Home > Ynghylch
Amdanom ni
Cawsom ein sefydlu yn ôl yn 2013, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Ni yw un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr amser llawn, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch ar draws ein pum safle. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Croeso i adran Gwybodaeth Gorfforaethol ein gwefan. Yma gallwch weld polisïau a gweithdrefnau diweddaraf Coleg Cambria, a darllen am ein llywodraethwyr; y grŵp o bobl sy’n cynrychioli buddiannau’r coleg a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.