Home > Bywyd Coleg > Cambria Heini
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n credu bod llesiant corfforol yn allweddol i lwyddiant academaidd a thwf personol. Mae ein tîm Cambria Heini yn darparu rhaglen llesiant corfforol ddeinamig a chynhwysol sydd wedi’i chynllunio i gefnogi myfyrwyr a staff.
O sesiynau aml-chwaraeon a ffitrwydd amser cinio ac ar ôl coleg, cyngor arbenigol ar gwsg, maeth, cryfder, a ffordd o fyw gyffredinol. Rhaglen DofE gynhwysol a rhaglen Arweinwyr Egnïol Cadarnhaol i ymgysylltu â myfyrwyr benywaidd, staff a’r gymuned.
Cynhelir gweithgareddau mewn amgylchedd hamddenol, croesawgar sy’n annog cyfranogiad a hwyl. Gall myfyrwyr a staff hefyd ofyn am becynnau gofal cyfannol personol i’w helpu i aros yn iach, yn gytbwys, ac yn barod i ffynnu.
Yn Cambria rydym yn cynnig Gwobr Dug Caeredin ar lefel Efydd, Arian ac Aur (Mae’r amserlenni i gwblhau’r lefelau gwahanol yn amrywio).
Mae holl lefelau Gwobr Dug Caeredin yn rhoi cyfleoedd dysgu ychwanegol i’n dysgwyr a’n myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau bywyd a chyflogadwyedd yn ogystal ag annibynniaeth i helpu wrth bontio i’r Brifysgol o ganlyniad i gymryd rhan. Mae’r sgiliau hyn yn cryfhau CV ac yn paratoi dysgwyr yn dda ar gyfer eu dyfodol. Yn ogystal â hynny, mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gwneud ffrindiau newydd, yn cynyddu eu hyder ac yn datblygu gwytnwch.
I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan ar unrhyw lefel Gwobr Dug Caeredin, ffoniwch y Gwasanaethau Myfyrwyr ar unrhyw safle Cambria neu anfonwch e-bost at dofe@cambria.ac.uk
Mae’r sgiliau a’r agweddau sy’n datblygu fel rhan o Wobr Dug Caeredin yn Cambria yn cynnwys:
Gweledigaeth Coleg Cambria ar gyfer Grymuso Cyfranogiad Merched mewn Gweithgarwch Corfforol yn seiliedig ar yr adborth gwerthfawr gan ein myfyrwyr yn ystod Diwrnod Arweinwyr Ysbrydoledig, mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cefnogol sy’n annog mwy o fyfyrwyr benywaidd i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Ein gweledigaeth yw chwalu’r rhwystrau sy’n aml yn atal merched rhag cymryd rhan a’u grymuso i feithrin hyder ac agwedd gadarnhaol at weithgarwch corfforol.
Tyfu rhaglen o’r enw Arweinwyr Cadarnhaol, Heini PALs. Bydd hyfforddwr ein PALs yn gweithio gyda staff, myfyrwyr a’r gymuned.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn PAL neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy’r e-bost pals@cambria.ac.uk.
Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon AM DDIM sy’n caniatáu i chi fod yn egnïol yn ystod eich amser yn gweithio neu’n astudio yn y coleg. Rydym yn deall pwysigrwydd cadw’n heini, yn enwedig ar ôl eistedd i lawr am y rhan fwyaf o’r dydd yn ystod gwersi a gwaith.
Troelli
Pilates
Pêl-droed
Badminton
Tenis Bwrdd
Hyfforddi a Chryfder
Saethyddiaeth
Pêl osgoi
Pêl Fasged
Bocsio
Yn cael eu cynnal amser cinio ac ar ôl coleg, mae ein sesiynau ar agor i fyfyrwyr a staff, ac mae’r sesiynau cynhwysol a diddorol hyn wedi’u cynllunio i hyrwyddo hwyl, ffitrwydd a llesiant.
Mae amserlenni ar gael trwy ein sgriniau teledu ar y safle a thrwy’r Hwb Myfyrwyr.
Dewch i fwynhau defnyddio’r gampfa am ddim ar ddiwrnodau ac amseroedd dewisol. Cyfeiriwch at amserlen y gampfa sydd ar gael ar yr Hwb Myfyrwyr.
Mae angen sesiwn ymsefydlu cyn defnyddio’r cyfleusterau — trefnwch eich sesiwn heddiw drwy anfon e-bost at cambriaheini@cambria.ac.uk.
Fel rhan o’ch rhaglen Anogwr Cynnydd MADE, mwynhewch weithgareddau corfforol hwyliog a diddorol sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu eich anghenion unigryw chi a’ch cyd-ddisgyblion. Mae’r sesiynau hyn yn mynd y tu hwnt i ddosbarthiadau Addysg Gorfforol traddodiadol i ysbrydoli a chymell.
Yr haf yma mi fyddwn ni’n cynnal ein gwersyll gwyliau i blant rhwng 5 – 11 oed. Bydd bob diwrnod yn cael ei gynnal ar ein safle Glannau Dyfrdwy (Ffordd Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy CH5 4BR), rhwng 9:30am a 3:30pm.
Bydd y gwersyll yn costio £20 y diwrnod fesul plentyn. Bydd byrbrydau’n cael eu darparu yn ystod cyfnodau egwyl ar y diwrnod, ond mae gofyn i blant ddod â’u cinio a’u potel ddŵr eu hunain.
Bydd y gwersyll yn cael ei gynnal ar y diwrnodau canlynol:
Ffurflen cadw lle yn dod yn fuan.
Cymerwch gip ar ein rhaglenni Perfformio ar eich Gorau ar gyfer pobl o bob oedran!
O sesiynau ffitrwydd i bobl ifanc dros 16 oed, i weithgareddau meithrin tîm i blant 5 – 16 oed, mae gennym ni rywbeth i bawb. Anfonwch e-bost at cambriaheini@cambria.ac.uk