Cau Safleoedd y Coleg oherwydd
Tywydd Garw

Yn dilyn y rhybudd am dywydd garw rydym wedi penderfynu cau POB safle Cambria.

Dyddiad: 09/03/23

Pwysig

Bydd gwersi’n symud ar-lein yn unol ag amserlenni presennol.

Bydd ein staff yn gweithio o bell a byddwn yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr a phrentisiaid dros e-bost ac ar y ffon yn ystod y cyfnod hwn.

Dylai myfyrwyr a phrentisiaid fewngofnodi i Google Classroom i gyrchu eu gwersi a fydd yn cael eu cynnal yn rhithwir.

Mae’n rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferth cyrchu eu gwersi gysylltu â’u tiwtor yn uniongyrchol dros e-bost i sicrhau nad ydynt yn cael eu marcio’n absennol o’r wers.

Arhoswch yn y tŷ, mewngofnodwch a chwblhewch eich gwersi (fel nad ydych chi’n methu unrhyw waith) ac yn fwy pwysig na dim arhoswch yn ddiogel.

Pryd a ble i wirio yn ôl am ddiweddariad?

Byddwn yn diweddaru prif wefan y coleg, Hwb Myfyrwyr, Ap Cambria ac ein sianeli cyfryngau cymdeithasol felly cadwch olwg arnynt yn rheolaidd i gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau.