Sesiwn Galw Heibio Canolfan Brifysgol Cambria

Sicrhewch Ddyfodol Disglair gyda Gradd yng Nghanolfan Brifysgol Cambria!

Os ydych yn ystyried dechrau cymhwyster gradd eleni ac eisiau astudio’n lleol, beth am gymryd cip ar Ganolfan Brifysgol Cambria?

Mae gennym ystod o raddau sy’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â phrifysgolion gan gynnwys Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mae ein hystod o bynciau gradd yn cynnwys:

  • Addysgu (PCE-PCET/ TAR-PCET)
  • Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil a Gweithgynhyrchu)
  • Astudiaethau Plentyndod
  • Chwaraeon
  • Cyfiawnder Troseddol
  • Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
  • Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu
  • Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Trydanol/Mecanyddol)
  • Peirianneg Sain a Chynhyrchu Cerddoriaeth
  • Rheolaeth Anifeiliaid
  • Rheoli Busnes Cymhwysol
  • Technoleg Drydanol ac Electronig
  • Technoleg Fecanyddol
  • Twristiaeth a Lletygarwch

Dewch i ddarganfod rhagor yn un o’n Digwyddiadau Galw Heibio’r Haf:

Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 10am – 7pm – safle Iâl, Wrecsam

Dydd Mercher 27 Gorffennaf 10am – 7pm – safle Glannau Dyfrdwy

Cadwch eich lle

Glannau Dyfrdwy

Os hoffech ddod i Ddigwyddiad Galw Heibio'r Haf Glannau Dyfrdwy cliciwch y botwm isod

Iâl

Os hoffech ddod i Ddigwyddiad Galw Heibio'r Haf Iâl cliciwch y botwm isod