Mae’r coleg sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – wedi cyrraedd rownd derfynol y British Council Award for Excellence in International Work yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC).
Cynhaliwyd y seremoni yn Westminster yn Llundain gyda’r Is-Bennaeth Astudiaethau Technegol, Vicky Edwards a Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol Glannau Dyfrdwy yn mynychu’r digwyddiad ar ran y coleg.
Roedd y clod yn cyfeirio at ymweliad gan fyfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Fietnam gan dreulio pythefnos yno gyda merched mewn canolfan cymorth cymdeithasol a myfyrwyr mewn ysgolion cynradd lleol yn darparu gweithdai ar Saesneg Llafar a’r Gymraeg.
Trefnwyd y daith gan Lisa mewn partneriaeth â Challenges Abroad sy’n darparu ac arwain anturiaethau moesegol i bobl ifanc o bob cwr o’r byd gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Gynllun Teithio Adran Addysg Llywodraeth y DU.
Dywedodd mai Cambria oedd y coleg cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen beilota Fietnam Challenges Abroad ac roedd yn “fraint enfawr”.
“Wel mae’r ffaith ein bod ni wedi cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon a chael bod ymysg y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn anrhydedd anferthol” ychwanegodd Lisa.
“Ein nod yw rhoi’r cyfleoedd mwyaf anhygoel a hygyrch i’n dysgwyr a hynny yn y DU a thramor ac mae’n galonogol iawn gwybod bod hynny’n cael ei gydnabod.”
Talodd Vicky deyrnged at “dîm anhygoel” o ddarlithwyr a staff y coleg am drefnu alldeithiau academaidd a lleoliadau swydd sy’n rhoi blas o ddiwylliannau, traddodiadau ac arferion gwaith gwahanol i fyfyrwyr.
“Mae’r teithiau hyn wedi bod yn amhrisiadwy gyda magu hyder a dangos beth sydd allan yna i fyfyrwyr a hynny mewn nifer o wahanol ddiwydiannau ledled y byd,” meddai.
“Ac yn yr achos hwn mae’r profiad hefyd wedi bod yn fuddiol tu hwnt i’r cymunedau wnaeth dderbyn ymweliad gan ein myfyrwyr, yn arbennig y ganolfan ferched lle buon nhw’n helpu’r merched i ddatblygu sgiliau bywyd ac i fod yn fwy annibynnol gyda’r gobaith y byddan nhw’n magu teuluoedd a gyda gyrfaoedd eu hunain yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Vicky: “Mae hynny ynddo’i hun yn wobr i’n coleg ac felly mae bod yn y rownd derfynol ar gyfer y Gwobrau Beacon mawreddog yn anhygoel.”
Mae’r gwobrau yn tynnu sylw at arfer blaengar ymysg colegau addysg bellach (AB) yn y DU gyda mentrau yn amrywio o leihau aildroseddu trwy addysg i oedolion a defnyddio AI i helpu gyda llwyth gwaith a lleihau allyriadau carbon a gwella cyfrifoldeb amgylcheddol.
Meddai David Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas Colegau: “Mae’r rhaglenni a’r mentrau sydd wedi cael eu cyflwyno wedi bod yn rhagorol i ddweud y lleiaf ac yn dangos pa mor hanfodol yw’r colegau fel sefydliadau angori i ddarparu twf a chyfleoedd y mae’r llywodraeth yn ceisio eu cyflawni.”
Ychwanegodd y Gweinidog Sgiliau, Jacqui Smith: “Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch yr enillwyr yng Ngwobrau Beacon eleni. O gymorth iechyd meddwl i adeiladu dyfodol cynaliadwy mae’r colegau hyn wedi gwneud gwaith anhygoel i helpu eich pobl ifanc i gyflawni a ffynnu.”
Am ragor o wybodaeth ar Wobrau Beacon AoC – Gwobrau Beacon 2024/25 | Cymdeithas Colegau.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.