Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
About Apprenticeships
Pam dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Os rydych yn mwynhau gweithio gyda phlant, gall prentisiaeth mewn gofal plant fod yn yrfa berffaith i chi!
Mae angen i bobl sy’n astudio tuag at y cymhwyster hwn fod yn gweithio mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a/neu
wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.
Bydd Prentisiaid yn mynd i weithdai ac yn dysgu’r wybodaeth greiddiol yn ogystal â chael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant.
Bydd angen i ddysgwyr yn y diwydiant hwn fod â llawer o egni, creadigrwydd a gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm
Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig
Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth gofal plant ar Lefel 2, 3, 4 a 5.
Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol fel cymhorthydd mewn lleoliad gofal plant
Hyd Arferol – 16 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai
Lleoliad – Yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gwaith
Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol mewn lleoliad gofal plant mewn swydd oruchwylio
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai
Lleoliad – Yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gwaith
Lefel 4 mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol mewn swydd oruchwylio mewn lleoliad gofal plant
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai
Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl
Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 36 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai
Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl
Lefel 5 mewn Fframwaith Proffesiynol mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 9 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a mynd i weithdai
Lleoliad – Yn y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Iâl
Ceri Jones
Wedi Astudio –Lefel 2 a 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
“Gwnes i astudio NVQ Lefel 2 a Lefel 2 a 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Gwnes i ddewis y cwrs yma oherwydd roeddwn i eisiau gyrfa newydd mewn gofal plant a gwnaeth hyn weithio’n berffaith oherwydd mae’n gwrs sydd wedi’i seilio yn y gwaith felly roeddwn i’n gallu astudio a gweithio ar yr un pryd.
“Dwi wedi dysgu cymaint wrth gwblhau’r cymhwyster yma ac roedd y tiwtoriaid yn fanwl iawn ac yn ateb fy holl gwestiynau.
Mae’r cwrs yma wedi rhoi’r hyder i mi ddatblygu fy ngyrfa ac erbyn hyn dwi’n oruchwylydd dan hyfforddiant, buaswn i byth wedi gallu gwneud hynny heb y cymhwyster yma.”
Tracey Griffiths
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar Hyn o Bryd – Ymarferydd Meithrinfa a Rheolwr Ystafelloedd Dros Dro ar y The Homestead Day Nursery
“Fe wnes i ddychwelyd i addysg gan fy mod i eisiau newid gyrfa. Fe wnes i wneud cais a chael cynnig swydd gyda Homestead fel Prentis Ymarferydd Meithrinfa gyda’r ddealltwriaeth fy mod i’n cwblhau fy nghymhwyster lefel 2 mewn gofal plant ar y cyd â fy swydd newydd.
“Mae bod yn Brentis wedi fy ngalluogi i i ddechrau fy nhaith i fyd gofal plant wrth barhau i weithio ac mae wedi fy helpu i i ddod o hyd i yrfa dwi’n ei charu, mewn ychydig dros flwyddyn. Roedd Lisa, fy Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith mor gefnogol ac anogol trwy gydol y cwrs a wnaeth wahaniaeth enfawr. Yn ystod yr wythnos wnes i gwblhau’r cwrs, fe ges i gynnig swydd fel Rheolwr Ystafelloedd Dros Dro dros gyfnod mamolaeth.
“Gall dechrau Prentisiaeth yn ddiweddarach yn eich bywyd gwaith fod yn frawychus, ond dydi oedran ddim yn rhwystr. Gwnewch beth sy’n teimlo’n iawn i chi! Dydi hi byth yn rhy hwyr dechrau taith newydd.”
Gemma Young
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar Hyn o Bryd – Gweithiwr Chwarae ar Canolfan Gofal Plant Oaktree
“Fy hoff beth am astudio Prentisiaeth ydy eich bod chi’n gallu bod yn ymarferol. Mae’n ddiddorol iawn gweld y plant yn dysgu wrth chwarae a’u gwylio nhw’n defnyddio eu dychymyg i ehangu eu dysgu.
“Mae Coleg Cambria wedi fy helpu gyda fy hyder gymaint gan fy mod i’n cael trafferth gyda dyslecsia, gwnaeth cael cymorth gan fy nhiwtor Tanya a fy nghydweithwyr fy annog a’m helpu gyda gwaith ysgrifennu a thorri pethau i lawr fel eu bod yn haws i’w deall. Dwi’n gobeithio parhau i weithio ym maes gofal plant a gwneud gwahaniaeth i helpu’r plant i ddysgu eu sgiliau datblygiad cymdeithasol ac emosiynol.
“Fy nghyngor i fyfyrwyr eraill ydy os ydych chi’n cael trafferth gyda dyslecsia neu unrhyw anawsterau dysgu – ewch amdani! Rydych chi angen credu ynoch chi’ch hun a mynd ar drywydd eich swydd ddelfrydol.”
Magu Prentisiaethau gyda Choleg Cambria | Gofal Dydd Plant Roots and Wings
Ymweld â'n horiel
Astudiaethau Achos
Kimberly Jones
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Jane Moore
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Alice Stansford
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn i’n cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cyflogwyr rydym yn gweithio â nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor