Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

COLEG CAMBRIA encouraged the development of advanced engineering among young people in North Wales by donating state-of-the-art 3D printing equipment to secondary schools.

Cyflwynodd Dan Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Uwch ar safle Glannau Dyfrdwy’r coleg, argraffydd 3D Tiertime UPBOX a thechnoleg gynorthwyol.

Ymhlith y rhai a gafodd y peiriannau oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn, gwnaeth ei arweinydd pwnc Dylunio Cynnyrch Carley Williams ddiolch i Cambria am y gefnogaeth.

“Cyrhaeddodd yr argraffydd 3D pan dorrodd ein hargraffydd ni, mae’r ysgol yn ddiolchgar iawn i Goleg Cambria,” meddai hi.

“Mi fydd yn cael effaith anferth ar ein myfyrwyr Dylunio Cynnyrch, yn enwedig y rhai sy’n cymryd rhan yn yr Her F1 i Ysgolion STEM.”

Ychwanegodd Dan: “Mae’n hanfodol dal dychymyg peirianwyr ifanc Cymru er mwyn i ni ddatblygu peirianwyr medrus y dyfodol.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd darparu’r offer yma yn tanio diddordeb mewn STEM a’r heriau cyffrous mae gyrfa mewn peirianneg yn gallu eu darparu.”

Daw’r newyddion ar ôl i’r coleg gyflwyno peiriant didoli diwydiannol o’r radd flaenaf a llwyfan Robot Cyffredinol Awtonomaidd gyda rhyngwyneb ER Flex i’w safle Glannau Dyfrdwy.

Cafodd yr offer ei ariannu gan Medru, prosiect ar y cyd rhwng Cambria, Prifysgol Bangor, a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Dywedodd Dan bydd y peiriannau’n werthfawr i’r holl fyfyrwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant yn barod, prentisiaid neu weithwyr profiadol sydd eisiau uwchsgilio.

“Mae’r dechnoleg yn anhygoel, ac mi fydd y peiriant didoli yn arbennig yn hanfodol ar gyfer helpu i addysgu grwpiau o ddysgwyr,” meddai.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan www.cambria.ac.uk a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost