniau.’
Balázs Sparing
‘Pan wnes i ymuno ag Airbus fel Prentis yn 2014, cefais fy enwebu ar gyfer y gystadleuaeth gan fy nhiwtor ac ers hynny mae gwthio trwy’r camau diddymu i gyrraedd y pwynt hwn.’
Astudiodd Balázs Brentisiaeth systemau awyrennau a chystadlodd mewn cystadleuaeth Peirianneg Awyrennau WorldSkills UK– Cystadlaethau Mecanyddol. Enillodd fedal arian yn y Sioe Sgiliau yn 2016, Efydd yn y Gystadleuaeth Ranbarthol 2016 a chafodd ei ddewis fel aelod Sgwad Hir Cynnal a Chadw Awyrennau’r DU. Cystadlodd Balazs hefyd yn rownd derfynol WorldSkills yn Kazan, Rwsia yn 2019.
Emily Watson
Enillodd Emily fedal arian yn y rownd derfynol Therapi Harddwch (Corff) WorldSkills UK.
‘Dwi wedi mwynhau cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK am yr ail flwyddyn yn fawr iawn. Roedd ennill medal eto yn anhygoel. Dwi wedi bod yn hynod o lwcus o gael bod yn rhan o brofiad mor hyfryd a chystadlu gyda’r 8 o Therapyddion Harddwch gorau yn y DU.’
‘Mae fy hyder wedi cynyddu wrth gystadlu ac wedi fy helpu i gyflawni cymaint! Mae’r cymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael gan Goleg Cambria yn anhygoel! Y prif awgrymiadau sydd gen i ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno cystadlu yn y dyfodol yw mynd amdani a mwynhau pob eiliad.’
Davey Brookes
Enillodd Davey fedal Aur yn y rowndiau terfynol WorldSkills mewn Peirianneg Awyrennau. Fe gystadlodd y Prentis Airbus i ennill lle yn rownd derfynol WorldSkills yn Kazan, Rwsia yn 2019.
‘Roedd cyrraedd y rownd derfynol yn Kazan 2019 yn profi i’r byd mai chi oedd y gorau yn eich rôl, a oedd yn helpu eich gyrfa yn y dyfodol, gan ddangos eich bod yn ymroddedig ac yn frwdfrydig. Rydw wedi dangos diddordeb mewn awyrennau erioed ac mi benderfynais ymuno ag Airbus ar ôl cwblhau fy nghyrsiau Safon Uwch gan fod y llwybr prentisiaeth yn apelio’n fawr ataf.
Joshua Jones
‘Cystadlodd Joshua yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn Technoleg Modurol. Ar hyn o bryd mae’n brentis cerbydau modur yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy.’
Mae Josh bellach wedi cael ei ddewis ar gyfer y Sgwad Hir ar gyfer WorldSkills.
Sinead Beck
Enillodd Sinead fedal Arian yn rowndiau terfynol Worldskills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu. Astudiodd Sinead Beirianneg Awyrennau ac mae’n cael ei chyflogi gan Magellan.
Mae cystadlu yn WorldSkills wedi fy natblygu cymaint! Mae ennill Medal Arian yn rownd derfynol Worldskills UK wedi gwella fy hyder i fynd allan a rhoi cynnig ar bethau newydd. Bellach dwi’n cael hyfforddiant i fy helpu i wella hyd yn oed yn fwy wrth gystadlu am le yn y garfan fer a mynd i Rwsia. Fy awgrymiadau da fyddai: peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi eich hun, peidiwch â rhuthro a chofiwch gael digon o gwsg.’
Liam Roc
Enillodd Liam fedal Arian yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu. Astudiodd Liam Beirianneg Awyrennau ac mae’n cael ei gyflogi gan Magellan.
‘Roedd cymryd rhan yn WorldSkills UK yn brofiad gwych.’
Lewys Rawlings
Bu Lewys yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn Paentio ac Addurno.
‘Mae’r cystadlaethau sgiliau wedi bod yn waith caled iawn ac yn hynod gystadleuol. Dwi wedi mwynhau cystadlu ac ennill rowndiau terfynol rhanbarthol Cymru 2 flynedd yn olynol. Fe wnes i gystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi rhoi profiad ychwanegol i mi ac wedi cynyddu fy hyder yn fy ngwaith.’
Lewis Nolan
Enillodd Lewis fedal arian yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu. Mae’n astudio Peirianneg Awyrennau ac yn cael ei gyflogi gan Magellan.
‘Rwy’n teimlo bod fy nhîm a fy nghwmni wedi bod yn gweithio’n galed iawn ac roedd y cystadlaethau’n gyffrous iawn.’
Kendal Irvine
Enillodd Kendal fedal Arian yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu ac mae’n cael ei chyflogi gan JCB.
‘Ers cymryd rhan yn WorldSkills UK dwi wedi datblygu fy sgiliau yn fawr ac dwi’n falch fy mod i wedi gallu ennill medalau wrth gynrychioli JCB a Chymru. Mae gwaith caled yn talu ar ei ganfed!’
Callum Wall
Roedd Callum yn gystadleuydd yn rownd derfynol WorldSkills UK gan gystadlu yn CAD Peirianneg Fecanyddol. Ar hyn o bryd mae’n gwneud prentisiaeth yn CastAlum ac yn symud ymlaen i HNC yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy.
‘Mae WorldSkills wedi gwella fy ngallu i ddatrys problemau a gweithio mewn amgylchedd pwysau uchel ac wedi fy helpu i gydnabod yr angerdd sydd gen i ar gyfer y maes rwy’n cystadlu ynddo. Mae’r gystadleuaeth wedi fy helpu gyda fy ngallu i ryngweithio ag eraill oherwydd natur groesawgar y staff a’r cystadleuwyr eraill a oedd yn cymryd rhan.’
Dylan Edwards
Enillodd Dylan fedal Arian yn rownd derfynol WorldSkills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu.
‘Dwi wedi cystadlu yn her tîm WorldSkills Gweithgynhyrchu ar gyfer 2 gystadleuaeth genedlaethol bellach, gan ennill medal Efydd yn 2016 ac Arian yn 2017. Dwi hefyd wedi cael fy newis i’r garfan hir i gystadlu ar lefel ryngwladol dros Rwsia. Rŵan dwi’n dechrau fy hyfforddiant pwrpasol i mi ddatblygu fy sgiliau ar gyfer Rwsia. Mae JCB a’r coleg yn gwthio ein tîm ymlaen yn barhaus am unrhyw gymorth sydd ei angen arnom ar hyd y ffordd.’
‘Byddwn yn argymell y gystadleuaeth hon yn llwyr gan fod y sgiliau yr ydw i wedi’u dysgu wedi galluogi i mi eu defnyddio yn y gwaith a megis dechrau mae fy hyfforddiant!’
Jordon Hadrill
Bu Jordon Hadrill yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK mewn Technoleg Gwaith Llenfetel.
‘Rydw i wir wedi mwynhau cael cystadlu yn y cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Rwy’n teimlo bod y gystadleuaeth yn gyfle gwych i wthio’ch hun ac atgyfnerthu’r sgiliau ydych chi wedi’u dysgu.’
George Walker
Enillodd George fedal Arian yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn yr Her Tîm Gweithgynhyrchu.
Mae cystadlu yn WorldSkills wedi fy helpu i wella fy sgiliau datrys problemau. Mae fy nghyflogwr wedi ein cefnogi trwy amser i ffwrdd, arian ar gyfer y prosiect ac ardal bwrpasol i weithio ynddi. Mae’r coleg wedi ein cefnogi trwy amryw o hyfforddiant gwahanol a rhoi’r cyfle i ni ddefnyddio o’r peiriannau yn y gweithdai ar gyfer ymarfer. Byddwn yn bendant yn argymell cystadlaethau WorldSkills i fyfyrwyr eraill Cambria gan y bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau ac hefyd yn brofiad pleserus iawn.’
Karolina Witkowska
‘Mae’r broses gystadlu wedi codi safon fy sgiliau i lefel arall. Bydd cystadlu yn WorldSkills UK yn fy helpu gyda fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae wedi bod yn gyfle gwych i wneud atgofion bythgofiadwy.’
Oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan?
‘Daliwch ati i ymarfer, canolbwyntiwch a pheidiwch â chynhyrfu.’
Y darn gorau am WorldSkillsUK:
‘Cael cyngor gan feirniaid WorldSkills UK. Mae wedi rhoi cyfle i mi wella fy sgiliau ac ennill medal Aur y DU. Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â gwahanol gystadleuwyr o wahanol rannau o’r DU.’