Gweithio yng Ngholeg Cambria

Two people sat down in the Cambria Business School in Northop chatting and drinking hot drinks
Amdanom ni
Rydym yn un o’r Colegau Addysg Bellach mwyaf yn y DU, sydd wedi cael adroddiad ‘disglair’ gan Estyn yn ddiweddar. Rydym yn falch o fod yn goleg sydd wedi ennill gwobrau ac rydym wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd diwethaf – fel myfyrwyr, staff a’r coleg yn gyffredinol. Wedi’i leoli ar draws ffin Swydd Gaer/Gogledd Cymru, gall y coleg gynnig llwybr hawdd i chi i Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Mersi a Swydd Gaer. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi dros 1,300 o gydweithwyr o nifer o wahanol lefydd. Rydym yn cynnig dysgu o lefel mynediad i Addysg Uwch ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r prifysgolion gorau a dros 1000 o gyflogwyr. Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech fod yn rhan ohono, gwnewch gais heddiw!

Ewch i'n porth gyrfaoedd i weld yr holl swyddi gwag byw

Dewch i weld beth mae ein cydweithwyr yn ei ddweud

Darren Pleavin
Cyfarwyddwr
Cwricwlwm

Ar hyn o bryd, fi ydi’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm yng Ngholeg Cambria. Trwy gydol fy nghyfranogiad ar gwrs Arweinwyr Ysbrydoledig Coleg Cambria, cefais ddyrchafiad i’r swydd yma.

Dechreuodd fy nhaith yn 2011 pan wnes i gofrestru fel myfyriwr hŷn mewn cwrs nos Lefel 2 mewn Gwaith Saer. Gwnaeth y gefnogaeth a’r profiad gwnes i eu hennill rhoi hyder i mi fynd ar ôl Gradd mewn Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol. Yn 2016, gwnes i ymuno â Choleg Cambria fel Hyfforddwr / Arddangoswr. Roeddwn i’n cael fy ngwthio gan fy ngwerthfawrogiad newydd ar gyfer addysg ac awydd i gefnogi eraill. 

Wrth ddatblygu’n rhagor, cefais ddyrchafiad i swydd darlithydd ac roeddwn i’n cyflwyno Adeiladu Technegol AU oherwydd fy nghymwysterau a phrofiad. 

Gan oresgyn yr heriau roedd yn cael eu hachosi gan ddyslecsia, gwnes i gwblhau fy nghymhwyster TAR gyda chymorth gan adran ADY y coleg.

Er ei fod yn rhoi cnoc i’m hyder weithiau, dydi hynny heb effeithio ar fy nghyfleoedd datblygu personol a fy nhwf yn y coleg.

Dangos Rhagor

Lisa Radcliffe
Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol

Ar ôl treulio 5 mlynedd mewn gwaith cymdeithasol, gan arbenigo mewn pobl ifanc yn eu harddegau a’r glasoed, roeddwn i eisiau cael effaith sylweddol ar wella eu cyfleoedd bywyd. Gwnaeth hyn arwain at gwblhau cymhwyster TAR mewn addysg ol-16. Dros y 23 mlynedd diwethaf, dwi wedi cael y fraint o gefnogi a grymuso nifer o fyfyrwyr, gan eu helpu nhw i gynyddu eu hunanwerth, anelu at nodau gyrfa uwch,, a chymryd mantais o bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw. Dwi’n credu’n gryf yng ngrym trawsnewidiol addysg wrth feithrin llwyddiant a hapusrwydd mewn bywyd.

Fy hoff beth am fy swydd ydi cydweithio ar draws y coleg gyda chyfarwyddwyr o’r un anian, gan anelu at gynyddu cyflawniadau a dyheadau ein holl ddysgwyr. Dwi wirioneddol yn mwynhau’r gwaith tîm deinamig a gwerth chweil yma yng Ngholeg Cambria.

Yr hyn sy’n amlwg i mi am ddiwylliant y coleg ydi ei amgylchedd cynnes a chroesawgar. Maen nhw’n canolbwyntio ar lesiant staff sydd yr un mor bwysig â llesiant y dysgwyr. Mae’r diwylliant cynhwysol a chefnogol yma yn creu awyrgylch ffafriol a ffyniannus i bawb yng Ngholeg Cambria. 

Dangos Rhagor
Andrew Laurence

Andrew Laurence
Ymarferydd DYYG

Dechreuodd fy nhaith wrth i mi fod ar gwrs AET yng Ngholeg Cambria lle gwnes i gyfarfod â rhai o’n haseswyr a oedd ar y cwrs hefyd. Gwnaeth eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad yn eu swyddi fy ysbrydoli felly roeddwn i’n frwdfrydig i ymuno â’r Coleg pan ddaeth swydd wag tebyg i’r amlwg.

Erbyn hyn dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 6 blynedd a’r peth gorau am fy  swydd ydi’r rhyddid i ddarparu cefnogaeth wedi’i bersonoli i’r dysgwyr, gan eu helpu nhw ar eu taith unigryw a chyflawni eu nodau. Mae diwylliant cynhwysol Coleg Cambria yn sicrhau cefnogaeth sefydlog, gan fy ngalluogi i fod yn rhan o newidiadau cadarnhaol yn y coleg.

Mae gweithio yma wedi bod yn werth chweil yn broffesiynol ac yn bersonol. Dwi’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad mae Coleg Cambria yn ei ddangos i’w staff a’i ddysgwyr, gan ddarparu cymorth ymarferol a fy nghysylltu i gydag adnoddau gwerthfawr. Mae’n fraint cael cyfrannu at lwyddiant parhaus y coleg a gwneud gwahaniaeth i fywydau ein dysgwyr.

Dangos Rhagor

Rebekah McEvoy
Darlithydd Celf a Dylunio

Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers 1.5 mlynedd, yn adran Dysgu Sylfaen yn Iâl.

Fel darlithydd Celf a Dylunio, dwi wedi cael y faint o gefnogi creadigrwydd a chwilfrydedd dysgwyr trwy brofiad dysgu amrywiol yn cwmpasu dulliau digidol a thraddodiadol. Mae’n hynod o werth chweil gweld cynnydd a hyder y dysgwyr yn tyfu yn ystod y flwyddyn, gyda llawer ohonyn nhw yn symud ymlaen i lefelau uwch yn y coleg. 

Mae ein tîm yn cydweithio’n agos i fodloni anghenion addysgol a galwedigaethol y dysgwyr, gan ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr yn yr amgylchedd coleg. Mae’r diwylliant yng Ngholeg Cambria wedi’i nodweddu gan ei natur gadarnhaol a blaengar. Mae’r rheolwyr a’r cydweithwyr yn cynnig cefnogaeth eithriadol, gan greu amgylchedd dysgu cyfoethog, cadarnhaol a chefnogol.

Dangos Rhagor

Nicky Holland
Gweinyddydd Gwasanaethau Data Dysgwyr

Dwi wedi gweithio yng Ngholeg Cambria ers dros 18 mlynedd erbyn hyn ar ôl cael y swydd ar ôl gweithio mewn maes gweinyddu a chwilio am antur newydd.

Fy hoff rannau o’r swydd ydi cofrestru a chefnogi dysgwyr a staff yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Mae gan ein tîm Gwasanaethau Data Dysgwyr enw da am fod yn hawdd mynd atyn nhw, yn gefnogol ac yn llwyddiannus wrth wasanaethu dysgwyr, cydweithwyr a chwsmeriaid a dwi’n falch o fod yn rhan ohono.

Yr hyn sy’n amlwg yng Ngholeg Cambria ydi’r diwylliant cadarnhaol. Mae’n weithle hyblyg a chefnogol sy’n annog datblygu proffesiynol. Gyda chyfnodau o gau dros y Nadolig a gweithgareddau dros amser cinio fel dosbarthiadau cylchred neu ioga, mae’r coleg yn hyrwyddo llesiant a chydbwysedd gwaith-bywyd. Mae’n le gwych i weithio a ffynnu.

Dangos Rhagor

Tiffany Johnson
Ymgynghorydd AD

Ar hyn o bryd fi ydi’r Ymgynghorydd AD ar gyfer Sefydliad Technoleg a Phrofiadau Pobl yng Ngholeg Cambria. Gwnes i ddewis ymuno â’r coleg oherwydd ei enw da a’r cyfle dwi’n ei gael yno i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gan ddefnyddio fy sgiliau.

Gan ddechrau fel Gweinyddydd AD, gwnes i sylweddoli yn gyflym y potensial i ddatblygu yng Ngholeg Cambria. O fewn chwe mis yn unig, cefais ddyrchafiad i’m swydd bresennol, roedd hyn yn cadarnhau i mi fod y coleg yn lle i mi ddatblygu fy ngyrfa’n barhaus.

Mae ymrwymiad y coleg i feithrin dawn wedi bod yn allweddol yn fy nhaith. Dwi’’n ddiolchgar am y cyfleoedd twf proffesiynol mae Coleg Cambria yn eu cynnig a’r cyfle i gyfrannu at ei lwyddiant.

Dangos Rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost