Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nant sef adeilad o’r radd flaenaf gwerth £14 miliwn ar safle Iâl yn Wrecsam sy’n cynnwys wardiau ysbyty sy’n efelychu’r diwydiant ac amgylcheddau realiti rhithwir gan alluogi myfyrwyr i brofi sefyllfaoedd meddygol o’r byd go iawn mewn lleoliad diogel ac arloesol.
Drwy gydol y dydd roedd y ganolfan yn llawn cynnwrf wrth i ddysgwyr o ysgolion a cholegau ledled y rhanbarth gymryd rhan mewn rhaglen lawn o sesiynau rhyngweithiol.
Roedd y gweithdai’n cynnwys Sgiliau Clinigol, Rheoli Llwybrau Anadlu a Chymorth Bywyd Sylfaenol ochr yn ochr â sgyrsiau ac arddangosiadau diddorol yn canolbwyntio ar lwybrau gyrfa, ceisiadau i brifysgolion a chyfleoedd hyfforddi.
Tynnodd Dr Steven Peacock, Is-bennaeth Astudiaethau Academaidd yng Ngholeg Cambria sylw at bwysigrwydd y fenter.
“Mae digwyddiadau fel Arwyr Gofal Iechyd yn gwbl hanfodol ar gyfer dyfodol y sector gofal iechyd,” meddai.
“Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar weithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, i gwrdd â gweithwyr proffesiynol llawn angerdd ac i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Drwy gydweithio’n agos â’n partneriaid ym Mhrifysgol Wrecsam a chyflogwyr lleol rydym yn helpu i adeiladu gweithlu medrus a hyderus sy’n barod i ddiwallu anghenion ein cymunedau.”
Hefyd yn bresennol oedd partneriaid a chyflogwyr allweddol o bob cwr o’r sector gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).
Roedd amrywiaeth o arddangoswyr – fel Gofalwn Cymru, Awtistiaeth Gyda’n Gilydd, City and County Healthcare Group, Fairpark Care ac Alcedo Care – hefyd yn bresennol i rannu golwg ar eu gwaith ac i greu cysylltiad â recriwtiaid y dyfodol.
Mynychodd cannoedd o ddisgyblion o Ysgol Clywedog, Ysgol Uwchradd Penarlâg, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, Ysgol Rhiwabon, ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant, ochr yn ochr â myfyrwyr Coleg Cambria a’i gwneud yn un o’r digwyddiadau Arwyr Gofal Iechyd mwyaf hyd yma.
Dywedodd Dr Simon Stewart, Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam: “Roeddem wrth ein bodd unwaith eto i weithio mewn cydweithrediad â Choleg Cambria i gynnal y digwyddiad llawn ysbrydoliaeth hwn a oedd yn canolbwyntio ar yrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae ein sefydliadau yn ei chwarae wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol sy’n fedrus ac yn gallu dangos trugaredd at eraill ac sy’n mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth enfawr yn ein cymunedau.
“Drwy ddod â phobl ifanc, addysgwyr ac arbenigwyr ynghyd rydym yn helpu i greu llwybrau a thynnu sylw at y gyrfaoedd hynod werthfawr hyn.”
Gan adeiladu ar lwyddiant expo y llynedd a gafodd ei gynnal gan y brifysgol, mae arddangosfa eleni unwaith eto wedi ysbrydoli pobl ifanc i edrych ar y rolau amrywiol a gwerthfawr sydd ar gael ar draws nyrsio, iechyd cynghreiriol a gofal cymdeithasol.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan
Goleg Cambria.