Ymwelodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, â safle Ffordd y Bers Cambria yn Wrecsam, gan gyfarfod â staff a dysgwyr a chael golwg ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Yn ystod ei hymweliad, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers, a Nick Tyson, Is-bennaeth y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Prosiect Hwb Sgiliau Uwch, i glywed am ddull arloesol y coleg o ran addysg dechnegol a galwedigaethol.
Ymunodd hi â thrafodaethau gyda Karl, Nick, Yana Williams y Prif Weithredwr a Sue Price y Pennaeth, ochr yn ochr â Paul Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, i archwilio’r cynlluniau ar gyfer yr Hwb a blaenoriaethau rhanbarthol ehangach.
Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Roedd hi’n wych ymweld â Choleg Cambria ac mae wedi rhoi’r cyfle i mi weld yr uchelgais a’r arbenigedd a fydd wrth wraidd yr Hwb Sgiliau Uwch.
“Roedd yr hyn a welais i’n enghraifft wych o’r math o ddarpariaeth sgiliau dan arweiniad cyflogwyr, sy’n cael ei gyrru’n rhanbarthol, rydyn ni eisiau adeiladu arni ledled Cymru.
“Roedd hi’n wych hefyd cael trafodaeth gyda myfyrwyr a staff am ddyfodol addysg drydyddol, ac mae’r sgyrsiau a’r cyfraniadau wedi atgyfnerthu pa mor hanfodol ydy hi ein bod ni’n clywed gan gynifer o leisiau â phosibl drwy ein galwad am gyflwyniadau.”
Roedd y cyfarfod gyda staff allweddol yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n digwydd mewn perthynas ag ynni, yr amgylchedd, Gorsaf Bŵer Niwclear Wylfa, a’r Hwb Sgiliau Uwch, gan dynnu sylw at sut mae’r rhaglenni cydgysylltiedig hyn yn cefnogi twf cynaliadwy ac anghenion sgiliau yn y dyfodol ledled y Gogledd Ddwyrain.
Roedd trafodaeth o amgylch y bwrdd i ddilyn, gan ganolbwyntio ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru.
Gwnaeth dysgwyr o lefel mynediad i brentisiaethau lefel gradd rannu eu dyheadau a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu, wrth drafod sut mae ymgysylltu a chysylltiadau cadarn Cambria â chyflogwyr yn fantais yn barod i fyfyrwyr drwy lwybrau dilyniant clir a chyfleoedd yn y byd go iawn.
Mae buddsoddiad newydd gwirioneddol mewn sgiliau, addysg a thwf rhanbarthol, mae’r Hwb Sgiliau Uwch wedi’i arwain gan Goleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam, yn cael ei gefnogi gan gyllid sylweddol gan Medr.
Dywedodd Nick: “Roedd hi’n wych croesawu’r Gweinidog a sicrhau bod lleisiau’r dysgwyr yn flaenllaw a chanolog. Gwnaeth y drafodaeth dynnu sylw at yr heriau mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu a’u huchelgais, o’r rhai sydd newydd ddechrau i’r rhai sy’n symud ymlaen i brentisiaethau gradd.
“Gwnaethon ni archwilio sut bydd yr Hwb Sgiliau Uwch yn gweithredu fel math newydd o ddarparwr ar gyfer busnesau ar hyd a lled Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam a’r Gogledd-Orllewin.
“Drwy gynnig llwybrau hyblyg o Lefel 2 hyd at Lefel 7 – gan gynnwys prentisiaethau, micro-gymwysterau a datblygu’r gweithlu – gallwn ni ymateb yn gyflym i fylchau sgiliau, cryfhau partneriaethau â chyflogwyr a chreu cyfleoedd dilyniant ystyrlon.”
Gan ddiolch i’r Gweinidog a’r dysgwyr, dywedodd Karl: “Atgyfnerthodd eu dyheadau, ochr yn ochr â thrafodaethau gonest am rwystrau i addysg, pa mor hanfodol ydy hi ein bod ni’n parhau i ddarparu cyfleoedd.
“Gwnaethon ni hefyd rannu sut mae ein gwaith agos gyda chyflogwyr yn trawsnewid canlyniadau i fyfyrwyr yn barod. Mae’r Hwb Sgiliau Uwch yn cynrychioli cam mentrus ymlaen, gan sicrhau bod dysgwyr yn ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr rŵan ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam Paul Davies: “Roedd hi’n ffantastig trafod y cyfleoedd o amgylch creu Hwb Sgiliau Uwch mewn partneriaeth â Choleg Cambria.
“Wrth gydweithio gyda chyflogwyr lleol, byddwn ni’n creu llwybrau clir sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yng ngweithlu yfory.
Gan ganolbwyntio ar feysydd gan gynnwys technolegau digidol, sgiliau gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch, seiberddiogelwch ac arwain iechyd, mae’r Hwb Sgiliau Uwch ar fin lansio’n swyddogol ym mis Medi 2026.