Home > Eich Cynorthwyo Chi > Cymorth i Fyfyrwyr > Cymorth i Fyfyrwyr Dysgu yn y Gwaith a Phrentisiaethau
Cymorth Dysgu yn y Gwaith a Phrentisiaethau
Gwasanaethau Myfyrwyr
Llyfrgell a Sgiliau Academaidd
Gyrfaoedd a Chyflogaeth
Y Gymraeg
Iechyd Meddwl a Llesiant
Caplaniaeth
Cynhwysiant a Chymorth Dysgu
Diogelu a Prevent
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cymorth Gofalwyr Safon Ansawdd
Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysg cynhwysfawr, p’un ai rydych ar y safle neu beidio. Rydym yn deall bod dysgwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith yn wynebu heriau unigryw yn ystod eu taith, felly dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o wasanaethau cymorth i helpu ein myfyrwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith i ffynnu ar y safle, ar-lein ac yn y gwaith.
Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar ein holl safleoedd, ac maent yma i ddarparu cymorth ac arweiniad ar faterion personol, ariannol, ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd cwrs a gyrfa yn y dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd posib, er mwyn i chi gyflawni eich nodau academaidd a llwyddo mewn bywyd.
Dysgwch isod am sut y gall ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi.
Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr wrth ffonio 0300 30 30 007 neu anfon e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.
Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl a llesiant yn gallu cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr ac rydym yn angerddol am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.
Nid oes unrhyw feini prawf i’w bodloni, gall dysgwyr dderbyn cwnsela a chymorth lles a gallant siarad â’u Hymarferydd Dysgu Yn Y Gwaith, galwch i mewn i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfonwch e-bost at llesiant@cambria.ac.uk.
Gallwch ddarganfod rhagor am Gymorth Iechyd Meddwl yma.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am Gynhwysiant a Chymorth Dysgu yma.
Gall ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac Ymgynghorwyd Gyrfaoedd gynorthwyo dysgwyr gyda’u cwestiynau am newidiadau posib mewn swyddi, neu os ydynt yn ansicr am eu cwrs presennol.
Mae gennym Gydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, a all gynnig arweiniad a chymorth ar hunangyflogaeth a dechrau busnes trwy weithdai, siaradwyr gwadd a chlybiau menter.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at careers@cambria.ac.uk.
Yma yng Ngholeg Cambria rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelwch a lles myfyrwyr a gyda
- Tîm diogelu llawn cymorth
- Ymagwedd gwrth-fwlio amlwg
- Amgylchedd llawn cymorth i fyfyrwyr allu trafod pryderon neu broblemau’n berthnasol i safbwyntiau eithafol, terfysgaeth neu beryglon o radicaleiddio
- Hyfforddiant Diogelu a Prevent a gwybodaeth i bawb.
Gallwch ddod o hyd i’n polisïau Diogelu a Prevent drwy glicio isod:
Os oes gennych unrhyw bryderon neu rydych yn poeni am unrhyw un arall, anfonwch e-bost at diogelu@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 009
Fel dysgwr prentisiaeth a dysgu yn y gwaith Coleg Cambria gallwch gyrchu nifer o lyfrgelloedd ag offer da os ydych angen lle i astudio gartref neu’r gweithle.
Mae’r llyfrgelloedd yn lleoedd diogel, cynhwysol a chroesawgar sydd wedi’u dylunio i gynorthwyo eich anghenion dysgu.
Mae gennym fannau astudio tawel ar gyfer gwaith grŵp neu unigol, gallwch gyrchu cyfrifiaduron a Chromebooks i’w defnyddio ar y safle neu eu benthyca i’w defnyddio gartref neu yn y gwaith.
Mae cyfleusterau argraffu a chymorth i gysylltu eich teclynnau eich hun i Wifi y coleg yn ogystal â chymorth i roi hwb i’ch sgiliau digidol eich hun wrth i chi astudio yn y coleg.
Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu chi dros e-bost neu dros y ffôn.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm ar gyfer unrhyw ymholiadau llyfrgell.
Cysylltwch â ni
0300 3030 006
Byddwch yn cael cyfleoedd i ofyn am gyngor gan dîm sgiliau academaidd proffesiynol profiadol i arwain eich taith ddysgu.
Darperir cefnogaeth academaidd 1:1 grŵp ac wedi’i theilwra ar ystod eang o bynciau academaidd allweddol gan gynnwys ymchwil effeithiol, ysgrifennu academaidd a chyfeirnodi.
Byddwch yn cael llwybrau syml a hygyrch i hunangyfeirio ar gyfer cymorth academaidd ychwanegol a gallwn drefnu sesiynau cymorth i’w cyflwyno ar-lein a thu allan i oriau gwaith.
Yn ogystal ag arweiniad personol byddwch yn gallu cyrchu llenyddiaeth ymchwil o safon uchel sy’n arwain y sector ac amrywiaeth o lwyfannau e-lyfrau ar-lein 24/7 .
Mae’r ystod eang o adnoddau yn galluogi i chi gyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hyblyg i gwblhau eich asesiadau dysgu yn y gwaith.
Siaradwch â’ch ymarferydd neu dîm y llyfrgell am arweiniad ar sut i gyrchu’r adnoddau hyn.
Mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd yn rhoi cymorth i ddarpar fyfyrwyr i ddewis y cwrs cywir yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad ar ddatblygu eich gyrfa a chynllunio eich cam nesaf ar ôl coleg – boed hynny’n cael swydd, prentisiaeth neu fynd i’r brifysgol. Ni yw eich porth i ddysgu am wahanol yrfaoedd a chyfleoedd ym myd gwaith.
Gallwn eich helpu gyda:
- Dewis y cyrsiau iawn i chi yng Ngholeg Cambria
- Gwneud cais i brifysgol – gallwn eich cynorthwyo i feddwl am yr hyn yr hoffech ei wneud – ac ymhle, a byddwn yn helpu i ysgrifennu datganiadau personol a chyflwyno ceisiadau UCAS.
Cysylltwch â ni am ragor o fanylion
Mae ein Hyfforddwyr Cyflogadwyedd Siop Swyddi yn cefnogi ein myfyrwyr gyda:
- Dysgu am brentisiaethau a hyfforddiant yn y gwaith os ydych chi am gael cyflogaeth â thâl ac ennill cymhwyster ar yr un pryd
- Gwneud cais am swyddi, ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau swyddi.
Darganfyddwch ragor am Siop Swyddi Coleg Cambria
Bod yn Ddwyieithog yng Ngholeg Cambria
Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau dwyieithog a fydd yn arwain at yrfa a bywyd llwyddiannus.
Mae dwyieithrwydd yn agor drysau i chi yn y byd gwaith ac yn cynyddu eich cyflogadwyedd. Gall gyfoethogi eich bywyd cymdeithasol a gwella eich meddwl a’ch creadigrwydd hefyd.
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog
Os ydych chi wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol, gallwch chi barhau i wneud hynny yng Ngholeg Cambria.
Mae llawer o’n cyrsiau’n cael eu cyflwyno’n ddwyieithog a gallant roi’r cyfle i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallwch chi wneud y canlynol yn Gymraeg:
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig a chael nodiadau dwyieithog
- Astudio cyrsiau neu fodiwlau penodol
- Cwblhau profiad gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad
- Asesiadau, cyfweliadau mynediad, tiwtorialau, mentora a chyfarfodydd.
Datblygu eich Sgiliau Cymraeg
Os nad oes gennych chi sgiliau Cymraeg neu os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau, mae llu o gyfleoedd i chi wella a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich maes pwnc.
Gallwch chi wneud y canlynol:
- Cwblhau unedau sy’n berthnasol i’ch pwnc
- Cwblhau cyrsiau blasu ar-lein
- Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau
- Mynd i ddosbarthiadau Cymraeg i ddechreuwyr os nad oes gennych chi wybodaeth.
Os hoffech chi astudio yn Gymraeg neu ddatblygu eich sgiliau, gall ein tîm Cymraeg eich cefnogi chi wrth gynnig mentora ac arweiniad 1-1 i chi. Gallant eich helpu chi i wella eich sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a gallant gyfieithu terminoleg a thermau technegol.
Hwyl yn Gymraeg
Mae gennym ystod o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gael i chi eu mwynhau o wyliau Cymraeg i deithiau dros nos.
Mae ein Swyddog Cangen Cymraeg yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar bob safle ac yn cadw mewn cysylltiad trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Diddordeb mewn Dysgu yn Gymraeg?
I wneud ymholiad am ddysgu yn Gymraeg, llenwch y ffurflen isod.
"*" indicates required fields
Learn In Welsh Student Videos
For further details contact us
Ein Cymorth
Yma yng Ngholeg Cambria ein nod ydy helpu ac addysgu dysgwyr gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant. Trwy gyflwyno technegau cymorth a llesiant iach i’n harferion bob dydd, y mwyaf gwydn y gallwn ei deimlo.
Rydyn ni’n gwybod y gall iechyd meddwl a llesiant gael effaith sylweddol ar eich profiad yn y coleg. Mae ein Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant yn teimlo’n gryf iawn am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau sy’n hybu eich llesiant ac iechyd meddwl da.
Mae hyn yn cynnwys;
- Cymorth gan staff llesiant ymroddedig sydd ag arbenigedd mewn trawma ar draws holl safleoedd y coleg
- Cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pontio i mewn ac allan o’r coleg
- Hybiau Llesiant a hybiau dros dro ar draws ein safleoedd sy’n darparu lleoliadau diogel, tawel i chi ymlacio ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau meddwlgarwch
- Cymorth gan ein Hanogwyr Iechyd Meddwl a Llesiant a’n Cynghorwyr Llesiant i helpu i nodi a goresgyn rhwystrau i ddysgu
- Cwnsela wyneb yn wyneb neu ar-lein
- Gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant trwy gydol y flwyddyn
- Sesiynau a chymorth iechyd meddwl a llesiant 1:1, wedi’u teilwra’n arbennig i ddiwallu’ch anghenion a’ch helpu i lwyddo
- Cymorth i oresgyn gorbryder yn ymwneud â chymdeithasu, mynd i’r coleg neu deithio i’r coleg
- Gwaith aml-asiantaeth gan gynnwys cyfeiriadau a chyfeirio cymdeithasol.
Rydyn ni’n goleg arloesol ar gyfer ymgorffori dulliau sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru.
Rydyn ni wedi cyfrannu at Fframwaith Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ac yn ei ddilyn gan gydweithio gyda Hwb ACE Cymru, gwasanaethau cymorth ehangach a sefydliadau addysgol eraill.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n hyfforddi ein holl staff ar draws y Coleg i fod yn ystyriol o drawma ac yn dechrau’r broses o adolygu prosesau a pholisïau wrth sicrhau bod ein diwylliant a’n iaith yn ystyriol o drawma er mwyn cynorthwyo ein staff a’n dysgwyr llawn amser a rhan-amser.
Rydyn ni’n adfyfyrio ar ein cyfeiriad strategol a’n gwerthoedd Coleg ein hunain a sut rydym yn alinio’r rhain â bod yn gynhwysol ac yn wybodus ystyriol o drawma.
Rydyn ni’n dilyn 5 egwyddor lleoliad sy’n ystyriol o drawma:
- Dull cyffredinol sydd ddim yn gwneud unrhyw niwed
- Canolbwyntio ar y person
- Canolbwyntio ar y berthynas
- Canolbwyntio ar wytnwch a chryfder
- Cynhwysol
Rydyn ni’n adnabod y gallwn wneud hyn wrth:
- Ymgorffori diogelwch
- Grymuso (llais a dewis)
- Ymddiriedaeth (a thryloywder)
- Mynd i’r afael â materion hanesyddol, rhywedd, diwylliannol a materion ehangach
- Cymorth cyfoedion
- Cydweithio a chydymddibyniaeth
Am ragor o wybodaeth ar y fframwaith ar gyfer Cymru Sy’n Ystyriol o Drawma ewch i: https://hybacecymru.com/
Mae ein tîm ymroddedig yma i'ch helpu drwy e-bost neu dros y ffôn.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy llesiant@cambria.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.
*Ar gyfer prentisiaid a dysgwyr yn y gwaith, gallwn hefyd gynnig apwyntiadau ar-lein, y tu allan i oriau neu oddi ar y safle.
Efallai nad yw Caplaniaeth yn air cyfarwydd i bawb, ond mae’n syml iawn. Mae Caplaniaeth yn bodoli i helpu staff a myfyrwyr deimlo’n gysylltiedig a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi yng nghymuned y coleg. Mae Caplaniaeth yn cydweithio â’r timau cymorth i helpu gwneud Coleg Cambria yn lle cefnogol a chynhwysol i ddysgu a gweithio. Rydym yn chwilio am syniadau ac awgrymiadau gennych chi bob amser am bethau y gallwn ni eu gwneud yn well, neu feysydd yr hoffech chi i’r Gaplaniaeth eu harchwilio.
Rydym yn cynnig llawer o wahanol brosiectau a chymorth gan gynnwys:
- Llesiant Ysbrydol – Gweithdai a digwyddiadau yn edrych ar ysbrydolrwydd a hunaniaeth
- Byw yn y Gwyllt – Archwilio ysbrydolrwydd trwy sgiliau coedwig a chyfarfyddiadau natur
- Ymwybyddiaeth Aml-ffydd – Gweithdai ac adnoddau rhyngweithiol ar holl grefyddau mawr y byd, gan gynnwys digwyddiadau i nodi gwyliau crefyddol a diwrnodau byd arwyddocaol o Pride i Ddiwrnod Cofio’r Holocost
- Cymorth Ffydd – Gan gynnwys cyngor arbenigol, lleoedd aml-ffydd a chred, cymorth gweddïo, cymorth argyfwng ffydd a rhagor.
Lleoedd Aml-ffydd a Chred
Ar bob un o’n safleoedd, rydyn ni’n darparu Lleoedd Aml-ffydd a Chred i weddïo, adfyfyrio, myfyrio, neu gael seibiant mewn amgylchedd tawel a pharchus.
Mae’r lleoedd hyn ar gael i ddysgwyr a staff. Does dim angen i chi ddilyn ffydd neu gred benodol i’w defnyddio nhw. P’un a ydych chi’n ymarfer crefydd, yn uniaethu fel rhywun ysbrydol, neu ddim ond eisiau lle tawel i fyfyrio, mae croeso i chi.
Mae pob ystafell wedi ei dylunio i fod yn syml, cyfforddus a chynhwysol. Bydd seti ar gael, a chyfleusterau Wudu (ymolchi) yn agos.
I ddefnyddio’r ystafelloedd neu i gael gwybod ble maen nhw ar eich safle chi, cysylltwch â’n Prif Gaplan, Tim Feak. Bydd yn hapus i’ch cefnogi ac egluro sut y gellir defnyddio’r mannau. Anfonwch e-bost at Tim: Chaplaincy@cambria.ac.uk.
Yma yng Ngholeg Cambria, rydyn ni wedi ymrwymo i gynhwysiant. Rydyn ni’n hyrwyddo cydraddoldeb yn weithredol ac yn dathlu amrywiaeth.
Gyda’n ymagwedd cynhwysol a’r cymorth a’r addasiadau sydd ar gael, rydym yn gallu bodloni ystod eang o anghenion.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael i’n holl ddysgwyr. Bydd ein hymagwedd yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol.
Gallwch siarad â ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio. Un ffordd y gallwch siarad â ni yw trwy anfon e-bost at wblsupport@cambria.ac.uk.
Mae cymorth cynhwysiant ar gael ar draws pob un o’n pum safle. Bydd ein hymagwedd yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gallwch rannu unrhyw un o’ch anghenion cymorth gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.
Os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol, gall ein tiwtoriaid arbenigol gefnogi eich dysgu annibynnol.
Gallant eich helpu i ddatblygu sgiliau:
- Defnyddio technolegau cynorthwyol
- Strategaethau dysgu effeithiol
- Rheoli amser
- Techneg arholiadau a gorbryder
- Sgiliau trefnu
- A rhagor….
Ar gyfer dysgwyr dysgu yn y gwaith a phrentisiaethau gallwn gynnig apwyntiadau ar-lein, tu hwnt i oriau gwaith, neu oddi ar y safle. Cysylltwch â wblsupport@cambria.ac.uk
Mae meddalwedd darllen ac ysgrifennu ar gael i chi pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, ar ba bynnag gwrs y mae ei angen arnoch.
Yn dilyn cyfarfod ac asesiad cychwynnol, gallwn roi adnoddau i chi i gefnogi eich dysgu, megis benthyca:
- Canllawiau a hyfforddiant ar ddefnyddio meddalwedd cynorthwyol
- Gliniaduron/Chromebooks o’r llyfrgell
- Dewisiadau allweddell a llygoden eraill os oes angen
- Dyfeisiau chwyddo cludadwy.
Mae trefniadau arholiadau yn rhoi mynediad cyfartal i chi i’r arholiad heb newid gofynion yr asesiad. Mae’r rhain wedi’u rhoi ar waith yn seiliedig ar ‘Ffordd arferol o weithio’ ac felly, nid ydynt yn parhau o’r ysgol.
Y broses ydy ailasesu eich anghenion yn seiliedig ar eich ffordd bresennol o weithio, ar eich cwrs newydd ac unrhyw Anghenion Dysgu Penodol (SpLD), anghenion corfforol neu feddygol.
Dyma rai enghreifftiau o drefniadau mynediad i arholiadau:
- Amser ychwanegol
- Defnyddio darllenydd
- Defnyddio ysgrifennydd
- Defnyddio prosesydd geiriau
- Troshaenau lliw neu bapur
- Ystafell lai neu ar wahân.
Os ydych chi wedi cael trefniadau mynediad i arholiadau yn y gorffennol, rhannwch y wybodaeth hon gyda ni’n ystod y cyfnod cofrestru.
Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch anhawster dysgu neu anghenion meddygol i’ch darlithydd ADY arbenigol.
Byddant yn cyfarfod â chi yn ystod eich tymor cyntaf i roi’r trefniadau hyn ar waith. Byddant yn hefyd yn trafod eich rhwystrau blaenorol ac i sicrhau bod y tiwtor yn monitro unrhyw rwystrau ar eich cwrs newydd, yn unol â chanllawiau’r JCQ a phartneriaid prifysgol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i’r dudalen cysylltwch â ni i roi eich manylion cyswllt, neu anfonwch e-bost at wblsupport@cambria.ac.uk.
Cwestiynau Cyffredin
Mae rhoi gwybod i ni am eich anghenion unigol yn gynnar yn golygu y gallwn gynnig cymorth i chi ar unwaith. Gallwch ddatgelu eich anghenion ar unrhyw gam o’ch taith ddysgu.
Gallwch ddefnyddio’r feddalwedd hon i’ch helpu i ddarllen testun ysgrifenedig, neu i deipio wrth i chi siarad. Mae wedi’i chysylltu â’ch cyfrif e-bost coleg a gellir cael mynediad i’r feddalwedd o bell o gartref.
Dylech, os ydych chi eisiau i ni roi trefniadau cymorth a/neu fynediad at arholiadau ar waith yng Ngholeg Cambria.
Dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni neu wedi gofyn i ni wneud hynny y byddwn ni’n trosglwyddo’r wybodaeth. Er enghraifft, caniatâd ar gyfer trefniadau mynediad i arholiadau. Fodd bynnag, efallai y byddai’n syniad da rhoi gwybod i sefydliadau eraill am eich anghenion fel y gellir rhoi cymorth perthnasol ar waith.
Mae darlithwyr arbenigol yn helpu dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth dysgu. Byddwn yn cysylltu â chi os ydych wedi datgelu Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD). Gallwch ofyn am gymorth gennym ar unrhyw adeg yn ystod eich taith ddysgu. Gallwch gysylltu â ni ar wblsupport@
Eich Cadw'n Ddiogel
Mae eich diogelwch a’ch llesiant yn y coleg a thu hwnt yn hynod o bwysig i ni pan rydych yn fyfyriwr gyda ni. Rydym am i chi deimlo eich bod yn gallu siarad ag unrhyw aelod o staff os ydych yn teimlo mewn perygl neu os oes gennych chi unrhyw bryderon. Bydd y staff yn eich cynorthwyo chi gan gynnwys cael cymorth gan ein Tîm Diogelu.
Fel coleg mae gennym ddyletswydd i ddiogelu holl blant, bobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o safbwyntiau eithafol, dylanwad grwpiau terfysgol a pheryglon radicaleiddio. Mae ein Strategaeth Prevent yn trafod ein dull a’n cyfrifoldebau. Mae’n canolbwyntio ar addysg, parch a darparu man diogel i fyfyrwyr drafod materion, gofyn cwestiynau a rhannu eu safbwyntiau a’i nod yw helpu bobl i wybod sut i amddiffyn eu hunain.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r Tîm Diogelu ar 0300 30 30 009, anfonwch e-bost at Safeguarding@cambria.ac.uk neu dewch draw i Gwasanaethau Myfyrwyr.
Os oes angen cymorth arnoch chi, gallwch chi gysylltu â ni
Cysylltwch â ni
0300 30 30 009
E-bost
diogelu@cambria.ac.uk
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n deall y pwysigrwydd o weithio’n galed i wneud ein coleg yn lle cynhwysol, cydradd a chefnogol i bawb. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n cymuned amrywiol o ddysgwyr, staff a rhanddeiliaid i sicrhau fod Coleg Cambria yn gynhwysol i bawb. Mae ein Arweinydd Tegwch a Pherthyn ar gael i gynorthwyo ein staff a’n dysgwyr gydag unrhyw beth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn ffynnu yma.
Pwy bynnag ydych chi a beth yw eich nodweddion, rydych chi’n haeddu cael eich trin â pharch, cael cyfleoedd teg wedi’u teilwra a chael eich dathlu am fod yn chi, waeth beth fo’ch hil, crefydd, hunaniaeth rhywedd, oedran, rhywedd, anabledd, dosbarth, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, rydych yn aelod cyfartal, gwerthfawr o’n cymuned.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau’n gyson er mwyn bod yn gynhwysol i bawb. Rydyn ni’n disgwyl i bob aelod o gymuned Coleg Cambria gael ei drin â pharch, a thrin eraill â pharch. Gweler isod rai o’r ffyrdd y mae staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Rydyn ni hefyd yn dilyn Deddf Cydraddoldeb 2010
Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau yn barhaus i fod yn gynhwysol i bawb. Rydyn ni’n disgwyl i bob aelod o gymuned Coleg Cambria gael eu trin â pharch, ac i drin eraill â pharch. Gweler isod rai o’r ffyrdd y mae staff a myfyrwyr Coleg Cambria yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Rydym hefyd yn dilyn Deddf Cydraddoldeb 2010
Mynediad
Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod angen addasiadau ychwanegol ar gyfer mynediad i bobl ag anableddau corfforol. Bydd ein Tîm Cynhwysiant yn gweithio gyda chi i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau.
Adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydyn ni'n eu gwasanaethu
Parchu a dathlu pob cefndir a diwylliant
Ddim yn goddef bwlio nac aflonyddu o gwbl
Trin pawb yn gyfartal ac yn deg
Gwneud yn siŵr fod dysgu ar gael i bawb
Herio rhagfarn
Yr Hyn Rydyn Ni'n Weithio Arno
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n barhaus tuag at wneud Coleg Cambria y lle mwyaf cynhwysol a chyfartal i bawb. Mae’r dogfennau isod yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gwneud hynny, a’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn.
Coleg Cambria yn Hyrwyddo Gwerthoedd Prydeinig
Mae gwerthoedd gorau Prydeinig yn sail i’r holl addysg a’r gweithgareddau yng Ngholeg Cambria. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob dysgwr yn deall gwerthoedd Prydain a nodir yn Strategaeth Prevent y Llywodraeth.
Democratiaeth
Rheol Gyfreithiol
Rhyddid yr Unigolyn
Parchu Pawb
Goddefgarwch o grefyddau a chredoau
Mae ein gwerthoedd yn cynnwys ‘annog a dathlu amrywiaeth’ ac i ‘barchu eraill a’n hamgylchedd’. Mae’r coleg yn ‘fuddsoddwr amrywiaeth’ ac rydyn ni’n annog goddefgarwch crefyddau a chredoau gwahanol yn weithredol drwy ein gwasanaethau caplaniaeth, y system fugeiliol, gweithgareddau’r coleg a phwyllgor cydraddoldeb ac amrywiaeth gweithgar iawn.
Mae ein tîm ymroddedig yma i'ch helpu trwy e-bost neu ffôn.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni trwy anfon e-bost at perthyn@cambria.
Cynorthwyo ein Gofalwyr Ifanc gydag Achrediad QSCS
Mae gofalwyr sy’n oedolion ifanc dair gwaith yn fwy tebygol o fod allan o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant na’u cyfoedion, a phum gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg. Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni wedi ymrwymo i atal hynny drwy ddarparu rhwydwaith cefnogi cadarn o dan ein hachrediad QSCS.
Yng Nghymru, mae tua 30,000 o ofalwyr ifanc dan 25 oed yn neilltuo amser sylweddol i ofalu, gan effeithio ar eu haddysg, eu hiechyd a’u llesiant. Rydyn ni’n deall yr heriau y mae’r dysgwyr hyn yn eu hwynebu wrth gydbwyso astudiaethau a rhoi gofal. Dyna pam, ym mis Ionawr 2025, y cawsom ni achrediad Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) eto am y tair blynedd nesaf, gan arddangos ein hymrwymiad i gefnogi gofalwyr ifanc yng Ngholeg Cambria.
Beth mae Achrediad QSCS yn ei olygu?
Mae’r Ffederasiwn Gofalwyr QSCS, a gafodd ei ddatblygu gan y Ffederasiwn Gofalwyr, yn darparu achrediad a hyfforddiant i sefydliadau i gefnogi gofalwyr ifanc yn effeithiol. Mae’r achrediad yma’n codi ymwybyddiaeth, yn cael gwared ar rwystrau, ac yn gwella mynediad at gymorth trwy ddangos arferion da yn y gymuned.
Mewn partneriaeth â’r Ffederasiwn Gofalwyr, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwella cefnogaeth i ofalwyr ifanc mewn colegau addysg bellach. Drwy ddeall anghenion ein gofalwyr ifanc a meithrin partneriaethau effeithiol gyda gwasanaethau lleol, mae achrediad QSCS yn sicrhau y gallan nhw gyrraedd eu potensial a mwynhau eu hamser yng Ngholeg Cambria.
Pwysigrwydd Achrediad QSCS
Rydyn ni’n credu bod gofalwyr ifanc yn haeddu dysgu, mwynhau a chyflawni eu potensial. Mae achrediad QSCS wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth o’u rhwystrau, gan ein galluogi i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau effeithiol. Mae gan ein staff adnoddau a hyfforddiant gwell i ganfod dysgwyr â rolau gofalu yn gynnar a darparu cymorth rhagweithiol.
Diolch i’r ymdrechion hyn, rydyn ni wedi canfod mwy o ofalwyr ifanc yn ystod cofrestru eleni o’i gymharu â’r llynedd. Bydd y myfyrwyr yma’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni eu potensial, gyda rhwydwaith sy’n gwella eu llesiant ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd dysgu.
Os ydych chi’n ofalwr ifanc yng Ngholeg Cambria, cysylltwch â’ch tîm Gwasanaethau Myfyrwyr i gael rhagor o gymorth. Os ydych chi’n ystyried astudio gyda ni ac angen cyngor ar gydbwyso eich astudiaethau â’ch ymrwymiadau gofalu, cwblhewch y ffurflen isod.