Background Splash

Cyhoeddi - 09/10/2025

Yale Hafod building

Cafodd dau weithgaredd nodedig eu harwain gan Miranda Hazell, Athrawes Arbenigwr ac Arweinydd Hyfforddiant Cynhwysiant, ac Arweinydd Tegwch a Pherthyn Alice Churm, gan roi cyfleoedd ffres i gydweithwyr ddysgu a chydweithio.

Darparodd y Sesiynau Teithiol Cynhwysiant blatfform i staff ar draws safleoedd arddangos arfer cynhwysol arloesol. Cyflwynodd timau cwricwlwm a chymorth arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol, gan amlygu strategaethau sy’n lleihau rhwystrau i ddysgwyr ac yn annog diwylliant o garedigrwydd, parch a pherthyn.

Yn y cyfamser, canolbwyntiodd y Gynhadledd Datblygu Cydraddoldeb ar roi offer ymarferol i anogwyr cynnydd y coleg i ymgorffori cynhwysiant mewn sgyrsiau bob dydd gyda myfyrwyr.

Fe wnaethon nhw archwilio sut y gall camau gweithredu bach ond cyson wneud gwahaniaeth mawr o ran sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu “hannog, eu grymuso a’u galluogi”.

Wrth adfyfyrio ar y cyflawniadau hyn, canmolodd Lizzie Stevens, Cyfarwyddwr Cynhwysiant a Chynnydd, ymrwymiad staff ar draws y coleg: “Mae’r digwyddiadau yma yn dangos sut mae ein staff yn cydweithio i greu amgylcheddau lle allai dysgwyr ffynnu.

“Nid dim ond y polisïau a’r prosiectau untro yn unig sy’n bwysig, ond gwreiddio cynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud o addysgu a dysgu i lesiant a chymorth.

“Drwy rannu arfer da, gwrando ar ddysgwyr, a herio ein hunain i wneud ragor, rydyn ni’n adeiladu diwylliant coleg lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw’n perthyn ac yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Dyna beth mae cynhwysiant gwirioneddol yn ei olygu, ac mae wrth wraidd Coleg Cambria.”

Gan adeiladu ar y momentwm yma, cadarnhaodd y coleg fod cynllunio wedi dechrau ar gyfer ei Gynhadledd Addysg Gynhwysiant gyntaf, a drefnwyd i ddigwydd tua diwedd y flwyddyn academaidd.

Bydd y gynhadledd yn dod ag addysgwyr, ymarferwyr ac arweinwyr y sector ynghyd i rannu ymchwil, arddangos arloesedd, a dathlu cynnydd mewn dysgu cynhwysol, llesiant a chydraddoldeb.

Mae Coleg Cambria yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan addysgwyr, sefydliadau a phartneriaid a hoffai ddod i’r gynhadledd 2026 neu gyfrannu ati. Anfonwch e-bost at: miranda.hazell@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost