Background Splash

Cyhoeddi - 21/05/2026

ILS Cambria

Bydd y rhaglen blwyddyn o hyd yn cael ei ddysgu yn yr ysbyty ac yn dechrau ym mis Medi ac wedi’i lunio i bontio’r bwlch rhwng addysg a’r gweithle trwy roi profiad go iawn i fyfyrwyr o leoliad GIG prysur.

I ddechrau bydd y rhaglen yn cynnig llefydd i chwech o interniaid gyda cheisiadau ar agor i’r rheiny gyda Chynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP) neu Gynllun Datblygu Unigol (IDP).

Dan arweiniad adran Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) Coleg Cambria bydd yr interniaeth yn gweld cyfranogwyr yn cylchdroi mewn amryw o yn yr ysbyty ac yn datblygu sgiliau ymarferol, hyder ac annibyniaeth wrth dderbyn cymorth wedi’i deilwra gan fentoriaid cyflogadwyaeth ac anogwyr swyddi.

Mae’r fenter yn ymdrech ehangach i greu llwybrau mwy cynhwysol ar draws Gogledd Cymru gan gyfuno cryfderau addysg, gofal iechyd a phartneriaid cyflogaeth â chymorth arbenigol. Nod y bartneriaeth wrth leoli dysgwyr yn uniongyrchol yn y gweithle yw eu cyfarparu â’r profiad a’r sgiliau sydd ei angen ar gyflogwyr.

Meddai Jo Green, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer SBA yng Ngholeg Cambria Llaneurgain: “Dyma gyfle gwych i’n interniaid ennill profiad gwaith ymarferol a gwirioneddol mewn amgylchedd ysbyty.

“Trwy ein rhaglen interniaeth â chymorth gall interniaid fagu hyder, datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a gweithio at well annibyniaeth.

“Mae’r bartneriaeth yn cynnig llwybr ystyriol mewn cyflogaeth gan alluogi dysgwyr i brofi disgwyliadau’r gweithle wrth gael eu helpu i gyflawni eu potensial.”

Mae’r adeilad newydd yn adeiladu ar fwy na degawd o dystiolaeth o safleoedd DFN Project SEARCH sydd wedi dangos fod interniaeth â chymorth wedi gwella canlyniadau cyflogaeth i bobl ifanc gydag anableddau dysgu yn sylweddol.

Ychwanegodd Tracey Amos, Arweinydd Gweithrediadau ar gyfer Ehangu Mynediad ac Interniaethau â Chymorth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mewn cydweithrediad â’n partneriaid rydyn ni’n falch iawn o lansio rhaglen DFN Project SEARCH yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Medi.

“Dros y ddegawd ddiwethaf mae tystiolaeth o’n safleoedd presennol wedi dangos yn gyson yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen wedi’i gael gan gynnig buddion ystyrlon ar gyfer interniaid a staff.”

Mae disgwyl i’r fenter chwarae rôl allweddol mewn cyflwyno cyfleoedd gyrfaol a chefnogi anghenion y gweithle ar yr un pryd ac nid yn unig yn trawsnewid bywydau cyfranogwyr ond hefyd yn annog mwy o ymarferion recriwtio cynhwysol ledled y rhanbarth.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost