Gwnaeth Coleg Cambria groesawu cynrychiolwyr o Bwyllgor Oireachtas (Senedd Wyddelig) i Wrecsam fel rhan o brosiect sy’n canolbwyntio ar rannu tystiolaeth, profiad a syniadau ynghylch addysg ddwyieithog mewn dysgu, gwasanaethau a’r gweithle.
Aeth y grŵp ar daith o amgylch cyfleusterau yn Iâl – gan gynnwys canolfan iaith newydd sbon CAMU – a gwnaethon nhw gwrdd ag uwch arweinwyr i ddysgu sut mae darpariaeth ddwyieithog wedi’i hymgorffori ar draws y coleg. Amlinellodd uwch staff gyrhaeddiad rhanbarthol Cambria ar draws Wrecsam, Llysfasi, Llaneurgain a Glannau Dyfrdwy, gan wasanaethu mwy na 20,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria, Yana Williams: “Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu cydweithwyr o Iwerddon a chael dangos ein gwaith ar draws y coleg. Mae ymweliadau fel hyn yn ein galluogi ni i ddysgu o’n gilydd, adfyfyrio ar arferion, ac adeiladu perthnasoedd sy’n gallu arwain at gydweithrediad yn y dyfodol.
“Mae addysg bellach yn chwarae rhan bwerus mewn cynnal iaith, diwylliant a chyfle, ac roedd hi’n ysbrydoledig cael rhannu ein taith.”
Roedd trafodaethau’n archwilio tueddiadau ieithyddol rhanbarthol a phwysigrwydd ymyriadau addysgol wedi’u targedu i gynyddu hyder a defnydd bob dydd o’r iaith ymysg pobl ifanc.
Yn ganolog i’r ymweliad oedd Cyfadran y Gymraeg Cambria, sy’n unigryw o fewn addysg uwch yng Nghymru.
Mae’r adran yn cyflwyno cyrsiau Gymraeg yn y gymuned i tua 1,500 o bobl, ochr yn ochr â’r ddarpariaeth Cymraeg Gwaith sy’n cefnogi dros 2,000 o ddysgwyr a chyflogwyr drwy hyfforddi yn y gweithle, datblygiad proffesiynol a chymorth iaith wedi’i deilwra.
Clywodd y cynrychiolwyr hefyd sut mae Strategaeth Iaith Gymraeg 2025–2030 Cambria yn canolbwyntio ar hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth, cynyddu cyfleoedd dwyieithog, cefnogi cyflogwyr i greu gweithleoedd dwyieithog, a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni nodau cyffredin.
Amlinellodd y coleg ei raglen datblygu’r gweithlu, sy’n cynnwys hyfforddiant wythnosol, amser wedi’i neilltuo, cefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth a chymhellion ariannol ar gyfer addysgu dwyieithog. Mae mwy na 60 o ymarferwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ar hyn o bryd, gyda nifer gynyddol o ddysgwyr yn dewis cwblhau gwaith yn ddwyieithog.
Dywedodd Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria: “Mae tebygrwydd cadarn rhwng Cymru ac Iwerddon o ran meithrin ein hieithoedd brodorol. Roedd yr ymweliad yma yn gyfle gwych i ddangos sut rydyn ni’n cefnogi’r Gymraeg drwy addysgu, asesu, gweithgareddau cymdeithasol ac ymgysylltu â chyflogwyr.
“Drwy fuddsoddi mewn datblygu staff a chreu cyfleoedd ymarferol i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith, rydyn ni’n gweld effaith wirioneddol.”
Ychwanegodd Denise McQuade, Prif Gonswl Iwerddon, Caerdydd: “Mae cydweithredu i gynyddu’r defnydd o’r Wyddeleg a’r Gymraeg yn flaenoriaeth o dan Ddatganiad Cyffredin Iwerddon-Cymru 2030.
“Rhoddodd ymweliad Pwyllgor yr Oireachtas ar yr Iaith Wyddeleg, y Gaeltacht, a’r gymuned Wyddeleg ei hiaith gyfle gwerthfawr i ddysgu o brofiad ymarferol Coleg Cambria o hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith ei fyfyrwyr a’i staff.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.