Gan adeiladu ar flynyddoedd o gydweithio llwyddiannus, mae’r cytundeb yn gosod gweledigaeth a rennir i ymestyn addysg, hyfforddiant a llwybrau cyflogaeth, gan helpu i fodloni gofyn cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus wrth greu cyfleoedd gyrfa hygyrch a chlir i ddysgwyr.
Dywedodd Vicky Edwards, Is-bennaeth Astudiaethau Technegol yng Ngholeg Cambria: “Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi adeiladu partneriaeth gadarn ac effeithiol gyda BIPBC, ac mae’r cytundeb yma yn ein galluogi ni i ddod a’r holl waith rhagorol hynny at ei gilydd o dan un fframwaith strategol clir.
“Drwy gyfuno ein harbenigedd, gallwn ni greu hyd yn oed rhagor o gyfleoedd i ddysgwyr – gan sicrhau eu bod nhw’n ennill y sgiliau, profiad a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i gamu’n syth i swyddi hanfodol o fewn y gwasanaeth iechyd.
“Y nod ydy siapio gweithlu’r dyfodol i Ogledd Cymru, cefnogi ein cymunedau, a sicrhau bod y genhedlaeth nesa’ o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn barod i fodloni heriau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydyn ni wrth ein bodd i arwyddo’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yma gyda’n partner gwerthfawr Coleg Cambria. Bydd y bartneriaeth yma yn cefnogi datblygiad ein staff a’n myfyrwyr, gan alluogi cyfnewid gwybodaeth, sgiliau, ac arbenigedd sy’n hanfodol i fodloni anghenion esblygol ein cymunedau.
“Yn bwysig, mae’r cytundeb yma yn cadarnhau ein huchelgais ar y cyd i gyflwyno gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y claf, wrth adeiladu gweithlu medrus a meithrin diwylliant o ddysgu a gwella parhaus. Fel sefydliad angori yng Ngogledd Cymru rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y cydweithrediad yma dros y blynyddoedd sydd i ddod a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar gleifion, staff a’r gymuned ehangach.”
Wrth galon y bartneriaeth mae model profedig o lwyddiant. Mae’r rhaglen Cadetiaid Nyrsio, a gafodd ei lansio bum mlynedd yn ôl, wedi dod yn fenter flaenllaw sy’n cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiad ymarferol mewn lleoliadau clinigol fel Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae’r rhaglen wedi esblygu blwyddyn ar ôl blwyddyn gyda mewnbwn gan sefydliadau, gan gynhyrchu dysgwyr hyderus, sy’n barod am swyddi ac sy’n ychwanegu gwerth at dimau gofal iechyd yn barod.
Mae’r dull hwn bellach yn cael ei ymestyn i feysydd newydd, gan gynnwys gofal cymdeithasol a disgyblaethau arbenigol fel orthopedig, ochr yn ochr â chyfleoedd mewn ystadau, gweinyddu a gwasanaethau cymorth, gan agor ystod eang o lwybrau gyrfa y tu hwnt i swyddi clinigol traddodiadol.
Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn dod â phocedi o gydweithredu presennol ar draws y coleg ynghyd i un fframwaith strategol, gan alluogi’r ddau sefydliad i wneud rhagor, ymestyn yn bellach ac ymateb yn gynt i anghenion y gweithlu.
Bydd hefyd yn helpu i leihau pwysau recriwtio, gwella cyfraddau cadw a chefnogi heriau hyfforddi parhaus o fewn y sector iechyd.
Canolbwynt cadarn o’r bartneriaeth ydy paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gofal iechyd ar gyfer cymunedau Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau dwyieithog, gyda Choleg Cambria yn cyflwyno hyfforddiant Cymraeg i nyrsys yn barod i sicrhau y gallai staff y dyfodol fodloni anghenion ieithyddol a diwylliannol lleol.
Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o amgylcheddau hyfforddi o safon y diwydiant, gan gynnwys adeilad Nant y coleg, gwerth £14 miliwn, ar ei safle Iâl yn Wrecsam, sy’n cynnwys wardiau ysbyty efelychiedig a dysgu rhithwir trochol, gan roi profiad o’r byd go iawn i ddysgwyr mewn lleoliad diogel ac arloesol.
Bydd y bartneriaeth gadarn yn cael ei gyrru gan grŵp llywio strategol ar y cyd, gan greu cyfleoedd newydd, cadarnhau cyfathrebu a sicrhau bod syniadau arloesol yn parhau i ddatblygu – er budd i ddysgwyr, y gwasanaeth iechyd a chymunedau ledled y rhanbarth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk.