Background Splash

Cyhoeddi - 12/03/2026

STUDENTS are being encouraged to “pause” and prioritise their mental health thanks to a new initiative launched by the wellbeing team.

Gyda chymorth ariannol gan Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru, mae’r coleg wedi creu hyd at 1,000 o barseli hunanofal sy’n cael eu hadnabod fel “Pecynnau Mendio’r Meddwl”. Eu nod yw cysuro, tynnu sylw, a chefnogi unrhyw un sy’n orbryderus, yn teimlo’n isel neu’n ystyried hunan-niweidio.

Mae’r pecynnau, y mae dysgwyr yn gallu eu personoleiddio, yn cynnwys eitemau fel teganau ffidlan, bomiau bath, llyfrau a deunydd ysgrifennu, sticeri a hufen i’r dwylo, sy’n annog unigolion i gymryd seibiant, i arafu ac i ganolbwyntio ar hunanofal.

Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i ychwanegu eitemau personol o gartref i’w helpu i deimlo’n dawelach eu meddwl.

Mae’r fenter yn rhan o Ddiwrnod Llesiant sy’n digwydd ddydd Mawrth 17 Mawrth ar safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi. Bydd dysgwyr yn gallu galw heibio, addurno eu Pecynnau Mendio’r Meddwl eu hunain, a siarad â staff am yr ystod eang o wasanaethau llesiant sydd ar gael.

Dywedodd Levi Jamieson, Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant yng Ngholeg Cambria, bod y pecynnau wedi eu dylunio fel arf ataliol syml ond pwerus.

“Weithiau pan mae rhywun yn dioddef neu’n teimlo eu bod eisiau hunan-niweidio, gall cael rhywbeth i ganolbwyntio arno ddarparu’r seibiant hanfodol hwnnw,” meddai.

“Cyfle i greu eiliad dawel ydy’r pecynnau hyn, rhywbeth sy’n tynnu sylw pobl ac yn eu helpu i anadlu, adfyfyrio ac edrych ar ôl eu hunain. P’un ai eu bod yn cael diwrnod anodd neu’n profi rhywbeth mwy difrifol, mae’n gyfle i’w hatgoffa fod cefnogaeth ar gael.”

Dywedodd Bethan Williams, sydd hefyd yn Gydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant, fod y Diwrnod Llesiant anffurfiol ac ymlaciol yn galluogi dysgwyr i archwilio cymorth mewn amgylchedd croesawgar.

“Mae’n gyfle i fyfyrwyr alw heibio, cael sgwrs, a gweld pa gymorth sydd ar gael,” meddai Bethan.

“Gallan nhw ddod ar eu pennau eu hunain neu gyda ffrindiau, addurno eu Pecyn Mendio’r Meddwl eu hunain a siarad gyda ni am unrhyw beth a allai effeithio ar eu llesiant – yn enwedig gyda’r arholiadau ar y gorwel, sy’n gallu bod yn adeg llawn straen.”

Bu Lizzie Stevens, Cyfarwyddwr Cynhwysiant a Chynnydd Coleg Cambria, yn canmol tîm llesiant y coleg am eu hymagwedd ragweithiol ac ataliol.

“Mae ein tîm Iechyd Meddwl a Llesiant yn gweithio’n ddi-flino trwy gydol y flwyddyn yn sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi,” meddai Lizzie.

“Mae mentrau fel y Pecynnau Mendio’r Meddwl yn tynnu sylw at bwysigrwydd hunan-ofal ac ymyrraeth gynnar. Mae creu cyfleoedd i bobl gael seibiant, adfyfyrio a cheisio cymorth pan mae ei angen yn hanfodol i feithrin cymuned coleg iach a chefnogol.”

Ochr yn ochr â’r Diwrnod Llesiant, mae’r tîm yn cyflwyno gweithdai, ymgyrchoedd a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, gan drin pynciau fel straen arholiadau, perthnasau, ymwybyddiaeth o’r menopos, ac iechyd cwsg. Mae’r coleg hefyd yn gweithio’n agos â sefydliadau Mind, Youth Cymru, y Samariaid, a Papyrus Prevention of Young Suicide.

O gwnsela un i un ac anogaeth llesiant i fentrau ymarfer corff gan Cambria Heini, mae’r rhaglen yn ategu gwasanaethau cymorth y coleg sydd ar gael trwy’r flwyddyn ac mae’n parhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, hapusrwydd a chadw dysgwyr.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost