Gwnaeth Rya Smith, dysgwr sydd ar ei hail flwyddyn o gwrs TGAU Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Cambria a disgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, argraff fawr wrth ennill rownd gyntaf y gystadleuaeth yn Wrecsam.
Wedi’i gynnal ym Mwyty Iâl Cambria, roedd y digwyddiad yn herio cystadleuwyr i greu un pryd (dwy gyfran) gan gadw at gyllideb gaeth, gan brofi eu gallu technegol, eu creadigrwydd a’u gallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau.
Roedd Rya’n amlwg o flaen y gweddill yn y gystadleuaeth, gan sicrhau ei lle yn y rowndiau terfynol rhanbarthol a gafodd eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Aeth hi ymlaen i ennill yno hefyd, gan symud ymlaen at rowndiau terfynol y DU yn Capital City College i gystadlu yn erbyn 12 o’r chefs mwyaf talentog yn y wlad.
Gan adfyfyrio ar ei thaith, dywedodd Rya: “Dwi wedi bod yn angerddol am goginio ers erioed, ond mae hon wedi bod yn daith mor rhyfeddol. Roedd hi’n anhygoel ac yn syndod mawr ennill yn Wrecsam, ac yna dros Gymru, a chael cynrychioli fy ngwlad. Dwi wedi gweithio’n galed iawn, a dwi mor falch o’r canlyniadau.
“Dwi’n cynllunio parhau gyda fy astudiaethau yng Ngholeg Cambria a pharhau i goginio. Dwi eisiau cadw fy opsiynau ar agor ar gyfer y dyfodol, ond yn bendant mi fyddai’n parhau i fireinio fy sgiliau coginio. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel.”
Yn y rownd derfynol genedlaethol, rhoddodd Rya berfformiad eithriadol. Yn ôl y beirniaid ei phrif gwrs oedd yr orau o’r dydd – cyflawniad nodedig ynddo’i hun.
Wedi’i mentora gan Nathan Booth a darlithydd yng Ngholeg Cambria Angel Ralchev, creodd Rya bryd nodedig wedi’i seilio ar lysieuyn.
Roedd ei phryd ‘gweadau o foron’ yn arddangos elfennau wedi’u pobi mewn halen, wedi’u piclo a chrisp ochr yn ochr â purée a thopiau moron gyda gremolata persli, gan ddangos arloesedd a chywirdeb technegol.
Fel rhan o’i llwyddiant, mae hi wedi ennill cyfle i weithio gyda’r chef Bryn Williams yn ei fwyty Porth Eirias ym Mae Colwyn, yn ogystal â lleoliad yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Dywedodd Ceri, mam Rya: “Dwi’n andros o falch o Rya. Mae hi wedi rhoi gymaint o ymdrech i mewn i’r gystadleuaeth yma, ac roedd hi’n wych cael mynd i Lundain a’i gweld hi’n gwneud mor dda. Mae’n glir bod ganddi dalent gwirioneddol am goginio, a dwi’n gyffrous iawn i weld i ble bydd yn ei harwain hi.
“Diolch anferthol i Goleg Cambria, yn enwedig Angel, sydd wedi bod yn gefnogaeth anhygoel, ac i Nathan, sydd wedi bod yn hynod ysbrydoledig. Rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn arbrofi gyda chrwst choux a seigiau moron – ac mae’n glir bod hynny wedi talu ar ei ganfed!”
Ychwanegodd darlithydd Angel Ralchev: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Rya. Mae hi’n ymroddgar, creadigol a bob amser yn barod i ddysgu. Mae ei gallu hi i beidio â chynhyrfu o dan bwysau ac i gyflawni ei syniadau i safon uchel iawn yn gwneud iddi sefyll o flaen y gweddill.
“Roedd hi wir yn haeddu ei llwyddiant yn y gystadleuaeth yma, a dwi’n hollol sicr bod ganddi hi ddyfodol disglair iawn o’i blaen hi ym mha bynnag lwybr y mae hi’n ei ddewis.”
Mae rhaglen Springboard FutureChef wedi ymgysylltu â mwy na 250,000 o bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed, gan ysbrydoli gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes lletygarwch a datblygu sgiliau bywyd hanfodol.