Ymgeiswyr Cyrsiau Galwedigaethol
Ar gyfer cyrsiau galwedigaethol rydych chi’n gallu Dweud Ie i’ch lle ar-lein ar yr amod eich bod chi wedi bodloni gofynion mynediad y cwrs a’ch bod chi’n gallu uwchlwytho copi o’ch graddau ar y porth ar-lein.
Mae angen i chi Ddweud Ie i’ch Lle erbyn 4pm ddydd Mercher 26 Awst.
Os nad ydych chi wedi bodloni’r gofynion mynediad, peidiwch â phoeni, gallwn ni helpu.
Sgrin Recordiadau Cam Wrth Gam i Reoli'ch Cais
Dweud Ie
I'ch Lle
Cliciwch yma i weld sgrin recordiad
Dweud Na
I'ch Lle
Cliciwch yma i weld sgrin recordiad
Rydyn ni’n deall bod pobl yn newid eu meddyliau ac y gallech fod eisiau trafod gwahanol gyrsiau neu opsiynau pwnc Safon Uwch gyda ni.
Os ydy hyn yn swnio fel chi, ewch i un o’n safleoedd a siaradwch ag aelod staff. Gallant gynnig cyngor a chymorth a’ch helpu i wneud unrhyw newidiadau i’ch cais.
Rydyn ni’n eich annog i wneud hyn yn ystod ein Diwrnodau Agored ym mis Awst ar 20 a 21 Awst, ond mae croeso i chi hefyd ymweld ag unrhyw un o’n safleoedd cyn eich cyfnod ymsefydlu.
Dewch i’ch safle dewisol ar ein Diwrnodau Agored ar 20 neu 21 Awst gyda chopi o’ch graddau, bydd ein staff wrth law ac ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad a gallwch drafod eich opsiynau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau neu os ydych chi angen cymorth o ran Dweud Ie I’ch Lle, cysylltwch â’r Tîm Cofrestru ar e-bost neu dros y ffôn: