Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

for a news story 'Rising to the Challenge: Our Learners Put to the Test Ahead of the UK Skills Olympics'

Mae grŵp o fyfyrwyr a phrentisiaid Cynnal a Chadw Awyrennau o Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi cwblhau ‘prawf pwysau’ yn erbyn y cloc ac o dan lygad barcud Jamie Mapp-Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Prentisiaethau Llawn Amser a’r Swyddogion Hyfforddiant Technegol, Caleb Maxfield a Rosie Boddy.

Yn y gorffennol mae Rosie wedi ennill y wobr aur yng nghystadleuaeth WorldSkills UK ac mae’r sefydliad wedi ardystio’r digwyddiad cyn y rownd derfynol genedlaethol eleni sy’n cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled De Cymru ym mis Tachwedd.

Dros gyfnod o 48 awr cynhaliwyd cyfres o brofion mewn tair disgyblaeth wahanol – gwaith llenfetel, archwilio adenydd a gosodiadau trydanol.

Roedd y Swyddogion Hyfforddiant Technegol yn asesu eu perfformiadau yn unol â chynlluniau marcio sy’n efelychu gweithgaredd mewn bywyd go iawn, tablu a chymharu canlyniadau yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y categori Cynnal a Chadw Awyrennau

Roedd y prentisiaid yn eu blwyddyn gyntaf yn cynrychioli partneriaid y diwydiant, Airbus, Raytheon, NWI ac Aircamo Aviation ac yn ôl Caleb roedd y sesiynau yn “arfer orau” er mwyn eu cyflwyno nhw i’r gystadleuaeth WorldSkills UK.

“Rydym wedi cael ein plesio’n arw gyda’r sgiliau sy’n cael eu harddangos ac mae’r canlyniadau yn ddiddorol iawn,” meddai.

“Roedd y tri phrawf yn eu cyflwyno nhw i bethau newydd ac yn dangos elfennau o waith tîm a oedd yn wych i’w weld.

“Roedd yn ymdrech wych gan bawb a’r gobaith wrth symud ymlaen yw cynnal mwy o sesiynau fel hyn i baratoi ein dysgwyr ar gyfer y gystadleuaeth yn ogystal â’r byd gwaith.”

Ychwanegodd Jamie: “Roedd yn rhoi blas iddyn nhw o gystadlu mewn cystadleuaeth ac yn gyfle da i roi cipolwg iddyn nhw ac i weld os ydyn nhw’n barod ar gyfer sefyllfa o’r fath.”

Roedd Rosie yn un o chwe myfyriwr a phrentis ifanc a thalentog o Gymru i gynrychioli Tîm y DU yn WorldSkills Lyon 2024.

Meddai: “Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw brofi unrhyw gystadleuaeth fel hyn. Mae’n brofiad gwahanol i’r hyn y maen nhw wedi’i arfer gyda bob dydd ac mae’n eu rhoi nhw o dan bwysau amser i weld os ydyn nhw’n mwynhau ac yn ffynnu o dan bwysau o’r fath.

“Dydi o ddim ar gyfer pawb ac felly mae’n gyfle da i weld os ydyn nhw’n hoffi bod o dan bwysau cyn i ni edrych ar gyflwyno nhw i gamau pellach yn y gystadleuaeth.”

Ategodd Robert Jones, Arweinydd y Gystadleuaeth Sgiliau: “Mae Cambria wedi paratoi’r ffordd ymlaen i lwyddiant yn y dyfodol mewn cystadlaethau ac mae’r digwyddiadau profi hyn yn chwarae rhan allweddol i’w paratoi nhw i ffynnu o dan bwysau.”

Ychwanegodd Parisa Shirazi, Cyfarwyddwr Safonau WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth sgiliau lleol Cynnal a Chadw Awyrennau yng Ngholeg Cambria.

“Mae dysgu trwy gystadlu yn cael ei gydnabod gan addysgwyr fel un o’r offer mwyaf pwerus ar gyfer gwella ansawdd yn ogystal â datblygu ac asesu sgiliau technegol.

“Mae’r fframwaith hwn wedi cael ei lunio i godi safonau, ysbrydoli uchelgais a darparu mynediad i staff addysgu a dysgwyr at ddatblygu sgiliau o’r safon gorau er mwyn cwrdd â’r galw sy’n newid drwy’r adeg mewn diwydiannau sydd eisoes yn bodoli a diwydiannau newydd.”

Am fwy o wybodaeth ar WorldSkills UK ewch i www.worldskillsuk.org.

Ewch i’r wefan ganlynol am fwy o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria www.cambria.ac.uk.

https://www.youtube.com/watch?v=HhGyRCulIGI

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost