Sut Mae Prentisiaethau'n Gweithio?
Sut Mae Prentisiaethau'n Gweithio?
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16+ oed a gweithio isafswm o 16 awr yr wythnos er mwyn cwblhau Prentisiaeth. Mae’n rhaid i’r cyflogwr fod yn barod i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth oherwydd byddwch chi’n cael eich asesu yn y gweithle ac efallai bydd angen i chi ddod i’r coleg (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd profiadol yn y diwydiant yn cael eu pennu i chi a fydd yn dod i’ch gweithle ac yn gosod tasgau i chi er mwyn i chi gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Byddan nhw hefyd yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblemau neu’n eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Gall Prentisiaethau Gael Eu Cyflwyno ar Lefel 2 – Lefel 6
Dyma’r man dechrau ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a’r ddealltwriaeth o’r swydd i chi.
Mae Lefel 3 yn ddilyniant o Lefel 2 ac yn rhoi gwybodaeth ddyfnach i chi o’r pwnc ac mae’n gyfwerth â 2 gradd llwyddo Safon Uwch. Efallai bydd angen i chi fod mewn swydd benodol i fod yn gymwys.
Mae cymwysterau HNC neu NVQ Lefel 4/5 fel arfer yn gyfwerth â blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon.
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â’n partneriaid prifysgol.