Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

LESSONS at a primary school will be great outdoors thanks to a generous donation from Coleg Cambria

Mae’r coleg wedi cyfrannu tai ystlumod, bocsys adar a cheginau mwd i Ysgol Rhosymedre, ger Wrecsam.

Bu dysgwyr Mynediad i Adeiladu safle Ffordd y Bers Cambria yn adeiladu’r cyfarpar, a bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion dosbarth Derbyn a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Gwnaeth Amy Rowlands, darlithydd mewn Adeiladu Sylfaen, y cyflwyniad ynghyd â’i chydweithiwr Edd Young a’r myfyrwyr Joe Dempsey a Zac Sprason-Jones.

“Bob blwyddyn rydyn ni’n gwneud cyfarpar dysgu awyr agored ac eitemau fel tai ystlumod a bocsys adar sy’n ysbrydoli cadwraeth, a’u rhoi i ysgolion gwahanol yn yr ardal,” meddai Amy.

“Eleni rydyn ni wedi dewis Rhosymedre am fod fy mab yn mynd i’r uned ADY yno. Mae hi’n ysgol wych felly roedden ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

“Roedden nhw’n falch iawn o gael y rhodd, ac roedden ni ond yn rhy falch o helpu.”

Dywedodd hefyd: “Mae’r dysgwyr mynediad yn Ffordd y Bers wedi dylunio, adeiladu a phaentio popeth. Mae wedi bod yn brofiad gwych iddyn nhw, gan roi yn ôl i’w cymuned a gwella eu sgiliau. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost