Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Gwybodaeth am Brentisiaethau
Pam Dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Ydych chi’n hoffi anifeiliaid? Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio gyda nhw yn broffesiynol?
Yn 2021/2022 amcangyfrifwyd bod gan 62% o gartrefi yn y DU anifail anwes ac mae angen gofalu am bob un ohonynt!
Gall cwblhau prentisiaeth yn y diwydiant hwn eich helpu chi i ddod yn weithiwr yn y sw, twtiwr cŵn, technegydd milfeddygol, triniwr cŵn a chymaint rhagor.
Asesir prentisiaid yn y gweithle gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant, ochr yn ochr â chael eu rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod i ddysgu yn y coleg ar gyfer rhai cyrsiau ar ein safle Llaneurgain.
Bydd angen i ddysgwyr a fydd yn cwblhau’r cymwysterau hyn fod â’r gallu i beidio â chynhyrfu, bod yn amyneddgar a gallu trin anifeiliaid o bob maint yn dda.
Y Prentisiaethau Rydyn Ni’n eu Cynnig
Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant prentisiaeth gofal anifeiliaid, Cymhorthydd Gofal Milfeddygol a Thwtio Cŵn ar Lefelau 2 a 3.
Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Trin Cŵn Gwasanaethau neu Hyfforddi Anifeiliaid)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Gofal a Lles Anifeiliaid)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Twtio Cŵn)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid (Swau/bywyd gwyllt)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 2 mewn Cymhorthydd Gofal Milfeddygol
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid (Trin Cŵn Gwasanaethau neu Hyfforddi Anifeiliaid)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid (Gofal a Lles Anifeiliaid)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid (Twtio Cŵn)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid (Sŵau/bywyd gwyllt)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid (Practis Anifeiliaid Bach)
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 24 – 36 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Diploma Lefel 3 C&Q mewn Nyrsio Milfeddygol – Practis Anifeiliaid Bach
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn practis addysgu diwydiant perthnasol a chael hyfforddwr clinigol. O leiaf 5 TGAU gradd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg a Gwyddoniaeth.
Hyd Arferol – 33 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith, arholiadau a rhyddhau am y diwrnod
Lleoliad – Yn y gwaith a Llaneurgain
Hannah Hancock
Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid
Ar Hyn o Bryd –Cymhorthydd Cytiau Cŵn/Staff Uwch – Whitley Crest Boarding Kennels, Cattery and Doggy Daycare
“Dwi wedi mwynhau astudio ar gyfer y cymhwyster hwn yn fawr oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwthio i fod yn well a dysgu rhagor i mi fy hun.
“Dwi wedi magu rhagor o hyder yn fy ngwaith ac wedi dysgu rhagor am ochr fusnes gwirioneddol y swydd a dwi wedi’i fwynhau’n fawr, dwi wedi dysgu cymaint trwy wneud y cymhwyster hwn a dwi wedi gallu cymhwyso hyn i fy ngwaith.”
Tracey Griffiths
Studied – Level 2 Children’s, Care, Play, Learning and Development
Currently – Nursery Practitioner & Temporary Room Manager at The Homestead Day Nursery
“I came back into education as I wanted a change of career, I applied and was offered a role with The Homestead as an Apprentice Nursery Practitioner with the understanding that I complete my level 2 in childcare alongside my new job.
“Being an Apprentice has enabled me to start my journey into childcare whilst still working and it has helped me to find a career I now love, all in just over a year. My Work Based Learning Practitioner Lisa was so supportive and encouraging throughout the course which made a huge difference. The week I completed the course I was offered the Temporary Room Managers role to cover maternity leave.
“Starting an Apprenticeship at a later stage in your working life can be daunting but age is just a number, follow what feels right! You are never too late to start a new journey.”
Cyfleusterau Gofal Anifeiliaid
Canolfan Anifeiliaid
Ymweld â'n horiel
Astudiaethau Achos
Kimberly Jones
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor