Mae Nimue Thomas, 18 oed, cyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Brân, wedi cael cynnig i astudio Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Durham – un o sefydliadau blaenllaw’r DU – ar ôl cwblhau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Gwareiddiad Clasurol, a Bagloriaeth Cymru Lefel 3.
Wrth sôn am ei hamser yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, dywedodd Nimue, o Langollen: “Mae’r ddwy flynedd ddiwetha’ wedi bod yn hollol wych.
“O’r diwrnod cyntaf un, cefais groeso a chefnogaeth, mae’r athrawon yn ardderchog, ac roedd eu hangerdd dros eu pynciau yn gwneud dysgu’n bleserus ac yn ysbrydoledig. Dwi wedi mwynhau pob munud a byddwn yn gwneud y cyfan eto pe gallwn i.”
Yn Gymraes Gymraeg falch, roedd Nimue hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i barhau â’i hastudiaethau iaith.
“Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi gallu cwblhau Bagloriaeth Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg a chael gafael ar bapurau Cymraeg mewn arholiadau a ffug arholiadau. Roedd yn wych hefyd bod yn rhan o gymuned Gymraeg y coleg.”
Yn ogystal ag astudio, ymunodd Nimue â chlwb llyfrau’r coleg, dan arweiniad y tiwtor Carys Roberts, gan ei ddisgrifio fel un o uchafbwyntiau ei hamser yng Ngholeg Cambria.
Erbyn hyn mae’n gobeithio dilyn gyrfa mewn addysg neu ymchwil ym maes Gwareiddiad Clasurol.
Canmolwyd ei hagwedd a’i chyflawniadau gan Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Dosbarth Iâl yng Ngholeg Cambria: “Mae Nimue yn fyfyrwraig ragorol, a’i hangerdd dros ddysgu a’i hymrwymiad i’w phynciau wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.
“Mae ei chynnig gan Brifysgol Durham yn gwbl haeddiannol, ac rydyn ni’n hynod falch o bopeth y mae hi wedi’i gyflawni. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi ar gyfer y dyfodol ac yn gwybod y bydd hi’n mynd ymlaen i wneud pethau gwych.”
Mae Coleg Cambria yn parhau i groesawu myfyrwyr o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt, gan gynnig ystod eang o bynciau Safon Uwch mewn amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig a gynlluniwyd i helpu dysgwyr i ffynnu’n academaidd ac yn bersonol.