Home > Bywyd Coleg > Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain ar ddatblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector Ôl-16 yng Nghymru.
Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol sydd o’r radd flaenaf.
Er mwyn hwyluso darpariaeth y Coleg, mae gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i rannu’n ganghennau lleol.
Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt uniongyrchol ar gyfer myfyrwyr a staff.
Wedi’i sefydlu ym mis Medi 2020, mae Cangen Cambria yn gweithio’n barhaus i ehangu a datblygu darpariaeth academaidd a chymdeithasol cyfrwng Cymraeg y coleg.
Yn weithredol ar bum safle’r coleg, mae gwaith y gangen yn cynnwys hwyluso a threfnu digwyddiadau, gweithgareddau, cyflwyniadau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg a datblygu llwybrau gwaith perthnasol ar gyfer dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid.
Gweledigaeth y gangen yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg a chyfoethogi cyfleoedd cyfrwng Cymraeg y dysgwyr.
Bob blwyddyn, mae’r coleg yn penodi criw o ddysgwyr brwdfrydig i gefnogi gwaith y Swyddog Cangen ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y coleg.
Nod y cynllun yw sicrhau rhwydwaith o lysgenhadon ledled Cymru i annog defnydd y Gymraeg. Ym mis Medi, penodwyd wyth llysgennad Cymraeg Addysg Bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
Bydd y Coleg yn chwilio am Lysgenhadon newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd 2026/27, felly os oes gennych ddiddordeb neu efo unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rôl yna e-bostiwch alaw.smith@cambria.ac.uk
Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae nifer o gyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg gan gynnwys:
Cyfle i astudio modiwlau’n ddwyieithog
Profiad gwaith mewn safle dwyieithog neu Gymraeg
Cwblhau aseiniadau ac arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg
Dosbarthiadau tiwtorial Cymraeg
Tiwtor Cymraeg
Adnoddau Cymraeg
Rhestrau termau dwyieithog
Profiad Dysgwyr
Carys Morgan
Llysfasi
Amaethyddiaeth
Fy enw i ydy Carys Morgan. Dwi’n astudio Amaethyddiaeth lefel 3 yn y coleg ac yn gweithio fel Llysgennad Cymraeg ar safle Llysfasi. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac er fy mod i’n dysgu’n ddwyieithog ar fy nghwrs, mae gallu gwneud peth o fy ngwaith yn Gymraeg yn wych ac yn help mawr imi. Mae’n grêt gallu dewis pa adnoddau neu pa ddarnau o’r cwrs dwi’n eu gwneud yn Gymraeg ac mae fy nhiwtoriaid wastad yn help mawr yn hynny o beth. Dwi’n mwynhau dysgu yn y Gymraeg oherwydd dyna beth sy’n naturiol imi – ges i fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Llysfasi, mae yno gymuned Gymraeg glos iawn a dwi’n lwcus hefyd bod rhan fwyaf o’m hathrawon i’n gallu siarad Cymraeg.
Catrin Morris
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Helo! Fy enw i ydi Catrin a dwi’n fyfyriwr yn Chweched Ddosbarth Glannau Dyfrdwy. Dwi’n astudio Busnes, Saesneg, ac Astudiaethau Ffilm. Dwi hefyd yn Llysgennad Cymraeg, sydd yn dod â llawer o gyfleodd arbennig i mi. Ers i mi ymuno, dwi wedi cyfarfod llawer o ddysgwyr eraill sy’n gallu siarad Cymraeg, ac rydyn ni’n cyfarfod yn aml yn gwneud gweithgareddau hwyliog. Mae hyn yn bwysig iawn i mi fel person iaith gyntaf Cymraeg ac mae’r coleg yn fy helpu i’n ddwyieithog. Mae’r coleg hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg, ac yn cynnig gwasanaeth cyfieithu arbennig felly mae hyn yn gysur mawr. Mae llawer o gefnogaeth o fy nghwmpas gan gynnwys tiwtor personol Cymraeg ac adnoddau a chymorth cyfrwng Cymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at le eith y Gymraeg a fi yn y dyfodol!
Max Bentley
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Haia! Max ydw i a dwi’n Llysgennad Cymraeg yn chweched Glannau Dyfrdwy. Dwi’n astudio’r Gyfraith, Hanes a Gwleidyddiaeth. Mae’r coleg wedi rhoi’r cyfle i mi gymryd rhan mewn llawer o bethau fel sesiwn tynnu lluniau i hyrwyddo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio ar stondin Cymraeg yn ystod un o’n nosweithiau agored. Mae’n grêt cael y dewis o gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg a chael y cyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn hynod o bwysig i mi gan ei fod yn agor drysau i bob mathau o wahanol gyfleoedd.
Ifan Martin
Glannau Dyfrdwy
Peirianneg
Daisy Williams
Chweched Iâl
Safon Uwch
Dafydd Edwards
Chweched Iâl
Safon Uwch
Owain Jones
Iâl
Chwaraeon
Osian Williams
Ffordd y Bers
Gwaith Trydanol
Dafydd Edwards
Chweched Iâl
Safon Uwch
Owain Jones
Iâl
Chwaraeon
Osian Williams
Ffordd y Bers
Gwaith Trydanol
Ifan Martin
Glannau Dyfrdwy
Peirianneg
Profiad Dysgwyr
Daisy Williams
Chweched Iâl
Safon Uwch
Carys Morgan
Llysfasi
Amaethyddiaeth
Fy enw i ydy Carys Morgan. Dwi’n astudio Amaethyddiaeth lefel 3 yn y coleg ac yn gweithio fel Llysgennad Cymraeg ar safle Llysfasi. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac er fy mod i’n dysgu’n ddwyieithog ar fy nghwrs, mae gallu gwneud peth o fy ngwaith yn Gymraeg yn wych ac yn help mawr imi. Mae’n grêt gallu dewis pa adnoddau neu pa ddarnau o’r cwrs dwi’n eu gwneud yn Gymraeg ac mae fy nhiwtoriaid wastad yn help mawr yn hynny o beth. Dwi’n mwynhau dysgu yn y Gymraeg oherwydd dyna beth sy’n naturiol imi – ges i fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Llysfasi, mae yno gymuned Gymraeg glos iawn a dwi’n lwcus hefyd bod rhan fwyaf o’m hathrawon i’n gallu siarad Cymraeg.
Catrin Morris
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Helo! Fy enw i ydi Catrin a dwi’n fyfyriwr yn Chweched Ddosbarth Glannau Dyfrdwy. Dwi’n astudio Busnes, Saesneg, ac Astudiaethau Ffilm. Dwi hefyd yn Llysgennad Cymraeg, sydd yn dod â llawer o gyfleodd arbennig i mi. Ers i mi ymuno, rwyf wedi cyfarfod llawer o ddysgwyr eraill sy’n gallu siarad Cymraeg, ac rydym yn cyfarfod yn aml yn gwenud gweithgareddau hwyliog. Mae hyn yn bwysig iawn i mi fel person iaith gyntaf Cymraeg ac mae’r coleg yn fy helpu i’n ddwyieithog. Mae’r coleg hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg, ac yn cynnig gwasanaeth cyfieithu arbennig felly mae hyn yn gysur mawr. Mae llawer o gefnogaeth o fy nghwmpas gan gynnwys tiwtor personol Cymraeg ac adnoddau a chymorth cyfrwng Cymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at le eith y Gymraeg a fi yn y dyfodol!
Max Bentley
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Haia! Max ydw i a dwi’n Llysgennad Cymraeg yn chweched Glannau Dyfrdwy. Rydw i’n astudio’r Gyfraith, Hanes a Gwleidyddiaeth. Mae’r coleg wedi rhoi’r cyfle i mi gymryd rhan mewn llawer o bethau fel sesiwn tynnu lluniau i hyrwyddo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio ar stondin Cymraeg yn ystod un o’n nosweithiau agored. Mae’n grêt cael y dewis o gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg a chael y cyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn hynod o bwysig i mi gan ei fod yn agor drysau i bob mathau o wahanol gyfleoedd.
