Yn fwyaf diweddar, gwnaeth dros 100 o fyfyrwyr gymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau panel ysbrydoledig i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Trefnwyd y rhain gan Judith Alexander, Cydlynydd Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth, a Lesley Phoenix, Arweinydd Heini Cadarnhaol o dîm Profiadau Dysgwyr y coleg.
Wedi’u cynnal ar safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl Wrecsam, roedd y sesiynau’n ymgorffori thema eleni, ‘Rhoi i Ennill – pan ydych chi’n ffynnu, rydyn ni i gyd yn ffynnu’.
Roedd y digwyddiadau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr glywed yn uniongyrchol gan ferched llwyddiannus ac ysbrydoledig wnaeth rhannu teithiau eu gyrfaoedd, eu heriau a’u cyflawniadau yn ystod sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol.
Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o Raglen Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru, Actif Gogledd Cymru a Choleg Cambria. Yng Nglannau Dyfrdwy, clywodd y myfyrwyr gan Beatriz Albo, Ally Elouise a Laura Teare-Jones, tra’r oedd sesiwn Iâl wedi croesawu Liz Williams, Manon Rees O’Brien o Actif Gogledd Cymru a Naomi Griffiths o Goleg Cambria.
Fe wnaethon nhw drafod themâu fel entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth, llesiant a phwysigrwydd gweithredu ar syniadau.
“Wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydyn ni’n falch o amlygu pŵer enfawr entrepreneuriaeth merched fel rhan o’n trafodaethau panel,” meddai Judith.
“Mae stori Liz Williams yn enghraifft wych o droi empathi yn weithred. Roedd yn foment trawsnewidiol i’n myfyrwyr gael clywed sut wnaeth ei epiffani arwain at ddyfeisio dyfais diogelwch personol arbenigol. Trwy glywed yn uniongyrchol gan ddyfeisiwr sy’n Gymraes leol, mae ein myfyrwyr yn gwybod bod gan eu syniadau y potensial i wneud gwahaniaeth yn y byd go iawn.”
Dywedodd Lesley hefyd: “Rhannodd ein siaradwyr gwadd eu profiadau proffesiynol unigryw a’u dirnadaeth werthfawr yn ystod ein sesiynau holi ac ateb. Roedd hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr i ddysgu, rhannu gwybodaeth a meithrin amgylchedd cydweithredol lle rydyn ni i gyd yn gallu ffynnu gyda’n gilydd. Yn bersonol, roedd y sesiynau yn gwneud i mi deimlo fel dynes bwerus, ac roedd hi’n anrhydedd eistedd ochr yn ochr â menywod mor anhygoel.”
Dilynodd digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched ddathliad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd llwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach y tymor hwn fel rhan o raglen Culture Collective y coleg.
Y Prif Gaplan Tim Feak a Judith fu’n trefnu’r digwyddiad, ar y cyd gydag Anogwr Cynnydd Nathan Lok Him Tam, ei deulu ac aelodau’r Gymdeithas Tsieineaidd Gogledd Cymru. Daeth y dathliad â myfyrwyr, staff a grwpiau cymunedol lleol ynghyd i groesawu Blwyddyn y Ceffyl.
Roedd y coleg yn llawn cerddoriaeth, dawnsio a phrofiadau diwylliannol gan gynnwys caligraffeg, origami ac arddangosiad rhyngweithiol gwneud twmplenni. Rhoddwyd amlenni coch traddodiadol i’r dysgwyr hefyd sy’n cynnwys ceiniogau siocled, yn symboleiddio lwc, iechyd a llewyrch.
Dywedodd Tim fod y digwyddiad wedi tynnu sylw at yr ymdeimlad o gymuned ar draws y coleg.
“I fi roedd hyn yn enghraifft bwerus o’r dysgu, yr hwyl a’r teimlad o gymuned sy’n gallu cael ei gyflawni pan mae pobl yn dod at ei gilydd,” meddai.
“Roedd y teimlad o agosrwydd a llawenydd yn creu lle bendigedig i brofi ein dyngarwch ar y cyd a gwerthoedd dathlu, gobaith a charedigrwydd.”
Mae rhagor o ddigwyddiadau Culture Collective wedi eu cynllunio trwy gydol y flwyddyn, gan barhau â gwaith y tîm i ddod â phobl ynghyd trwy rannu profiadau, dysgu a dathlu ledled cymuned Coleg Cambria.