main logo

Diwrnodau Myfyrwyr Newydd

Mae Diwrnodau Myfyrwyr Newydd yn rhoi cyfle i chi, fel ymgeisydd, gyfarfod eich tiwtoriaid a chyfarfod myfyrwyr newydd eraill, gweld ble byddwch chi’n astudio ym mis Medi, cael gwybod am gymorth i fyfyrwyr a chael teimlad cyffredinol o sut beth ydy bod yn fyfyriwr yn Cambria.

Ymgeiswyr Camu at Cambria

Dydd Mawrth 18 Mehefin

Pob Safle

Ymgeiswyr Mynediad a Lefel 1

Dydd Iau 20 Mehefin

Pob Safle

Ymgeiswyr Lefel 2, Lefel 3 a Safon Uwch

Dydd Gwener 21 Mehefin

Pob Safle

Cludiant

Bydd cludiant y coleg ar gael ar gyfer y Diwrnodau Myfyrwyr Newydd ddydd Iau 20 a dydd Gwener 21 Mehefin. Gallwch weld amserlenni bysiau’r coleg yma.

Sylwch: Bydd angen i unrhyw fyfyrwyr sy’n teithio ar fws Arriva dalu am eu tocyn bws ar gyfer eu Diwrnod Myfyrwyr Newydd, ond byddwch yn cael tocyn bws ym mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth am fysiau a chludiant, cysylltwch â’n Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cambria.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin

Bydd ein ffreutur ar agor os ydych chi’n llwglyd a bydd ein staff cyfeillgar yn dangos i chi ble i fynd.

Byddwn ni’n rhoi taleb cinio i chi ei defnyddio yn unrhyw un o’n caffis neu ffreuturau ar y safle.

Gwisgwch ddillad call sy’n addas ar gyfer eich cwrs.

Dewch â chi eich hun, a beiro a llyfr nodiadau gyda chi.

Rydyn ni am i chi fwynhau eich diwrnod myfyriwr newydd. Os ydych yn bryderus ac angen cymorth ychwanegol ar gyfer eich llesiant ar gyfer pan fyddwch chi’n cyrraedd, cysylltwch â llesiant@cambria.ac.uk.

Mi fyddwn ni’n cynnal ffeiriau cymorth i fyfyrwyr yn ystod Diwrnodau Myfyrwyr Newydd ddydd Iau 20 a dydd Gwener 21 Mehefin. Mi fydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddarganfod rhagor am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i fyfyrwyr, clybiau a chymdeithasau, Cambria Heini a rhagor. Hefyd, yn Iâl a Ffordd y Bers, mi fydd Ymddiriedolaeth y Tywysog yno yn cynnig cymorth gyda dod o hyd i gyllid ar gyfer gwisg, cit, ac ati, os ydych chi’n gymwys.

Rydyn ni’n deall fod pobl yn newid eu meddwl ac mae hynny’n iawn gennym ni. Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau trwy anfon e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 007 a byddwn ni’n newid eich cais ar eich rhan chi.

Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau trwy anfon e-bost at admissions@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 007, a byddwn ni’n tynnu eich cais yn ei ôl. Rhowch wybod i ni pam nad ydych chi eisiau astudio yn Cambria bellach i ni gael nodi hynny ar eich cais.

Os nad ydych wedi uwchlwytho llun ohonoch eich hun ar gyfer eich cerdyn adnabod Cambria eto, gwnewch hynny cyn gynted â phosib. Mae angen eich llun arnom ni i greu eich cerdyn adnabod personol er mwyn i chi gael mynediad o amgylch y coleg ac i’n mannau gwerthu bwyd.

Unrhyw gwestiynau arall neu bryderon?

Ffoniwch ni ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at studentservices@cambria.ac.uk