Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Gwybodaeth am Brentisiaethau
Pam dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Mae gan Ogledd Cymru y cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg fwyaf datblygedig yn dechnolegol yn y DU cyfan ac mae 34% o gyflogaeth Gogledd ddwyrain Cymru yn dod o weithgynhyrchu. Rydym yn gweithio’n agos gyda dros 150 o gwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu lleol i ddatblygu eu gweithluoedd gyda Phrentisiaethau i feithrin sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant i greu sector sy’n ffynnu.
Bydd Prentisiaid Peirianneg yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadnewyddu yn ddiweddar ar ein safleoedd Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers am ddiwrnod i ffwrdd o’r gwaith ac i gael eu hasesu yn ogystal â chael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.
Bydd angen i brentisiaid Peirianneg fod â sgiliau mathemateg a saesneg o lefel uchel yn ogystal â’r gallu i weithio’n fanwl gywir.
Rydym yn argymell cyn i chi ddechrau Prentisiaeth Peirianneg eich bod yn cofrestru ar gwrs llawn amser mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg neu Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch cyn chwilio am Brentisiaeth.
Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig
Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth peirianneg a gweithgynhyrchu ar Lefel 2, 3 a 4 yn ogystal â chyrsiau FdEng/BEng.
Lefel 2 mewn Peirianneg
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd C neu uwch
Hyd Arferol – 1 neu 2 flynedd i’w gytuno gyda’r cyflogwr
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith
Lleoliad – Ffordd y Bers neu Lannau Dyfrdwy
Lefel 2 mewn Gweithgynhyrchu
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 2 mewn Technegau Gwella Busnes
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Mathemateg a Saesneg TGAU ar radd C neu uwch
Hyd Arferol – 18 mis – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Peirianneg
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Perfformio
Gweithrediadau Peirianneg / Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg, TGAU
Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch,
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith
Lleoliad – Ffordd y Bers neu Lannau Dyfrdwy
Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Prosesau
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU
Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch,
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 mewn Technegau Gwella Busnes
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd C neu uwch
Hyd Arferol – 18 – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 4 mewn Peirianneg
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, Perfformio
Gweithrediadau Peirianneg a/neu 2 gymhwyster Safon Uwch mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth neu ddilyniant o Brentisiaeth Lefel 3
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith
Lleoliad – Glannau Dyfrdwy
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch FdEng/BEng
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol. Tri chymhwyster Safon Uwch, gan gynnwys B mewn Mathemateg a Ffiseg, neu Ddiploma Estynedig BTEC gradd Rh* Rh* Rh*. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau HNC yn flaenorol yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 y cymhwyster. Gall ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Rh*Rh* mewn Diploma BTEC sefyll prawf mynediad i ganfod addasrwydd ar gyfer y rhaglen hon, ar gyfer mynediad posibl i flwyddyn 1.
Hyd Arferol – 2 – 3 blynedd
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith
Lleoliad – Glannau Dyfrdwy
Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu FdEng/BEng
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol. Tri chymhwyster Safon Uwch, gan gynnwys B mewn Mathemateg a Ffiseg, neu Ddiploma Estynedig BTEC gradd Rh* Rh* Rh*. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau HNC yn flaenorol yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 y cymhwyster. Gall ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Rh*Rh* mewn Diploma BTEC sefyll prawf mynediad i ganfod addasrwydd ar gyfer y rhaglen hon, ar gyfer mynediad posibl i flwyddyn 1.
Hyd Arferol – 2 – 3 blynedd
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith
Lleoliad – Glannau Dyfrdwy
Connor Philipps
Wedi Astudio – Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol
Ar Hyn o Bryd – Gweithio yn Electroimpact
“Mi wnes i astudio cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Mecanyddol wrth gael fy rhyddhau o’r gwaith am y dydd a gwnes i’r lefelau is yn flaenorol yn llawn amser.
“Y rheswm pam mi wnes i ddewis Peirianneg ydi oherwydd fy mod i’n caru’r pwnc a phopeth mecanyddol, yn enwedig gwneud a thrwsio pethau, felly wrth ddechrau’r Brentisiaeth roedd gen i ddealltwriaeth dda o’r cyfan yn barod, fe wnaeth y cwrs a’r darlithwyr fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach ac mae Coleg Cambria wir wedi fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa.”
Joe Williams
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Peirianneg Uwch
Ar Hyn o Bryd – Prentis Ffitiwr Gosod yn Magellan Aerospace
“Mi wnes i benderfynu astudio Lefel 2 mewn Peirianneg Uwch oherwydd byddai’r unedau a’r sgiliau y byddwch chi’n eu hastudio ar y cwrs yn helpu i fod mewn gwell sefyllfa i gael prentisiaeth.
“Ers gorffen y cwrs mi wnes gais llwyddiannus ar gyfer rhaglen Prentisiaeth Awyrofod Magellan a dwi’n ei mwynhau’n fawr, roedd y sgiliau a’r wybodaeth a gefais i wrth astudio yng Ngholeg Cambria yn amhrisiadwy ac wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw.”
Darryl Fountain
Wedi Astudio – Peirianneg Lefel 2, BTEC ac NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg, NVQ Lefel 4 mewn Peirianneg a chwrs HNC Trydanol
Ar Hyn o Bryd – Rheolwr Peirianneg y Grŵp yn Village Bakery
“Idechreuais astudio cwrs llawn amser Peirianneg Lefel 2 yn y coleg yn 2012. Mi gefais i gyfle i ddechrau Prentisiaeth gyda’r Village Bakery lle’r ydw i erbyn hyn wedi cyflawni BTEC ac NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg, NVQ Lefel 4 mewn Peirianneg a chwrs HNC Trydanol.
“Er gwaethaf heriau ceisio cydbwyso astudio a sifftiau mewn swydd anodd, roedd parodrwydd i weithio’n galed a’r gefnogaeth ges i gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Cambria yn golygu fy mod wedi llwyddo i gwblhau fy astudiaethau a chael swydd fel Rheolwr Peirianneg y Grŵp yn Village Bakery. Erbyn hyn rydw i’n gyfrifol am yr holl dimau peirianneg ym mhob un o’r 6 ffatri lle mae goruchwyliwr a thîm ar bob safle.
“Yr arweiniad, y cyngor a’r gefnogaeth ges i yn Goleg Cambria sydd wedi fy rhoi ar ben ffordd gyda fy ngyrfa peirianneg, hoffwn i ddiolch i’r holl diwtoriaid, maen nhw wedi bod yn anhygoel.”
Joe Williams
Studied – Level 2 Enhanced Engineering
Currently – Apprentice Assembly Fitter at Magellan Aerospace
“I decided to study level 2 Enhanced Engineering because the units and skills you study on the course would help put me in a better position for gaining an apprenticeship.
“Since finishing the course I successfully applied for the Magellan Aerospace Apprenticeship programme which I’m really enjoying, the skills and knowledge I gained whilst studying at Coleg Cambria were invaluable and really helped me to get where I am now.”
Bywyd Fel Prentis | Taith Toyota Lucy
Ystyried Prentisiaeth? | Taith Charlotte Kronospan
Cyfleusterau Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Canolfan Technoleg Peirianneg
Gweithdy
Peirianneg
Ymweld â'n horiel
Astudiaethau Achos
Kimberly Jones
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Jane Moore
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Alice Stansford
“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.
Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor