Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd wedi helpu cyflwyno Wrecsam a Chymru i gynulleidfa fyd-eang, yn cryfhau ei gysylltiadau gyda’r Gymraeg, diolch i bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Gyda chefnogaeth ei darparwr lleol, Coleg Cambria, mae’r Ganolfan Genedlaethol wedi lleoli tiwtor, Huw Birkhead, i weithio llawn amser yn y STōK Cae Ras, ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Gymuned Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Huw wedi gweithio gyda staff y clwb ar draws sawl adran dros y tymor diwethaf, gan gynnwys darparu gwersi un-in-un a dysgu’r iaith i staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Mae e hefyd yn cefnogi Clwb Pêl-droed Merched Wrecsam gyda chyfweliadau Cymraeg yn y wasg ac ar y cyfryngau.
Mae cwrs blasu rhad ac am ddim, 10-awr o hyd, ar gael i gefnogwyr, yn ogystal â mwy na 1,500 o adnoddau dysgu digidol am ddim. Bydd y Clwb yn helpu cyfeirio cefnogwyr at y cyrsiau niferus sydd ar gael yn y gymuned, boed rhai wyneb-yn-wyneb neu’n rhai rhithiol.
Mae cyd-gadeiryddion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, yn barod wedi helpu hyrwyddo’r Gymraeg, gyda’r ddau yn siarad yr iaith yn y gyfres ddogfen arobryn, ‘Welcome to Wrexham’. Mae rhaglenni Cymraeg hefyd yn cael eu dangos ar sianel Maximum Effort TV channel yn yr Unol Daleithiau – y ‘Welsh Wednesdays’ – diolch i asiantaeth farchnata Ryan.
Mae’r clwb nawr yn awyddus i gynyddu sgiliau Cymraeg chwaraewyr, staff a chefnogwyr trwy weithio gyda’r Ganolfan i gynnal ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg.
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam, Humphrey Ker: “Mae atgyfnerthu gwerthoedd, traddodiadau ac etifeddiaeth ein cymuned yn rhan allweddol o genhadaeth y Clwb, ac mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o hynny.
“Rydyn ni’n falch o weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae ein staff wedi dangos eu bod yn awyddus i gryfhau eu sgiliau Cymraeg a defnyddio’r cyfle yma cymaint ag sy’n bosib.
“Hoffwn estyn croeso cynnes i Wrecsam i Huw a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a dymuno bob lwc i bawb sydd eisiau dysgu neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg.”
Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o fentrau a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ym myd y campau. Mae’r Ganolfan yn cynnal cynllun tebyg gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda’r Prif Weithredwr, Noel Mooney, yn dysgu’r iaith. Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i ddarparu hyfforddiant Dysgu Cymraeg i’w staff.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae angerdd a brwdfrydedd Clwb Pêl-droed Wrecsam, a’i berchnogion, Rob a Ryan, dros Wrecsam a Chymru yn glir i bawb, a rydyn ni wrth ein boddau i’w cefnogi gyda’r fenter newydd yma.
“Bydd ein rhaglen Dysgu Cymraeg, sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer y Clwb, yn galluogi chwaraewyr, staff a chefnogwyr i gryfhau eu sgiliau Cymraeg, ac yn creu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r iaith.”