Straeon Prentisiaethau
Prentisiaethau ydy’r opsiwn perffaith i ennill wrth ddysgu, cymerwch gip ar y straeon isod i glywed beth sydd gan ein Prentisiaid a’n partneriaid Cyflogwyr ei ddweud am eu profiad.
Bywyd Fel Prentis | Taith Toyota Lucy
Gyrru Llwyddiant | Taith Prentisiaeth Toyota gyda Choleg Cambria
Ystyried Prentisiaeth? | Taith Charlotte Kronospan
Sut Mae Prentisiaethau'n Fuddiol I'ch Busnes | Mewnwelediadau gan Kronospan
Siop Swyddi Cambria | Cysylltu Cyflogwyr gyda Phrentisiaid
Magu Prentisiaethau gyda Choleg Cambria | Gofal Dydd Plant Roots and Wings
Halle Ennion
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
Ar Hyn o Bryd – Prentis Uwch yn The Secret Spa
“Ar hyn o bryd fy swydd ydi prentis uwch a gan fy mod i wedi cymhwyso ar lefel 2 a dwi wedi dechrau fy nghwrs lefel 3 yn barod.
“Fy swydd bresennol ydi adeiladu fy rhestr cleientiaid gyda’r salon, a dysgu fy sgiliau lefel 4 ar y swydd.
“Mi wnes i fwynhau popeth am astudio gyda Cambria eleni, ond uchafbwynt y flwyddyn oedd cystadlu yn sgiliau Cymru ac ennill aur ar gyfer y coleg yn y categori therapydd harddwch.
“Mae’r cwrs gwnes i ei astudio wedi helpu’n fawr gyda deall harddwch yn ei gyfanrwydd ac wedi fy mharatoi gyda’r holl wybodaeth dwi ei hangen.”
Karol Gorzym
Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Meddalwedd TG, Gwefannau a Thelecomau i Weithwyr Proffesiynol
Ar Hyn o Bryd – Gweithio yn Maelor Foods
“Dwi wedi dysgu cymaint wrth gwblhau’r cymhwyster yma, dwi wedi llenwi’r bylchau yn fy ngwybodaeth TG, yn enwedig am rwydweithiau a rhwydweithio.
“Dwi wedi ennill rhagor o sgiliau, wedi bod yn fwy proffesiynol, ac wedi cael codiad cyflog ers i mi orffen y cymhwyster!”
Naomi Spaven
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi
“Mae’r cwrs wedi rhoi gymaint o hyder i mi ac wedi fy helpu gyda fy nhasgau bob dydd yn y gwaith.
“Mae cael cymorth fy nhiwtor, Daryl, wedi bod yn amhrisiadwy – mae wedi bod wrth law i’n helpu i gydag unrhyw ymholiadau am y cwrs, ac mae wedi fy helpu gydag unrhyw gwestiynau am y gweithle hefyd!
“Mae’n hyfryd cael cymhwyster mewn pobi a dwi’n edrych ymlaen yn arw at symud ymlaen i Lefel 3.”
Alex Evans
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Garddwriaeth
Ar Hyn o Bryd – Gweithio yng Nghlwb Golff Maesdu
“Mi wnes i ddechrau’r cymhwyster yma i symud ymlaen ac ennill rhagor o wybodaeth yn fy ngwaith. Mi wnes i ennill rhagor o wybodaeth am afiechydon a phlâu penodol a sut i’w rheoli nhw mewn modd diogel wrth ddysgu amrywiaeth o bethau am iechyd a diogelwch yn y gweithle.
“Yn sicr mae wedi bod yn fuddiol i mi yn fy ngyrfa wrth gael ychydig rhagor o wybodaeth wrth wneud dyletswyddau/tasgau penodol. Rydych chi’n dysgu llawer o bethau eraill byddech chi byth wedi eu darganfod heb wneud y gwaith trwy’r coleg.”