Home > Ymgyrchoedd > Clirio
Canolfan Brifysgol Cambria Creu Dyfodol Mwy Disglair
PLA
Mae gennym rai lleoedd ar gael o hyd ar ein cyrsiau lefel gradd sy’n dechrau ym mis Medi.
P’un ai ydych chi’n:
- Mynd drwy’r broses glirio
- Awyddus i astudio’n agosach at adref
- Eisiau symud ymlaen yn eich gyrfa
- Neu’n meddwl am ddechrau gradd
Darganfyddwch beth mae Canolfan Brifysgol Cambria yn gallu ei gynnig i chi
Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Brifysgol Cambria
Yng Nghanolfan Brifysgol Cambria, mae ein cyrsiau lefel gradd wedi’u cynllunio gyda chyflogaeth mewn golwg er mwyn hybu potensial eich gyrfa i’r eithaf.
Rydym ni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ein cyfleusterau a’n safleoedd, ac mae ein myfyrwyr wedi elwa o hynny, gan gyflawni canlyniadau rhagorol a rhagolygon gwell o gael swyddi fel graddedigion. Mae mewnbwn gan gyflogwyr yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich dewis yrfa.
Mae pob un o’n cyrsiau lefel gradd yn cael eu dilysu gan rai o brifysgolion gorau Prydain. Ein partneriaid presennol yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caer, Prifysgol John Moores Lerpwl a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.