Cyrhaeddodd dysgwyr ar y cwrs yng Ngholeg Cambria y tudalennau blaen y llynedd ar ôl iddyn nhw agor siop dros dro yn Hwb Menter safle Iâl yn Wrecsam, gan godi cannoedd o bunnoedd ar gyfer Hosbis Tŷ’r Eos
Eleni mae’r garfan Lefel 3 wedi mynd gam ymhellach, gan gasglu £637 ar gyfer Dogs Trust, WWF, Hosbis Tŷ Gobaith, Tŷ Ronald McDonald yn Ysbyty Plant Alder Hey, MIND Cymru a Cancer Research UK.
Y darlithydd Anne Williams sy’n esbonio sut yr aethon nhw ati.
“Fel rhan o’r rhaglen cafodd y dysgwyr y dasg o gynllunio a rhedeg eu busnes eu hunain,” meddai.
“Dewisodd pob un ohonyn nhw lansio menter gymdeithasol a fyddai’n cael effaith ar y gymuned a’r economi leol a phenderfynu y byddai’r elw i gyd yn cael ei roi i elusen.
“Roedd yna ddewis eang o fentrau, o ffotograffiaeth i ailgylchu, danteithion i anifeiliaid anwes, chwaraeon a rhagor, ond un peth oedd yn gyson oedd eu penderfyniad diwyro i wneud cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr achosion gwerth chweil hyn.
“Alla’i ddim dweud wrthych chi pa mor falch ydw i ohonyn nhw, maen nhw’n grŵp anhygoel, yn dalentog ac, yn anad dim, yn llawn positifrwydd.
“Maen nhw wastad yn creu argraff a bob amser yn rhoi eu hunain o flaen elw, ond ar yr achlysur hwn roedd yr elw i eraill.”
Ychwanegodd Anne: “Fel cydweithfa, hoffem ddiolch i bawb wnaeth ein cefnogi ni, yn enwedig ein cyd-weithwyr a myfyrwyr, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr elusennau dan sylw yn elwa o’r prosiect hwn.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.
DIWEDD