Background Splash

Cyhoeddi - 08/04/2026

A REVOLUTIONARY immersive classroom is transforming the way students experience education - not only by bringing subjects to life, but by placing health, wellbeing and accessibility at the heart of learning.

Mae Coleg Cambria wedi datgelu’r cyfleuster 360 gradd o’r radd flaenaf ar ei safle yng Nglannau Dyfrdwy, gan nodi carreg filltir wirioneddol yn ei ymrwymiad i arloesedd digidol, cynhwysiant a chymorth myfyrwyr.

Mae hygyrchedd wrth wraidd yr ystafell drochol yma, ac mae’n profi’n effeithiol iawn i ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), staff a myfyrwyr niwroamrywiol.

Mae’r cyfleuster yn cynnig amgylcheddau synhwyrol addasadwy a’r gallu i greu senarios ymlaciol a heddychlon – o gefn gwlad distaw i daith i lan y môr – gan gefnogi rheoleiddio emosiynol, canolbwyntio’n well a llesiant cyffredinol ochr yn ochr â datblygiad academaidd.

Dywedodd Lizzie Stevens, Cyfarwyddwr Cynhwysiant a Chynnydd: “Fel rhan o’n gweledigaeth pum mlynedd strategol, rydyn ni’n gyrru arloesedd digidol ar draws y coleg.

“Mae’r cyfleuster yma yn bwynt gwerthu unigol anferth i ni ac mae wir yn ein gosod ni ar flaen y gweddill mewn addysg bellach. Mae’n rhoi cyfle i’r dysgwyr gamu i amgylcheddau realistig, datblygu sgiliau ymarferol yn ddiogel, a hyd yn oed gymryd perchnogaeth drwy ein helpu i lunio a chreu senarios ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r cyfleuster wedi’i ariannu drwy Gyllid cyfalaf ADY ac mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni angen defnyddio technolegau newydd ac sy’n dod i’r amlwg i gael gwared ar rwystrau mae ein dysgwyr yn eu hwynebu.

“Mae’r cyfleuster cynhwysol yn darparu profiad synhwyraidd a allai gyflwyno profiadau dysgwyr arwyddocaol a phwrpasol.”

Y tu hwnt i’w fanteision llesiant, mae’r ardal sy’n torri tir newydd yn galluogi dysgwyr a darlithwyr i greu senarios realistig drwy bwyso botwm, o wardiau ysbyty i safleoedd trosedd i arenâu E-chwaraeon byw a llwyfannau gemau rhyngweithiol.

Yn wahanol i ystafelloedd drochol eraill, mae’r ystafell ddosbarth yn cynnwys pedair wal gyda thaflunydd yn ogystal â llawr rhyngweithiol, gan greu profiad 360 gradd sy’n amgylchynu dysgwyr yn gyfan gwbl.

Mae’r dechnoleg yn gallu cyrchu miloedd o amgylcheddau sy’n bodoli’n barod neu alluogi staff a myfyrwyr i greu eu hamgylchedd eu hunain, gan deilwra senarios i bynciau a sgiliau penodol.

Dywedodd Sean Regan, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy, fod angen i’r cyfleuster adlewyrchu symudiad i ffwrdd o addysgu ‘un maint i bawb’.

“Nod yr ystafell ddosbarth drochol yma ydy dod â dysgu yn fyw,” meddai.

“Dydy pob myfyriwr ddim yn ffynnu drwy eistedd wrth ddesg yn gwrando ar ddarlithydd, a dim dyna ydy ein nod ni. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu profiadau rhyngweithiol, diddorol a hygyrch sy’n gweithio i’r holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai niwroamrywiol.”

Mae’r ystafell drochol yn cael ei defnyddio’n aml iawn gan dîm llesiant y coleg, sydd wedi magu dull arloesol i’w defnyddio. Maen nhw’n cyflwyno sesiynau ymlacio rhyngweithiol, gweithgareddau llesiant a phrofiadau synhwyraidd dan arweiniad sy’n helpu dysgwyr i adeiladu gwytnwch, rheoli gorbryder a theimlo’n fwy hyderus yn eu hastudiaethau.

Mae adrannau gan gynnwys Y Cyfryngau Creadigol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, TG, Technoleg Ddigidol, Chwaraeon, Gofal Plant ac E-chwaraeon hefyd yn defnyddio’r cyfleuster. Mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau bod y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio’n rhagor ac i ddatblygu rhaglenni pwrpasol sy’n cynyddu ei botensial ar draws y coleg.

Dywedodd Andy Mackie, Rheolwr Seilwaith, fod y system yn mynd ymhell y tu hwnt i dafluniad gweledol.

“Rydyn ni’n gallu cynnwys sain a hyd yn oed arogleuon i ddyfnhau realaeth pob senario,” meddai.

“Mae gennym ni filoedd o olygfeydd wrth law, ac rydyn ni’n medru creu rhai ein hunain hefyd, wedi’u teilwra i wahanol bynciau a chanlyniadau dysgu.

“Rydyn ni’n medru rheoli hyn gyda thabled. Boed yn ward ysbyty efelychiedig ar gyfer myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lleoliad trosedd ar gyfer dysgwyr fforensig, neu amgylchedd trochol ar gyfer dylunio gemau, gallwn ni adeiladu byd cyfan o amgylch ein myfyrwyr ac addysgu ystod eang o sgiliau mewn ffordd ddiogel a rheoledig.”

Mae myfyrwyr E-chwaraeon wedi bod ymhlith y rhai cyntaf i fanteisio ar y dechnoleg newydd, gan ei defnyddio ar gyfer gweithdai dylunio gemau, archwilio materion moesegol mewn gemau cystadleuol, a pharatoi ar gyfer cystadlaethau mawr drwy ail-greu awyrgylch arena byw.

Dywedodd y darlithydd e-chwaraeon Lauren Crofts fod yr effaith wedi bod yn amlwg yn syth: “Mae hi wedi bod yn wych i’n dysgwyr. Rydyn ni wedi gallu ail-greu’r teimlad o fod mewn arena fyw, sy’n baratoad amhrisiadwy ar gyfer ein cystadlaethau blynyddol. Rydyn ni’n gallu efelychu amgylcheddau sylwebu a chreu sesiynau rhyngweithiol iawn o amgylch dylunio a moeseg gemau.

“Mae’r elfen drochol yn gwneud dysgu’n fwy cydweithredol, yn fwy ymarferol ac yn llawer mwy diddorol.”

Dywedodd Christopher Moran, dysgwr Lefel 3 mewn E-chwaraeon, o Bentre Helygain, fod y profiad wedi newid y ffordd y mae’n mynd ati i astudio.

“Mae mor wahanol, mae’n eich galluogi chi i gydweithio’n rhagor yn hytrach na dysgu ar eich pen eich hun,” meddai.

“Mae’n ffordd wych o ddysgu ac yn andros o ddiddorol – dwi heb weld dim byd tebyg o’r blaen.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost