Rhaglen Cyswllt Ysgolion 14-16
Sir Wrecsam
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Rhaglen Cyswllt Ysgolion 14-16
Cyswllt Ysgolion
Mae Rhaglen Cyswllt Ysgolion Coleg Cambria yn gweithio ar y cyd gydag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’n gyfle gwych i ddysgwyr 14-16 oed i brofi hyfforddiant galwedigaethol ac ennill cymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant wrth astudio yn yr Ysgol.
Bob wythnos rydym yn croesawu dros 1,000 o ddysgwyr o ysgolion ledled Gogledd Ddwyrain Cymru i astudio ystod eang o gyrsiau cyffrous. Mae cyrsiau wedi’u hanelu at opsiwn ymarferol, sy’n canolbwyntio ar yrfa, ac mae pob un wedi’u dylunio i fodloni anghenion y diwydiant lleol. Mae’r rhain yn cynnwys Gofal Anifeiliaid, Peirianneg, Adeiladu, Cyfrifiadura, Trin Gwallt a Harddwch, Gwasanaethau Cyhoeddus a rhagor – mae’r holl gyrsiau hyn yn rhoi mewnwelediad i lwybrau gyrfa a chyflogaeth posib.
Mae Coleg Cambria yn cynnig yr un ansawdd rhagorol o hyfforddiant ymarferol i ddysgwyr 14-16 oed ag yr ydym yn ei gynnig i’n dysgwyr 16+ ac mae astudio ar unrhyw un o’n safleoedd yn galluogi pobl ifanc i gyrchu cyfoeth o gyfleusterau o safon diwydiant eithriadol:
- Buddsoddiad o £10 miliwn mewn Canolfan Sgiliau STEM/Canolfan Dechnoleg Peirianneg ysbrydoledig yn Ffordd y Bers
- Canolfan Rhagoriaeth yng Nglannau Dyfrdwy
- Safle tir entrepreneuraidd 970 erw yn Llysfasi sy’n gartref i uned laeth gwerth £1 miliwn
- Salon Trin Gwallt a Harddwch masnachol arbenigol a bwyty hyfforddi safon broffesiynol a chyfleusterau arlwyo
- Canolfan Gofal Anifeiliaid
Wrecsam
Bob wythnos mae dros 1000 o ddysgwyr ar hyd Wrecsam yn dod am brynhawn neu ddiwrnod i Goleg Cambria i wneud ystod eang o gyrsiau cyffrous. O Ofal Anifeiliaid i Beirianneg, o Adeiladu i TGAU, Trin Gwallt a Harddwch i Wasanaethau Cyhoeddus. Mae’r holl gyrsiau hyn yn rhoi mewnwelediad cyntaf i’r disgyblion o yrfaoedd a llwybrau cyflogaeth posib. Mae mynd i’r afael â’r opsiynau hyn yn eich helpu i gyfarfod ffrindiau newydd a dysgu mewn amgylcheddau newydd, gan eich paratoi chi am eich camau cyntaf ar ôl Blwyddyn 11.
I ddarganfod rhagor am ba gyrsiau y gallwch eu hastudio, a pha opsiwn sy'n addas i chi, cymerwch gip ar ein llyfryn:
Er mwyn cael gwybodaeth sy’n fwy penodol am y cyrsiau sydd ar gael i chi yng Ngholeg Cambria, cymerwch gip ar y Taflenni Cwrs a’r fideos gan ein tiwtoriaid.
Taflenni Cwrs
Fideos gan diwtoriaid
Rhaglen Cyswllt Ysgolion 14-16
Sir Ddinbych
Gall dysgwyr blwyddyn 10/11 yn Sir Ddinbych gyrchu ein darpariaeth cyrsiau’r tir gan gynnwys cyrsiau mewn Gofal Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth, ar Lefel 1 a Lefel 2 ar ein safleoedd Llysfasi a Llaneurgain.
Mae’r cyrsiau hyn yn gyfle gwych i ddysgwyr brofi hyfforddiant galwedigaethol yn niwydiannau’r tir, ac ennill cymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant wrth astudio yn yr ysgol. Mae’r cyrsiau yn cael eu cyflwyno dros 2 flynedd ochr yn ochr â’r cwricwlwm a gynigir mewn ysgolion.
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gyrchu’r cyrsiau rhain ar CA4 ar gael ym mhob ysgol yn Sir Ddinbych yn uniongyrchol (Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Dinbych).
Rhaglen Cyswllt Ysgolion 14-16
Sir y Fflint
Gall dysgwyr Sir y Fflint sydd ym mlwyddyn 10/11 gyrchu cyrsiau cyfoethogi, gan gynnwys Gofal Anifeiliaid, Cadwraeth, Cynnal a Chadw Cerbydau Modur a rhagor.
Mae’r cyrsiau blwyddyn yn gyrsiau ymarferol ac yn cynnig cipolwg cyntaf ar gyfleoedd dysgu ôl-16 ac opsiynau gyrfa posib. Mae’r cyrsiau ar gael trwy gyfeirio gan rai ysgolion uwchradd Sir y Fflint.