Jan starts hero image-01 (2)

2025: Eich Blwyddyn i Ffynnu -Mae Gennym Ni Gyrsiau sy’n Dechrau ym mis Ionawr!

Rydyn ni’n darparu ystod enfawr o gyrsiau i helpu i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i roi hwb i’ch gyrfa neu ddod o hyd i hobi newydd. O harddwch i adeiladu, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.

Rhesymau dros ddechrau cwrs newydd…

Anelu am ddyfodol mwy disglair trwy astudio cwrs rhan-amser 

Eisiau dysgu sgiliau i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol 

Eisiau dysgu hobi newydd neu sgiliau gyda chwrs rhan-amser

Dysgu i siarad Cymraeg gyda Chymraeg i Oedolion

Gallu helpu eich plentyn gyda Mathemateg neu Saesneg

Sgiliau i Oedolion

Mae ein tîm Sgiliau i Oedolion hefyd yn darparu cyrsiau ar ein safleoedd neu yn y gymuned i helpu oedolion i wella ei sgiliau Mathemateg, Saesneg a TG.

Cyrsiau am ddim*

Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yw rhoi cefnogaeth am ddim* i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith ar lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth.
Os ydych chi’n hŷn na 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (gan gynnwys mewn perygl o gael eich diswyddo a charcharorion ar ôl cael eu rhyddhau am ddiwrnod) gan ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,371 y flwyddyn*, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych o gael mynediad at astudiaethau rhan-amser ar gyrsiau penodol.

Dewch o Hyd o Gwrs i Chi

Oes gennych chi gwestiwn?

Ffoniwch neu anfonwch e-bost at ein tîm heddiw i gael rhagor o wybodaeth.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

mail svg

E-bost

Ein Safleoedd

Edrychwch ar ein safleoedd mewn 3D trwy ddewis un o’r delweddau isod!

Os oes gennych benset rhith realiti, gallwch chi hefyd weld y cyfleusterau mewn rhith realiti.