Background Splash

Cyhoeddi - 02/06/2026

Olivia Kassab

Mae Olivia Kassab, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, wedi treulio’r saith mlynedd diwethaf yn datblygu drwy lefelau amrywiol o astudio yng Ngholeg Cambria ac erbyn hyn mae hi’n cwblhau Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Sifil – taith a ddechreuodd ar raglen lefel mynediad.

Tra roedd hi yn yr ysgol, cofrestrodd Olivia ar gyfer BTEC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ar safle Ffordd y Bers y coleg.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, aeth hi ymlaen i astudio Lefel 3 yn yr un pwnc, gan ddatblygu ei gwybodaeth o’r sector a chadarnhau ei uchelgeisiau i fynd ar drywydd gyrfa mewn peirianneg.

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, sicrhaodd Olivia brentisiaeth gyda Bingham Rawlings Partnership Ltd yn Wrecsam, ymgynghoriaeth peirianneg sifil a strwythurol sefydledig sy’n darparu gwasanaethau dylunio ar draws prosiectau domestig, masnachol a sector cyhoeddus ers troad y ganrif.

Gan weithio yn y cwmni bellach fel technegydd peirianneg, mae Olivia yn aelod parhaol o’r tîm ac yn edrych ymlaen at swydd gyffrous yn y diwydiant.

“Dwi wir wedi mwynhau fy amser yng Ngholeg Cambria,” meddai hi. “Dwi wedi bod eisiau gweithio yn y sector yma ers erioed, a rhoddodd y coleg y cyfle i mi ddechrau ar lefel mynediad a gweithio i fyny i brentisiaeth gradd. Gyda gwaith caled a dyfalbarhad, rydych chi wir yn medru cyflawni eich nodau.”

Ar ei thaith, mae Olivia wedi cwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) cyn symud ymlaen i lwybr prentisiaeth gradd mewn Peirianneg Sifil sy’n cael ei chyflwyno yn Ffordd y Bers mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.

“Wrth astudio dwi wedi bod yn ennill profiad yn Bingham Rawlings, sydd wedi bod yn wych,” ychwanegodd hi.

“Mae’r tiwtoriaid yn Cambria wedi bod yn rhyfeddol, yn enwedig Tammy Barlow. Rhoddodd eu cefnogaeth yr hyder i mi barhau i ddatblygu a fy helpu i fynd i’r cyfeiriad cywir i fynd ar drywydd fy ngyrfa ddewisol. Fy nod ydy dod yn beiriannydd adeiladu a dwi’n edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod yn y bennod nesa’.”

Mae’r llwybr prentisiaeth gradd yn galluogi dysgwyr i gyfuno astudiaeth academaidd gyda chyflogaeth â thâl, gan ennill profiad ymarferol mewn meysydd fel peirianneg sifil, rheoli adeiladu a thirfesur gan ddysgu wrth weithio.

Canmolodd Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd y Safle yn Ffordd y Bers yn Wrecsam, ymrwymiad Olivia.

“Mae taith Olivia yn enghraifft arbennig o sut mae dysgwyr yn gallu datblygu drwy’r coleg ac adeiladu gyrfa lwyddiannus yn eu maes dewisol,” meddai.

“Trwy ymroddiad, partneriaethau gyda chyflogwyr a chefnogaeth ein tiwtoriaid, gallai dysgwyr ddechrau ar lefel mynediad a datblygu’r holl ffordd i addysg uwch a thu hwnt. Rydyn ni’n andros o falch o weld Olivia’n ffynnu ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi barhau ar ei thaith.”

Ar ôl cwblhau ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Cambria, bydd Olivia yn symud ymlaen i fynd i’r afael â dwy flynedd olaf ei chymhwyster ym Mhrifysgol Wrecsam.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost