Daeth 36 o raddedigion sydd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol yn llwyddiannus ynghyd ar gyfer dathliad blynyddol yng nghanolfan gynadledda Glanrafon yn Cambria Iâl, Wrecsam.
Yn ymuno â nhw oedd darlithwyr, ffrindiau a theulu am brynhawn o gydnabyddiaeth haeddiannol.
Ymysg y cymwysterau a ddathlwyd ar y diwrnod oedd Diploma Proffesiynol Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg a Diploma Cysylltiol a Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl, dyfarniadau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Lefel 4 a Lefel 5 ILM, HNC a HND mewn Rheoli Adeiladu, a HND mewn Rheoli Anifeiliaid – gyda’r cyfan yn adlewyrchu’r llwybrau addysg uwch amrywiol sydd ar gael trwy’r ganolfan.
Meddai Dr Steven Peacock, Is-bennaeth Astudiaethau Academaidd: “Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr ar eu cyraeddiadau gwych. Mae’r dathliad hwn nid yn unig yn cydnabod ein cyrhaeddiad academaidd ond hefyd yn tynnu sylw at yr ymroddiad, gwydnwch a’r uchelgais sy’n bodoli ymysg yr holl fyfyrwyr trwy gydol eu siwrnai â ni.
“Mae’r cymwysterau hyn yn ein helpu ni i feithrin arweinwyr, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr y dyfodol ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt ac rydyn ni’n falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.”
Cafodd y digwyddiad ei gefnogi gan bartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a Pearson, gyda phob un ohonyn nhw’n cael eu hadnabod am eu cydweithrediad wrth ddarparu cymwysterau proffesiynol o safon uchel.
Yn dilyn cyflwyno’r dyfarniadau’n ffurfiol roedd cyfle i’r gwesteion fwynhau lluniaeth, i dynnu lluniau a dathlu gyda’i teuluoedd a’i ffrindiau gyda’r bwth lluniau poblogaidd yn uchafbwynt y prynhawn.
Roedd y seremoni yn destun o ymrwymiad ehangach Prifysgol Cambria i ymestyn mynediad at addysg uwch ledled y rhanbarth.
Mae’r ganolfan yn parhau i ddatblygu ei ddarpariaeth trwy ddysgu modiwlaidd a chyfunol gyda ffocws ar feysydd twf yn cynnwys sgiliau digidol, arweinyddiaeth, cynaliadwyedd, adeiladwaith a gwasanaethau proffesiynol, yn nodedig y fenter Ddigidol 2030 sydd gyda’r nod o gyfarparu dysgwyr gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw mewn gweithle sy’n cael ei ddylanwadu gan dechnoleg ac AI.