Alaw Smith
Swyddog Cangen
Helo, Alaw ydw i a fi yw Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma yng Nghambria. Dwi’n cydlynu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gefnogi myfyrwyr gyda dysgu a gweithgareddau hwyliog yn y Gymraeg
Amdana i;
Diwylliant: Dwi wrth fy modd dysgu am bobl newydd, bwydydd gwahanol, celf, a mwynhau cerddoriaeth fyw. Fy hoff fand Cymraeg yw’r Candelas.
Teithio: Dwi’n mwynhau teithio gyda fy nheulu o bump.
Amser rhydd: Dwi wrth fy modd yn canu gyda’r côr, sgwrsio gyda ffrindiau dros baned a chacen, neu ymlacio gyda chyfres dda fel Craith ar S4C.
Rhan bwysig o fy rôl yw cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Coleg a chynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo cymdeithasu yn y Gymraeg. Dwi’n cynnal clybiau wythnosol ym mhob safle yn ystod amser cinio, ac mae hwn yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd i wrando ar gerddoriaeth, trafod a mwynhau bod yn rhan o gymdeithas a diwylliant y Gymraeg. Fel Swyddog mae gen i barch mawr at unrhyw un sy’n dangos diddordeb mewn dysgu Cymraeg, Dwi’n siŵr mai’r ffordd orau o ddysgu yw trwy ymarfer wrth gael hwyl mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar. Dwi yma i sicrhau bod llais y dysgwyr yn cael ei glywed a’i weithredu arno, felly dewch draw i ddweud helo a fedrwn ni drafod unrhyw syniadau sydd gennych.
Ifan Griffiths
Llysgennad Y Gymraeg
Cwrs
Peirianneg
Diddordebau
Chwaraeon a Amaeth
Hoff Gân
Allwedd (Bwncath)
Hoff Raglen Teledu
Sgorio
Ffaith Diddordol
Dwi’n ffermwr 4ydd genhedlaeth
Beth hoffet ti wneud ar ol gorffen coleg?
Bod yn hunangyflodedig a gweithio adref ar y fferm
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud fel Llysgennad Coleg Cymraeg?
Defnyddio pob cyfle dwi’n gallu ac ennill bach o arian
Maria Durak
Llysgennad Y Gymraeg
Cwrs
Adeiladwaith
Diddordebau
Mynd i’r gym, coginio a cherdded
Hoff Gân
Tŷ ar y mynydd (Maharishi)
Hoff Raglen Teledu
Rownd a Rownd
Ffaith Diddordol
Dwi’n tri chwarter Groegaidd
Beth hoffet ti wneud ar ol gorffen coleg?
Dwi eisiau cael Prentsiaeth mewn Peirianneg Sifil
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud fel Llysgennad Coleg Cymraeg?
Cyfarfod pobl Newydd
Phoebe Jones
Llysgennad Y Gymraeg
Cwrs
Gofal Anifeiliaid
Diddordebau
Mynd i’r gampfa, darllen a lliwio
Hoff Gân
Gwalia (Gwilym)
Hoff Raglen Teledu
TikTok Cymraeg
Ffaith Diddordol
Mae gen i ddiddordeb mewn ceir, dwi isio Porsche 911 GT3 RS yn y dyfodol (gobeithio!)
Beth hoffet ti wneud ar ol gorffen coleg?
Dwi eisiau mynd ymlaen i astudio gwyddorau milfeddygol i fod yn Filfeddyg
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud fel Llysgennad Coleg Cymraeg?
Mynychu noson agored a chreu reels/Tiktoks
Elin Williams
Llysgennad Y Gymraeg
Cwrs
Iechyd a Gofal
Diddordebau
Siopa a pobi
Hoff Gân
Fyny ac yn ol (Gwilym)
Ffaith Diddordol
Dwi’n chwarter Pwyleg
Beth hoffet ti wneud ar ol gorffen coleg?
Dwi eisau gweithio fel nyrs newydd-anedig
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at wneud fel Llysgennad Coleg Cymraeg?
Gwneud ffrindiau Newydd a chyfarfod pobl newydd