Wedi’i ddadorchuddio ar safle Ffordd y Bers yn Wrecsam, mae’r “Cerflun Effaith” trawiadol yn dangos car wedi’i fewnosod mewn wal frics – atgof beiddgar a pharhaol o’r canlyniadau dinistriol a all ddilyn penderfyniad mewn eiliad wrth y llyw.
Nod y cerflun sydd wedi cael ei greu gan ddarlithwyr a myfyrwyr mewn dim ond wythnos yw gwneud i bobl stopio’n stond.
Mae’n cynrychioli menter Gyrru’n Gall sy’n cael ei arwain gan Cambria a’i gefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i leihau damweiniau cerbydau difrifol sy’n cynnwys gyrwyr ifanc a hyrwyddo gyrru’n fwy diogel.
Yn helpu i lansio’r ymgyrch oedd Crystal Owen gyda’i haraith emosiynol i fyfyrwyr yn dangos yr effaith go iawn y tu ôl i’r neges.
Mae Crystal wedi bod yn apelio i gyflwyno Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr (GDL) ers marwolaeth drasig ei mab 17 oed, Harvey Owen, a’i dri ffrind gorau mewn damwain car yng Ngogledd Cymru yn 2023.
Gan siarad yn uniongyrchol â dysgwyr fe rannodd dorcalon ei theulu gan annog pobl ifanc i ddeall mai nad rheolau a chyfyngiadau yw diogelwch ffyrdd ond yn hytrach amddiffyn bywydau.
Meddai: “Dydyn ni ddim yn ceisio eich dychryn chi rhag gyrru ond yn eich annog i fod yn ofalus. Dydw i erioed wedi deall galar fel hyn. Mae pobl yn chwilio am eiriau – torcalon, galar – does dim gair yn dod yn agos i hyn. Mae fel pe bai eich bywyd wedi chwalu.
“Ni ddylai plant fynd o flaen eu rhieni. Yr hyn sy’n ei gwneud yn annioddefol yw gwybod nad oedd rhaid i hyn ddigwydd.”
Ychwanegodd Crystal: “Mae’r ystadegau ynghylch gyrwyr ifanc sydd newydd basio eu prawf mor uchel, a dyna pam rydyn ni’n galw am drwyddedu graddedig ar gyfer gyrwyr.
“Collodd Harvey dri o’i ffrindiau gorau ers amser maith y diwrnod hwnnw hefyd. I gyd wedi mynd ar unwaith. Bydd yn 17 oed am byth. Nid ydym yn sôn am gyfreithiau a chyfyngiadau yn unig, ond am fywydau.”
Daeth y digwyddiad peilot â dysgwyr, staff, gwasanaethau brys a phartneriaid diogelwch ffyrdd ynghyd ar gyfer arddangosiadau, sgyrsiau a gweithdai a gynlluniwyd i roi gwybodaeth hanfodol, a allai achub bywydau, i bobl ifanc.
Wrth wraidd y diwrnod roedd y “Cerflun Effaith” gyda’r trefnwyr yn egluro nad yw’r cerflun yn ymwneud â lleoliad damwain yn unig, ond am bopeth sy’n digwydd wedyn – y trawma, y galar a’r canlyniadau sy’n newid bywydau teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.
Dywedodd Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers: “Mae safle’r Bers yn nodedig am fod yn effeithlon ac adeiladwyd y cerflun mewn dim ond wythnos. Mae’n gwneud i chi feddwl ac mae’n bwysig i ni ddal sylw cymaint o feddyliau ifanc â phosibl.
“Byddwn yn cynnal digwyddiadau fel hyn ddwywaith y flwyddyn gyda hyn fel canolbwynt ac yn diolch i’n partneriaid. Cafodd hwn ei lunio fel atgof gweledol, nid am gar yn mynd i mewn i wal, ond effaith popeth sy’n digwydd ar ôl y gwrthdrawiad hwnnw.
“Ni ellir mesur yr effaith honno. Sioc, ofn, euogrwydd, hyd yn oed dicter. Rydyn ni’n gofalu am ein pobl ifanc, a dychmygwch y teulu yn derbyn yr alwad ffôn, neu deulu eich hun.
“Gall digwyddiad annisgwyl effeithio ar gynifer o fywydau ac rydyn ni eisiau eich atgoffa chi o hynny.”
Hefyd siaradodd yr arbenigwr datblygu gyrru Kate Pearson, ochr yn ochr â’r hyfforddwr profiadol Stuart Walker gyda’r dysgwyr am bwysigrwydd addysg barhaus ar ôl pasio prawf gyrru.
Meddai Kate: “Mae eich blwyddyn gyntaf ar ôl pasio eich prawf yn hanfodol a dyna pryd y byddwch chi fwyaf tebygol o gael damwain car. Gall un penderfyniad achosi damwain angheuol, felly gwnewch y penderfyniadau cywir.”
Ychwanegodd y Sarsiant John Prichard o Uned Droseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Dyma fenter wych i godi ymwybyddiaeth a helpu i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd aros yn ddiogel ar y ffyrdd.
“Yn anffodus, mae gyrwyr ifanc yn llawer mwy tebygol o fod yn rhan o wrthdrawiadau traffig ffyrdd, yn aml oherwydd diffyg profiad a diffyg gwybodaeth am y risgiau. Mae’n bwysig bod gyrwyr newydd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac o’r canlyniadau dinistriol a all ddigwydd.”
Drwy gydol y dydd, cymerodd dysgwyr ran hefyd mewn arddangosiadau gan barafeddygon ac ymatebwyr cyntaf, sesiynau hyfforddi cerbydau nwyddau trwm, gweithdai gyrru uwch, stopiau ymarfer yr heddlu a sesiynau Holi ac Ateb.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon ynghylch diogelwch ffyrdd, neu sydd â gwybodaeth am unrhyw un a allai fod yn cyflawni trosedda gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy’r wefan neu drwy ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.