Coleg 16-18

Cadwch eich Lle yn ein Digwyddiadau Agored mis Tachwedd Rŵan!

Digwyddiadau Agored Cambria ydy’r cyfle perffaith i chi ddarganfod sut beth ydy astudio gyda ni.

Maen nhw’n gyfle i ddarganfod rhagor am ba bynciau rydyn ni’n eu cynnig, gweld ein cyfleusterau o’r radd flaenaf, cyfarfod â’n tiwtoriaid cwrs arbenigol a siarad â myfyrwyr presennol am sut beth ydy astudio yn Cambria.

Bydd ein partneriaid cyflogwyr yno hefyd i drafod cyfleoedd i symud ymlaen a phrentisiaethau.

Bydd Canolfan Brifysgol Cambria yno hefyd i drafod cyrsiau gradd i’w rheiny sy’n dymuno dechrau cwrs prifysgol ym mis Medi.

Dysgwch ragor yn ein digwyddiad agored am ein darpariaeth ran-amser a chyfleoedd cyllid sy’n gweddu eich swydd a’ch ffordd o fyw trwy siarad â’n tiwtoriaid profiadol.

Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yn Cambria. Mae’r digwyddiadau agored yn gyfle gwych i siarad â thiwtoriaid, dewch i ddysgu rhagor am ddysgu yn Gymraeg.

Yn ogystal â dysgu am y cyfleusterau a’r gwasanaethau cymorth ar ein safleoedd, mae hefyd yn gyfle delfrydol i wneud cais i astudio gyda ni – bydd gennym staff wrth law ym mhob digwyddiad i’ch helpu gyda hyn.

Isod, mae rhestr o ddyddiadau ac amseroedd digwyddiadau agored Cambria sydd i ddod. Cliciwch ar y digwyddiad isod rydych am ddod iddo, cwblhewch eich manylion i gadarnhau eich archeb a byddwn ni’n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi’n fuan.

Cadwch eich Lle yn ein Digwyddiadau Agored Mis Tachwedd

Er mwyn cadw eich lle yn y digwyddiad agored y mae gennych ddiddordeb ynddo, yn gyntaf dewiswch y lleoliad/lleoliadau isod.

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy

Nos Fercher 8 Tachwedd 5-8pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Llysfasi

Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 10am-1pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Ffordd y Bers

Nos Fercher 15 Tachwedd 5-8pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Iâl a Chweched Iâl

Nos Fercher 15 Tachwedd 5-8pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Llaneurgain

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 10am-1pm

I ddod i'r Digwyddiad Agored cliciwch ar y botwm isod

Syniadau Da ar gyfer Digwyddiad Agored

Gwnewch y gorau o’ch amser yn ymweld â Cambria trwy ddefnyddio’r syniadau hyn.

Siaradwch â'r tîm

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i Cambria!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom ni

enquiries@cambria.ac.uk

Ynglŷn â’n Coleg

Cawsom ein sefydlu yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydyn ni wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Ni yw un o’r colegau mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr amser llawn, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein chwe safle, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesi ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i ddarparu addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni ei lawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i waith Cambria ddod yn fwyfwy pwysig i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol