Medru

PLA

Prosiect ar y cyd yn y Gogledd rhwng Coleg Cambria, Prifysgol Bangor a’r Brifysgol Agored yw Medru. Mae wedi’i anelu at ddarparu cyfle i ddysgwyr ennill sgiliau a gwybodaeth dechnegol werthfawr Diwydiant 4.0. Bydd yn helpu llenwi bwlch sgiliau yn y diwydiant.

Yr uchelgais yw i Medru gynnig hyfforddiant Diwydiant 4.0 ar draws gogledd-ddwyrain Cymru gyfan, gan gefnogi busnesau a phobl yn eu dyheadau, a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig i ddechrau ar naw piler Diwydiant 4.0 –

  • Robotiaid Ymreolaethol
  • Rhyngrwyd Pethau (IoT)
  • Efelychiad
  • Realiti Estynedig
  • Seiberddiogelwch
  • Cyfannu Systemau
  • Cyfrifiadura Cwmwl
  • Gweithgynhyrchu Ychwanegion
  • (Argraffu 3D)
  • Data Mawr

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Medru Logo

Darganfyddwch pa gyrsiau sydd ar gael

Ffoniwch neu anfonwch e-bost at ein tîm heddiw i gael rhagor o wybodaeth.

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

mail svg

E-bost