main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A renowned movie director was put under the spotlight by Coleg Cambria students

Gwnaeth Neil Marshall, sydd wedi gweithio ar Hellboy, Game of Thrones, Westworld, a Dog Soldiers, ymweld ag adran Cyfryngau Creadigol y coleg ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda’r dysgwyr yng Nglannau Dyfrdwy.

Enillodd wobr y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Saturn a Gwobrau British Independent Awards ar gyfer The Descent, siaradodd am ei yrfa yn y diwydiant gan ddarparu cyngor ac arweiniad i’r grŵp ar sut i fynd ar ôl eu breuddwydion.

Gwnaeth Edward Evers-Swindell sy’n ddarlithydd yn Cambria ysgrifennu a chyfarwyddo’r ffilm Dark Signal, lle gwnaeth Neil gefnogi fel Cynhyrchydd Gweithredol.

Dywedodd ei bod yn sesiwn “ysbrydoledig ac addysgiadol” i’r myfyrwyr a’r staff.

“Mi wnaeth Neil drafod ei lwybr i ffilm a’i daith bersonol yn ogystal ag ateb cwestiynau ar ystod o bynciau,” meddai Edward.

“Mae’r ffaith ei fod o wedi cyrraedd lle mae o ar ei ben ei hun, yn hytrach nag adnabod rhywun yn y diwydiant, wedi gwneud y profiad yn werth chweil i’r myfyrwyr. Mi wnaeth o ddechrau o’r dechrau gydag angerdd am ffilmiau i’w gynnal.”

Ychwanegodd: “Mae taith Neil wedi bod yn hir ac yn anodd, ond dwi’n gobeithio mi fydd yn ysbrydoli dysgwyr sydd ddim yn gwybod sut i ddechrau yn y busnes ffilmiau.

“Roedd ei sgwrs yn andros o ddiddorol ac mi aeth i fanylder am bob un o’i brosiectau a sut wnaeth o gael y cyfleoedd, wrth fod yn onest iawn am brosiectau roedd, yn ei eiriau ei hun, yn llwyddiannau ac yn fethiannau, yn ogystal â’r gwahaniaethau mewn gweithio mewn ffilm o’i gymharu â theledu.

“Gofynnodd y myfyrwyr gwestiynau grêt a oedd yn dangos bod ganddyn nhw wir ddiddordeb yn y sgwrs, ac roedd eu hadborth nhw’n gadarnhaol iawn, felly roedd yn ddigwyddiad gwych i bawb.”

Gwnaeth Neil recordio podlediad gydag Edward a’r tîm, lle wnaethon nhw drafod pwysigrwydd ymgysylltu ag academia a’r genhedlaeth nesaf o bobl ddawnus, o flaen y camera a thu ôl i’r camera.

“Dwi’n meddwl ei fod yn hanfodol, doedd pethau fel hyn ddim ar gael i ni pan roeddwn i’n astudio ffilm,” meddai.

“Cawsom ni fyth rhywun o’r busnes yn dod i siarad gyda ni; mi fuasai wedi bod yn agoriad llygad ac yn braf i gael rhywun yn cryfhau ein brwdfrydedd.

“Dwi’n hoffi dod i’r pethau yma a siarad gyda myfyrwyr oherwydd dwi eisiau ysbrydoli pobl. Dyna ein nod fel gwneuthurwyr ffilmiau, ysbrydoli pobl.”

I weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost