Background Splash

Cyhoeddi - 14/08/2025

Students are celebrating “exceptional” A Level and BTEC results after another remarkable year marked by hard work, ambition, and exciting developments at Coleg Cambria

Heddiw (dydd Iau), llongyfarchodd y Prif Weithredwr Yana Williams a’r Pennaeth Sue Price ddysgwyr ar draws safleoedd Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi am eu hymrwymiad, eu ffocws a’u penderfyniad dros y 12 mis diwethaf.

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn wirioneddol ysbrydoledig ac eithriadol yng Ngholeg Cambria,” meddai Ms Williams.

“Mae ein dysgwyr wedi gweithio’n anhygoel o galed, wedi cefnogi ei gilydd, ac wedi manteisio ar bob cyfle i lwyddo. Mae’r canlyniadau rydyn ni wedi’u gweld yn adlewyrchiad o’u hymdrech, eu disgyblaeth a’u hangerdd dros ddysgu.”

Ychwanegodd: “Mae llwyddiant yn cymryd sawl ffurf, boed yn ennill y graddau uchaf, symud ymlaen i’r brifysgol, sicrhau prentisiaeth neu ymuno â’r gweithlu yn hyderus, mae gan bob myfyriwr rywbeth i fod yn falch ohono.

“Maen nhw wedi codi’r safon unwaith eto, ac rydyn ni’n falch o ddathlu eu cyflawniadau.”

Daw’r canlyniadau ar adeg o dwf ac arloesedd parhaus yn Cambria, a welodd agoriad Nant, sef cyfadeilad iechyd, llesiant ac addysg newydd gwerth £14 ar safle Iâl yn Wrecsam yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r ganolfan arloesol yn atgyfnerthu ymrwymiad y coleg i ddarparu addysgu a chefnogaeth ragorol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Dywedodd y Pennaeth Sue Price fod canlyniadau 2025 yn adlewyrchu ymdrech gyfunol myfyrwyr, staff a theuluoedd sydd wedi cyfrannu at flwyddyn academaidd lwyddiannus.

“Mae ein myfyrwyr yn haeddu clod enfawr am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni,” meddai.

“Mae eu gwaith caled, eu brwdfrydedd a’u parodrwydd i gyflawni rhagoriaeth wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae’r canlyniadau hyn yn dyst i bopeth maen nhw wedi’i roi i’w hastudiaethau.”

Canmolodd Mrs Price staff addysgu a chymorth Cambria hefyd am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad: “O’r diwrnod cyntaf, mae ein staff wedi bod yno i arwain, cefnogi a herio myfyrwyr i gyrraedd eu potensial.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’w teuluoedd am eu hanogaeth barhaus a’u cred yn y coleg a dyfodol eu plant.”

Ar hyn o bryd, mae Cambria yn paratoi i groesawu carfan newydd o ddysgwyr ym mis Medi.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y momentwm hwn,” meddai Ms Williams.

“Gyda chyfleusterau newydd, cwricwlwm arloesol, ac amgylchedd cefnogol, mae Coleg Cambria yn barod i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”

Am ragor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch a BTEC Coleg Cambria, dilynwch y coleg ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost