Background Splash

Cyhoeddi - 03/06/2026

Aled Morris

Mae Aled Morris, ffermwr o Langollen a darlithydd Peirianneg Amaethyddol ar safle Llysfasi y coleg, wedi dychwelyd i’r gwaith i gymeradwyaeth ar ôl rownd terfynol Britain’s Got Talent, lle daeth côr ffermwyr Hawkstone yn fuddugol yn erbyn sioe golau drôn Celestial.

Swynodd y côr o 34 aelod, a oedd yn cynnwys ffermwyr a gweithwyr amaethyddol o bob cwr o’r DU, filiynau o wylwyr gyda pherfformiadau emosiynol a neges bwerus yn tynnu sylw at iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yn y diwydiant ffermio.

Wedi’i ffurfio ym mis Mai 2025, daeth y côr ynghyd yn wreiddiol ar gyfer ymgyrch hysbysebu cwrw Hawkstone cyn esblygu i fod yn rhwydwaith cymorth agos i’r rhai sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth. Gwnaeth mwy na 500 o bobl gais i ymuno â’r grŵp, sy’n cynnwys 10 aelod o Gymru.

I Aled, dechreuodd y daith ar ôl i’w ddyweddi Sarah ei annog i wneud cais pan welodd hysbyseb yn chwilio am ffermwyr a oedd yn gallu canu.

“Dwi’n medru dal tiwn, felly mi wnes i anfon fideo ohonof fy hun yn canu Hen Wlad Fy Nhadau ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nerbyn,” meddai.

“Doeddwn i heb sylweddoli beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd tan i mi gyrraedd maes parcio tafarn Jeremy Clarkson, The Farmer’s Dog.”

“Roedden ni yno i ffilmio hysbyseb ar gyfer cwrw Hawkstone. Roedd yn hysbyseb ddadleuol, ond cawson ni gymaint o hwyl yn ei gwneud. Mae Jeremy wedi gwneud cymaint dros y gymuned ffermio ac roedd yn gefnogol iawn drwyddi draw.”

“Fe wnaethon ni i gyd gadw mewn cysylltiad wedyn drwy grŵp WhatsApp, ac yna awgrymodd ein cyfarwyddwr cerdd ein bod ni’n gwneud cais am Britain’s Got Talent. A dyna ddechreuodd hyn i gyd.”

Enillodd perfformiad clyweliad y côr o One Day Like This gan Elbow sêl bendith y Golder Buzzer gan y beirniad Amanda Holden, gan eu hanfon nhw’n syth drwodd i’r sioeau byw.

Ar ôl ennill eu rownd gynderfynol gyda pherfformiad cyffrous o Pompeii gan Bastille, fe gyrhaeddon nhw’r rownd derfynol, lle mi wnaethon nhw berfformio cân wreiddiol, This Is Home, wedi’i hysbrydoli gan eu gwreiddiau ffermio.

“Roedd canu cân wreiddiol ar y llwyfan yna nos Sadwrn yn anhygoel,” meddai Aled.

“Dydw i dal ddim yn gallu credu ein bod ni wedi ennill. Mae’n teimlo’n hollol swreal. Mae’r daith gyfan wedi bod yn anhygoel, er dydw i ddim yn teimlo’n wahanol o gwbl. Roedd cerdded yn ôl i’r coleg ddydd Llun i gymeradwyaeth gan y myfyrwyr yn hyfryd.”

Gadawodd y perfformiad y beirniaid yn amlwg yn emosiynol. Dywedodd Amanda Holden, a oedd wedi dyfarnu ei Golden Buzzer i’r côr yn gynharach yn y gystadleuaeth, wrthyn nhw: “Rydych chi wedi gwneud i mi grio eto. Fedrai ddim bod yn fwy balch ohonoch chi.”

Dywedodd Aled fod un o amcanion allweddol y côr erioed wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl sy’n wynebu pobl sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth.

“Mae ffermio yn swydd unig iawn ac mae iechyd meddwl yn broblem enfawr ar draws y diwydiant,” meddai.

“Rydych chi’n treulio llawer o amser ar eich pen eich hun gyda’ch meddyliau eich hun, felly roedden ni eisiau taflu goleuni ar hynny. Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn llethol ac yn hynod galonogol. Mae’n teimlo fel bod y genedl yn ein cefnogi ni.”

Mae’r côr wedi addo rhoi cyfran sylweddol o’i wobr ariannol o £250,000 i elusennau sy’n cefnogi iechyd meddwl yn y gymuned ffermio, a bydd yn perfformio yn y Royal Variety Performance yn ddiweddarach eleni o flaen y Brenin Siarl III.

Gyda phriodas yn ddiweddarach y mis hwn ac ymddangosiad yn y Royal Variety o’i flaen, mae Aled yn cyfaddef bod bywyd wedi troi’n gorwynt.

“Dwi’n priodi ddiwedd mis Mehefin a rŵan yn paratoi i ganu i’r Brenin – mae’r cyfan yn teimlo’n swreal ond yn wych. Rŵan mae gennym ni’r broblem wych yma o benderfynu beth rydyn ni’n mynd i’w ganu i’r Teulu Brenhinol!” meddai.

Ychwanegodd Pennaeth Llysfasi Coleg Cambria, Elin Roberts: “Rydyn ni’n hynod falch o Aled a phopeth y mae wedi’i gyflawni gyda Chôr Ffermwyr Hawkstone. Mae ei angerdd dros amaethyddiaeth a’i ymroddiad i’n dysgwyr yn ei wneud yn llysgennad gwych i Lysfasi, ac mae ei lwyddiant yn taflu goleuni cenedlaethol ar ffermio a’r cymunedau gwledig yr ydym yn eu gwasanaethu.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost