main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A LEADER from Coleg Cambria was selected to help champion mental health awareness and support in the hospitality industry.

Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Kate Muddiman ydy Llysgennad Gogledd Cymru ar gyfer The Burnt Chef Project.

Mae’r sefydliad byd-eang yn darparu addysg, arweiniad, ac adnoddau i helpu i fynd i’r afael â’r stigma, gan fod mwy na phedwar allan o bump o weithwyr proffesiynol yn y sector hamdden wedi profi o leiaf un broblem iechyd meddwl neu brofiad o iechyd meddwl gwael yn ystod eu gyrfaoedd.

Daw’r newyddion ar ôl i Kate a’r tîm Lletygarwch yng Ngholeg Cambria – sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain – gael eu henwebu ar gyfer categori Effaith Eithriadol mewn Addysg Arlwyo yng Ngwobrau The Burnt Chef Project eleni.

Mae bod yr unig gynrychiolydd o Ogledd Cymru yn fraint enfawr, i mi a’r coleg,” meddai Kate.

“Mi wnaeth darganfod mentrau The Burnt Chef Project danio cyswllt i mi yn syth gan fy mod i’n angerddol am drawsnewid y sgwrs ynghylch iechyd meddwl a thrawma mewn gweithleoedd a lleoliadau addysg, gan anelu at wella ein hamgylcheddau.

“Mae gen i gefndir mewn lletygarwch ac mae fy nau o blant yn rhan o’r diwydiant, dwi’n benderfynol o fod yn eiriolwr ac yn llais ar gyfer newid cadarnhaol mewn maes sy’n gallu bod yn anodd iawn, ond mae agweddau’n dechrau newid.”

Ychwanegodd hi: “Wrth arwain tîm dysgu yn y gwaith mewn lletygarwch, mi roeddwn i’n dyst o sut mae amgylcheddau’r gweithle yn gallu effeithio ar lesiant meddwl yn sydyn.

“O ganlyniad i’n chwilfrydedd mi es i ar drywydd gradd ôl-raddedig mewn Trawma, Ymlyniad ac Iechyd Meddwl, ac wrth roi’r wybodaeth yma ar waith o fewn y tîm trawma yn y coleg – a gyda’n partneriaid diwydiant – dwi’n gallu helpu i yrru newid cadarnhaol i staff, myfyrwyr, a chyflogwyr wrth gynnig cymorth ac addysg i rymuso trawsnewidiadau.

“Mae cynnydd mewn lleihau stigma iechyd meddwl yn amlwg, ond eto mae ein taith i newid cynhwysfawr yn parhau. Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi The Burnt Chef Project i helpu i wneud y newid yma, ac yng Ngholeg Cambria mi fyddwn ni’n parhau ein gwaith da o dynnu sylw at y pwnc.”

Ar y Rhaglen Llysgenhadon, dywedodd The Burnt Chef Project: “Rydyn ni’n ceisio adeiladu cymuned ryngwladol o unigolion lletygarwch amrywiol sydd wedi profi salwch meddwl.

“Mae’r rhwydwaith yn ymddwyn fel ‘gwe’ cymorth cymheiriaid yn fyd-eang ac wrth weithio gyda’n gilydd mi wnawn ni gynnal sgyrsiau grŵp wythnosol, sesiynau dal i fyny personol, a digwyddiadau rheolaidd.

“Ein nod ydy bod y rhwydwaith cymorth cymheiriaid rhyngwladol mwyaf o fewn y diwydiant lletygarwch.”

I weld rhagor ar The Burnt Chef Project, ewch i The Burnt Chef Project | Hospitality Mental Health Awareness.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost