Ymlaen i 2026 ac mae’r prentis 18 oed yn paratoi i gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth WorldSkills Shanghai ym mis Medi eleni.
Bydd Tomas, sy’n gweithio i Electroimpact UK Ltd yng Nglannau Dyfrdwy, yn cystadlu yn y categori Melino CNC ac mae’n un o ddim ond pump cystadleuydd o Gymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth fyd-eang.
Mae ei siwrnai ar y llwyfan rhyngwladol wedi cael ei nodi gan lwyddiant digyfnewid. Yn 2024, cafodd Ganmoliaeth Uchel mewn Melino CNC yn rowndiau terfynol WorldSkills y DU, cyn ennill Medal am Ragoriaeth yng nghystadleuaeth EuroSkills Herning 2025 yn Nenmarc fis Medi diwethaf.
Gyda chefnogaeth Coleg Cambria ac Electroimpact, mae wedi bod yn hyfforddi’n barhaus ar gyfer Shanghai ers hynny.
Meddai Tomas wrth iddo fyfyrio ar ei lwybr i Shanghai: “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’r tair blynedd diwethaf yn edrych fel hyn i mi, dwi mor ddiolchgar i gymaint o bobl am fy helpu; Adam Youens, wnaeth fy nghyflwyno i’r cyfle hwn ac sydd wedi bod yn rheolwr hyfforddi arnai, Electroimpact am fy nghefnogi ers i mi ymuno, Coleg Cambria am ddarparu’r gweithdy i mi allu hyfforddi ynddo ac am ddysgu cymaint i mi, ac Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru am fy nghefnogi fel cystadleuydd o Gymru.
“Yr hyn sy’n fy ysgogi yw ennill – dyna sy’n fy annog ac yn rhoi pwrpas i mi bob dydd. Doeddwn i methu â chredu’r peth pan ges i fy newis, roedd yn deimlad anhygoel. Roeddwn i mor falch – mae wedi bod yn siwrnai mor hir i gyrraedd yma.”
Syrthiodd Tomas “mewn cariad” â pheirianneg ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Darland. Yn gyflym fe ddatblygodd ei frwdfrydedd mewn Melino CNC a dysgu ymarferol.
Ychwanegodd: “Wrth dyfu i fyny ac ar ôl gadael yr ysgol fe ddechreuais ar Lefel 2 yn Cambria a magu diddordeb mewn peirianneg yn naturiol.”
“Syrthiais mewn cariad â Melino CNC – dwi wrth fy modd gyda’r agwedd ymarferol, y cywirdeb a’r datrys problemau. Mae hynny wedi fy helpu i berfformio mewn sefyllfaoedd dan bwysau am fy mod i’n gallu canolbwyntio’n llwyr ar y dasg dan sylw.
“Mewn cystadlaethau, rydych chi’n cael y prosiectau prawf dall hyn gan ddefnyddio deunyddiau fel alwminiwm, dur a phres, fel arfer gyda thua chwe awr i’w cwblhau. Rydym wedi cael cais i greu pethau anhygoel o awyren Concorde i Adeilad Senedd Hwngari a hyd yn oed ceir Fformiwla Un.”
Wrth iddo edrych ymlaen at Shanghai mae Tomas yn gwerthfawrogi’r cyfle ac yn croesawu’r her.
“Mae’n hollol wahanol pan fyddwch chi’n cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, ond rydw i wedi cael blas ar hynny yn EuroSkills – mae’n rhaid i chi anghofio am bopeth arall a chanolbwyntio,” meddai.
“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol – dwi’n gwybod ei fod yn daith hir ar yr awyren i ddechrau – ond dwi wir yn edrych ymlaen at fynd allan yna. Mae fy nheulu a fy ffrindiau mor gefnogol ac wedi bod yn gefn i mi bob cam o’r ffordd, heb anghofio Electroimpact a’r coleg. Mae pawb y tu ôl i mi.”
Ychwanegodd Tomas: “Dwi bron â gwneud dwy flynedd gydag Electroimpact a dwi’n edrych ymlaen at barhau â fy mhrentisiaeth gyda nhw. Mi fyddai’n gorffen fy nghymwyster Lefel 3 BTEC ym mis Medi ac yn gobeithio symud ymlaen at gymwysterau pellach gyda’r coleg.
“Dyma brofiad anhygoel a finnau mor ifanc. Mae’n agor drysau i’r dyfodol ac yn siŵr o fy helpu mewn cynifer o feysydd peirianneg.”
Ar obeithion Tîm y DU yn Tsieina, dywedodd: “Mae gennym ni garfan wych ac rydyn ni’n benderfynol o ddod yn ôl gyda chynifer o fedalau ag y gallwn. Dwi methu aros i fynd allan yna a chystadlu yn erbyn y gorau yn y byd.”
Bydd darlithydd a rheolwr hyfforddi Coleg Cambria, Adam Youens, yn ymuno ag ef yn Shanghai. Mae Adam wedi helpu Tomas drwy gydol ei ddatblygiad.
Meddai Adam: “Mae ei gynnydd o gystadlaethau lleol i’r llwyfan rhyngwladol yn dyst i’w ethos gwaith a’i angerdd dros beirianneg. Mae’n mynd i Shanghai nid yn unig i gystadlu, ond i herio ei hun i gyrraedd y brig, ac rydyn ni i gyd y tu ôl iddo.”
Ychwanegodd Nick Tyson, Is-bennaeth Sefydliad Technoleg Coleg Cambria: “Rydyn ni’n hynod falch o Tomas a phopeth y mae wedi’i gyflawni. Mae cystadlu yn WorldSkills yn gamp eithriadol ac yn adlewyrchu nid yn unig ei dalent, ond cryfder y partneriaethau rhwng y coleg ac arweinwyr y diwydiant fel Electroimpact.
“Mae hefyd yn wych clywed ei fod yn dilyn ôl troed y cyn-brentis Ethan Davies sydd wedi bod yn fuddugol ar lwyfan y byd mewn Melino CNC.”
Mae Melino CNC yn ganolog i weithgynhyrchu modern gan gynhyrchu cydrannau manwl a ddefnyddir ar draws sectorau gan gynnwys awyrofod a modurol. Rhaid i gystadleuwyr ddehongli lluniadau technegol cymhleth a gweithredu peiriannau uwch gyda chywirdeb manwl cywir o dan bwysau.
Ymwelwch WorldSkills Shanghai 2026 – Cwrdd â Thîm y DU – WorldSkills UK am ragor o wybodaeth.
Ewch i’r wefan ganlynol am fwy o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria www.cambria.ac.uk.