Ariannu Prentisiaethau
Cyllid Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Cyfrif Dysgu Personol (PLA)
Datblygwch eich gweithlu gyda rhaglenni Prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn.
Ydych chi am wella sgiliau eich gweithlu presennol? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi elwa o newidiadau diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru? Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu Cymru ‘Llewyrchus a Diogel’, gall gweithwyr o unrhyw oedran a hyd gwasanaeth elwa ar y rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn.
Os ydych chi eisiau ehangu eich busnes, datblygu gweithlu medrus, lleihau costau hyfforddi a recriwtio, heddiw ydy’r amser gorau.
Cysylltwch â thîm Cambria ar gyfer Busnes am ragor o wybodaeth ar 0300 30 30 006.
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau Cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes trwy anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau cymhwysedd.
Partneriaid

Prentisiaethau
.

Llywodraeth Cymru
.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfle i hyfforddi a datblygu gweithlu medrus a dawnus yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru gyda’r prosiect yn ariannu hyd at 80% o’r costau hyfforddi.
Rhaid i fusnesau fodloni’r meini prawf canlynol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn:
- Bod yn rhan o’r diwydiant cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu
- Wedi eich lleoli yng Nghymru
- Gallu dangos elw clir ar fuddsoddiad
Os bodlonir yr holl feini prawf, bydd busnesau’n gymwys i gael 80% o gyllid (ar gyfer busnesau sy’n cyflogi 1-49 o staff) neu gyllid o 50% (ar gyfer busnesau sy’n cyflogi 50+ o staff) tuag at gost cyrsiau hyfforddi penodol o fewn y sectorau canlynol;
- Arwain a Rheoli
- Marchnata a Gwerthiannau
- Cynhyrchu a Gweithgynhyrchu
- Cydymffurfiaeth a Statudol ar gyfer Twf
I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau sy’n cael eu cynnwys yn y cyllid cysylltwch â employers@cambria.ac.uk
I wneud cais ar gyfer y cyllid, ewch i https://menterabusnes.cymru/sgiliau-bwyd-a-diod-cymru/ a chwblhewch y ffurflen gofrestru gyda Menter a Busnes. Pan maent wedi cael y ffurflen a’i hadolygu byddant yn cysylltu â chi i gwblhau’r Diagnostig Sgiliau i adnabod bylchau sgiliau a chreu cynllun gweithredu hyfforddiant.
Os hoffech chi drafod y prosiect cyllid yn rhagor cysylltwch â skills-wales@menterabusnes.co.uk neu os hoffech chi ddarganfod rhagor am y cyrsiau nesaf sydd ar gael, costau a’r broses gofrestru cysylltwch â ni ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes ar employers@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau eich cymhwysedd.
Partneriaid

Prentisiaethau
.

Llywodraeth Cymru
.
Mae’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn ceisio darparu cefnogaeth am ddim* i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith ar lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth.
*Os ydych yn hŷn na 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (gan gynnwys mewn perygl o gael eu diswyddo a charcharorion sy’n cael eu rhyddhau am y dydd) ac yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,371 y flwyddyn, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych i gael y cyfle i astudio cyrsiau penodol yn rhan-amser.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu wedi’i ariannu’n llawn*. Byddwch yn gallu cael sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa bresennol.
Mae pob un o’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch weld y rhestr lawn o gyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yng Ngholeg Cambria ar y dudalen cyrsiau.