Yn ddysgwr Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg Cambria (Safle Iâl) a chyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Darland fe enillodd Chwaraewr y Flwyddyn Academi Bob Clark ar gyfer tymor 2023/24 ar ôl creu argraff yn nhîm o dan 18 Nick Chadwick.
Gan adeiladu ar ei berfformiadau’r tymor diwethaf mae’r chwaraewr canol cae creadigol wedi bod yn rhan o dîm Phil Parkinson chwe gwaith yn yr holl gystadlaethau.
Ganwyd Harry yn Wrecsam ac mae wedi tyfu i fyny fel cefnogwr o’r Dreigiau gan sgorio ei gôl broffesiynol gyntaf i’r clwb ar 4 Chwefror mewn buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Port Vale yn y Tlws Vertu.
Ar ôl iddo arwyddo ei gytundeb newydd fe ddywedodd Harry sy’n 18 oed: “Roedd yn deimlad anhygoel arwyddo cytundeb newydd gyda fy nghlwb. Dwi’n edrych ymlaen at weld beth allai ei gyfrannu at y tîm cyntaf – gyda’r gobaith y gallaf brofi fy ngallu.”
Mae Harry wedi datblygu trwy Academi’r Clwb o’r tîm o dan 12 i’r tîm cyntaf gan wneud ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf ym mis Hydref 2023 yn erbyn Crewe Alexandra.
Mae ei ddatblygiad wedi tynnu sylw yn gyson wrth iddo deithio i TST yn North Carolina, cyn ymuno â Thaith Wrecsam o Arfordir yr UDA a Chanada.
Chwaraeodd yn y ddwy gêm yn yr UDA yn erbyn AFC Bournemouth a Chelsea gyda’r Dreigiau yn creu argraff gyda’u perfformiadau gan sicrhau gemau cyfartal yn erbyn y ddau dîm.
Ychwanegodd y Rheolwr, Phil Parkinson: “Hoffwn longyfarch Harry ar ei gytundeb newydd. Mae o wedi gweithio’n galed yn y gemau cyn y tymor ddechrau ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld o’n datblygu.”