Home > Cludiant
Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o leoliadau ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Nid yn unig hynny; rydym yn cynnig ffordd hawdd ac *AM DDIM i’n myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg uwch llawn amser cyn belled â’u bod yn byw o leiaf dair milltir o’r coleg.
*yn amodol ar gymhwysedd
I wirio eich bod yn gymwys, galwch heibio’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i’r ffordd hawsaf a chyflymaf i chi ein cyrraedd ni. Ffoniwch 0300 30 30 007 a byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i deithio’n ddiogel i’r coleg ac oddi yno.
Gallwch weld amserlenni bysiau’r coleg a mannau codi drwy lawrlwytho’r dogfennau defnyddiol isod.
Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu. Nid yw pob safle wedi’i restru ar yr amserlenni, felly ffoniwch ni neu anfonwch e-bost at transport@cambria.ac.uk a gallwn drafod eich opsiynau cludiant.
Gall darparwyr cludiant a gwybodaeth amserlenni newid. Er eglurder, cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr dros y ffôn/e-bost gan ddefnyddio’r manylion uchod.