Paned, Cacen a Gyrfa Newydd
Darganfod eich gyrfa nesaf yng Ngholeg Cambria.
Ymunwch â ni ar gyfer Gyrfa Gymraeg @ Cambria, digwyddiad rhwydweithio a recriwtio anffurfiol ‘Paned a Chacen’ i siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb gweithio gyda ni.
P’un a ydych chi eisoes mewn addysg, yn gweithio yn y diwydiant neu’n edrych ar gyfleoedd newydd yn unig yna mae’r noson anffurfiol hon yn ffordd berffaith o gwrdd â’n tîm, i ofyn cwestiynau ac i ddarganfod gyrfaoedd yn Cambria.
Cadw eich Lle
Mae llefydd yn brin felly rydym yn eich annog i gofrestru o flaen llaw ar gyfer y digwyddiad.
Galwch heibio am baned a chwrdd â’r tîm i ddarganfod i le gall eich sgiliau Cymraeg eich arwain.
Dydd Mercher, 29 Ebrill 2026
⏰ 4:30pm – 6:30pm Coleg Cambria Iâl, Wrecsam.
Drysau’n agor am 4:30pm. Galwch heibio unrhyw adeg.
Bydd cyflwyniadau byr am yrfaoedd yn Cambria yn digwydd am: 5pm & 6pm
Mae’r ddwy sesiwn yn trafod yr un wybodaeth felly ymunwch â pha un bynnag sy’n eich siwtio chi.
Yr Hyn Sydd Angen i Chi Ei Wybod
☕ Te, coffi a chacennau cri wrth gyrraedd. Rhwydweithio anffurfiol gyda staff sy’n siarad Cymraeg. Sgyrsiau cyfeillgar – dim cyfweliadau
Cyfle i edrych ar gyfleoedd ar draws ein pedwar maes:
- Darlithio / Lecturing – Cyfleoedd addysgu
- Cymorth Busnes / Business Support – Rolau proffesiynol
- Diwydiant / Industry – Trosglwyddo o ddiwydiant i addysgu
Dysgu Cymraeg / Learn Welsh – Cymorth gydag iaith a hyfforddiant
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant (adeiladu, peirianneg, gofal iechyd, digidol a mwy) yna gallwch chi symud i addysgu yng Ngholeg Cambria.
Mae’n bosib y gallwn eich helpu ac yn aml gallwn ariannu eich TAR tra byddwch chi’n gweithio fel eich bod yn gallu troi eich arbenigedd yn y diwydiant yn yrfa addysgu ysbrydoledig.
Rydym yn helpu staff yn barhaus i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith gan gynnwys:
- Cynlluniau datblygu’r Gymraeg wedi’u teilwra
- Hyfforddiant ar ddarparu’n ddwyieithog
- Buddiannau ariannol ar gyfer sgiliau Cymraeg
Mae eich sgiliau iaith yn cael ei gwerthfawrogi yma.
Gallech dderbyn bonws Croeso i Cambria gwerth £400.
Os byddwch yn cael eich cyfeirio gan gydweithiwr presennol ac os byddwch yn ymuno â’r coleg yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn £400 (neu daleb rhodd gorfforaethol) ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf.
Dyma ein ffordd ni o gydnabod gwerth unigolion talentog sy’n siarad Cymraeg.
✔ Lwfans gwyliau hael
✔ Cynllun pensiwn rhagorol
✔ Cymorth lles cynhwysfawr
✔ Cyfleoedd datblygiad proffesiynol
✔ Gweithle cefnogol a chynhwysol