Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr!
Mi wnaethon ni fwynhau dathlu gyda chi yn ein seremonïau Gwobrau Myfyrwyr yn fawr iawn.
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r seremoni ac wedi cael y cyfle i ddathlu eich cyflawniadau gyda theulu, ffrindiau a thiwtoriaid.
Hoffem hefyd estyn diolch arbennig i’n Noddwr Platinwm, Airbus, ac i’n holl noddwyr eraill am eu holl gefnogaeth i wneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch arbennig i’n siaradwyr gwadd:
Noson 1
- Stifyn Parri
Noson 2
- Naomi Griffiths
- Kieiron Lloyd
- Georgia Ellams
Diolch i bawb wnaeth helpu i wneud y dathliadau yn rhai
cofiadwy.
Gobeithio eich bod wedi cael amser gwych a dymunwn y gorau i chi i’r dyfodol.
Ein Noddwyr













